Oes posib fod y Gymraeg, iaith frodorol Prydain, yn dechrau ailafael yng ngwledydd yr ynys a thu hwnt? – Gruffydd Meredith

gan Gruffydd Meredith ’De ni gyd wedi clywed y trafod syrffedus am ddyfodol y Gymraeg. Oes, mae heriau yn wynebu’r Gymraeg, yn arbennig yr allfudo o Gymru, y mewnlifiad direolaeth o weddill Prydain a thu hwnt, a pholisi Llywodraeth Cymru i adeiladau degau o filoedd o dai dros Gymru nad sydd yn rhoi unrhyw flaenoriaeth […]

Continue Reading

Diwrnod #RhAGorol i Addysg Gymraeg yn Y Barri

Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi llongyfarch Cyngor Bro Morgannwg ar benderfyniad hollbwysig i agor ysgol Gymraeg fel rhan o ddatblygiad y Glannau yn Y Barri. DWBLI DARPARIAETH Daw hyn wrth i’r Cabinet gymeradwyo gweithredu cynnig i ehangu darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg yn y Barri, trwy gynyddu capasiti Ysgol Sant Baruc o 210 i 420 […]

Continue Reading

Gorymdaith i ddathlu 70 mlynedd o addysg Gymraeg yng Nghaerdydd

‘Os ydych yn gyn-ddisgybl dewch i gefnogi’ch hen ysgol’ Bydd cynrychiolaeth o holl ysgolion Cymraeg Caerdydd y presennol a’r gorffennol yn gorymdeithio fore Sadwrn Mehefin 22ain i ddathlu 70 mlynedd o addysg Gymraeg yng Nghaerdydd.  Disgwylir y bydd Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a chyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd Bryntaf ac Ysgol Gymraeg Glantaf, yn […]

Continue Reading

Sail @Cymdeithas am Her Gyfreithiol asesiadau effaith iaith

Mae Cyngor Gwynedd yn wynebu her gyfreithiol os yw’n bwrw ymlaen gyda newid polisi a fyddai’n atal cynghorwyr rhag comisiynu asesiadau effaith iaith ar y rhan helaeth o geisiadau cynllunio, yn ôl y bargyfreithiwr Gwion Lewis. Mae pwyllgor o gynghorwyr o Wynedd ac Ynys Môn wrthi’n ystyried canllawiau cynllunio atodol, a fyddai, ymysg materion eraill, […]

Continue Reading

Bendigeidfran Bendigedig!

Cynhaliwyd diwrnod arbennig a chwbl unigryw gan Gymdeithas yr Iaith  i bontio cymunedau ifanc a chreadigol Cymraeg a Gwyddeleg yn Neuadd y Farchnad Caernarfon.  Enwyd y digwyddiad yn ‘Prosiect Bendigeidfran’ gan i’r cymeriad yn y Mabinogi ddefnyddio’i gorff i greu pont rhwng Cymru ac Iwerddon. Bwriad y dydd oedd rhannu syniadau a dysgu am ein gilydd […]

Continue Reading

#taithyriaith am 1 ysgol Gymraeg yn pasio “heibio 9 ysgol Saesneg”

YMGYRCHU I GEISIO SICRHAU ADDYSG GYMRAEG YNG NGHYMUNEDAU PONTYPRIDD Bydd ymgyrchwyr sy’n galw am addysg Gymraeg yng nghymunedau ochrau Pontypridd yn gorymdeithio o Ynysybwl i Rydfelen ar Ddydd Sadwrn 13eg Ebrill. Mae rhieni a chefnogwyr sy’n gwrthwynebu penderfyniad Cyngor Rhondda Cynon Taf i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton ac Ysgol Heol-y-Celyn er mwyn […]

Continue Reading

#CyfeillionYCymro Yn Cyflwyno yr Artist @Ffion_Gwyn o Daliesin

Bu rhaglen deledu Countryfile yng Nghricieth yn ddiweddar i ymweld â’r artist Ffion Gwyn. Eu bwriad oedd dogfennu casgliad o ddyluniadau botanegol a’u gelwir yn “Cyfres Cymru”; casgliad o waith celf sy’n dangos rhywogaethau adnabyddus o fyd natur yng Nghymru. Bu’r criw yn ffilmio ar y traeth ger Castell Cricieth, ac yna yn stiwdio’r Ffion […]

Continue Reading