Yn dilyn dinistrio un o brif ddatganiadau gwleidyddol Cymru, mae un o Gyfeillion Y Cymro – y cartwnydd Mumph – wedi awgrymu ymateb teg i’r gwatwar ar wal enwocaf Llanrhystud, Ceredigion.
Mae’r Cymro arlein wedi ystyried ceisio cysylltu gyda pherthnasau pell Elvis yn ardal enedigol ei fam, sef Preseli, ond mae’n dipyn o daith a does neb am yrru heibio’r wal hyll heno. Tra ein bod yn parhau i geisio cysylltu gyda Elvis ei hun am ddatganiad o’i fedd, dyma gartŵn. Does wybod a fydd yna rocio da heno yng Ngorllewin Cymru.
Cofiwch hefyd dreiglo ar ôl ffurf fer y ferf…roc a rôl! Yh hy…
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.