CYHOEDDI GRANTIAU #CYMRAEG CYNGOR LLYFRAU CYMRU

Yn dilyn galwad agored am syniadau ar gyfer cylchgronau Cymraeg oedd yn dymuno gwneud cais am nawdd, derbyniwyd 19 o geisiadau gan gyhoeddiadau hen a newydd gan Gyngor Llyfrau Cymru. Llwyddwyd i gefnogi 17 o deitlau, dau ohonynt yn newydd i’r maes. Yn ogystal â hynny, llwyddwyd i gynnig arian datblygu unwaith ac am byth […]

Continue Reading

John Rea : #Atgyfodi #SainSainFfagan

Wyn Williams o Gyfeillion Y Cymro sy’n sgwrsio â’r cyfansoddwr John Rea. Wyn Williams: Beth ysbrydolodd Atgyfodi? John Rea: Fe wnaeth Atgyfodi dyfu o glywed lleisiau archif amgueddfa Sain Ffagan. Mae’n fraint mawr i gael defnyddio a chreu darn o waith a chael defnyddio’r lleisiau yma. Meddylfryd Iorwerth Peate [curadur cyntaf yr Amgueddfa Werin] oedd bod ein hanes ni, fel […]

Continue Reading

Pwy sy’n cofio #DwmplenMalwoden ? @Prifysgol_Aber !

Wedi ei chyfnod llewyrchus yn yr 80au cynnar ddod i ben, #YCymro sy’n gofyn: Pwy sy’n cofio #DwmplenMalwoden? Nid malwod Cymru, mae’n debyg… Ydych chi’n cael trafferth cofio beth wnaethoch chi neithiwr? Dychmygwch fyw fel malwoden, ble mae treulio amser gyda ffrindiau yn atgyfnerthu’r cof! Yn ôl ymchwil gan Dr Sarah Dalesman yn Prifysgol Aberystwyth, […]

Continue Reading

@LlyfrauCymru : Dathlu #DiwrnodBarddoniaeth

Dydd Iau, 4ydd Hydref 2018 yw #diwrnodbarddoniaeth ! Megis y Galiaid dewr yn llyfrau Asterix sydd ambell waith yn mynd am dro gyda’u hieir i’r goedwig (cwestiwn cwis posib: ym mha rifyn o Asterix digwyddodd y fath beth – a phaham?!) beth am ddathlu Diwrnod Barddoniaeth trwy fynd â’ch barddoniaeth am dro, ac o bosib […]

Continue Reading

Dau Gi Bach yn Arwain Ymgyrch Godi Arian i Gylchoedd @MudiadMeithrin

Bydd ‘Dau Gi Bach’ yn mynd i godi arian ar ran Mudiad Meithrin yn ystod wythnos 1-7 Hydref! Mae hyn yn dilyn ymgyrchoedd llwyddiannus tebyg Mudiad Meithrin gan gynnwys torri record y byd wrth gynnal ‘Parti Pyjamas Mwyaf y Byd’ a ‘Rhywbeth Neis Neis i De’. Nod gweithgareddau’r ymgyrch sydd wedi’i seilio ar yr hwiangerdd […]

Continue Reading

Cyfaill i’r #Cymro – ac aelod o @Cymdeithas – yn galw am gwricwlwm newydd i annog tafodieithoedd Cymraeg

Mae Aled Thomas, awdur llythyr y mis i’n rhifyn mis Ebrill 2018, wedi galw am fwy o gamau i sicrhau bod mwy o elfennau Cymraeg wedi’u cynnwys yn y Cwricwlwm Cenedlaethol. Daw hyn yn dilyn ei lythyr ar yr un thema at sylw golygyddion Y Cymro ac wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu cwricwlwm newydd i […]

Continue Reading

Gair o Groeso gan y Cadeirydd – Lyn Ebenezer

  Galwch e’n gyd-ddigwyddiad, ond wrth i mi wynebu sgrin fach fy ngliniadur a hel meddyliau ar gyfer fy ngholofn gyntaf i’r Cymro newydd, dyma sylweddoli fod yr ailymddangosiad yn cyd-fynd â hanner canrif o gyfrannu i’r papur. Ie, nôl yn 1968 y cyflogwyd fi i fel gohebydd Y Cymro yn ardal Aberystwyth, plwyf a ehangodd, yn raddol, i gynnwys […]

Continue Reading