Rhowch i mi raglenni o fyd di-covid plîs …o’r dyddiau hyfryd yna a fu! – Dylan Wyn Williams

gan Dylan Wyn Williams Fel un sy’n dueddol o osgoi rhaglenni’r pandemig fel y pla, sgiwsiwch y mwysair, bues i’n amenio’r actor John Simm yn ddiweddar.  Sôn am ei rôl fel ditectif yng nghyfres ddrama newydd Grace oedd o, a ffilmiwyd fis Awst diwethaf. Roedd ITV wedi penderfynu portreadu byd di-covid, heb ecstras mygydog nac arwyddion […]

Continue Reading

Ar y cyfryngau. Dihangfa bleserus i bob cwr o Gymru â ninnau’n sownd adra – gan Dylan Wyn Williams

gan Dylan Wyn Williams Am Dro (Cardiff Productions) ydi un o lwyddiannau diweddar S4C. Hoff daith gerdded pedwar cystadleuydd sy’n cael eu sgorio ar sail y golygfeydd, eu gwybodaeth gyffredinol, y picnic ac ambell brosecco neu hyd yn oed barti bechgyn yn  morio ‘Calon Lân’ – cyn dychwelyd adra efo mil o bunnoedd neu ormod o bothelli. Â’r […]

Continue Reading

Creu gwyrthiau i’r safonau uchaf… ond beth am fwy o amrywiaeth o actorion? Ar y cyfryngau gyda Dylan Wyn Williams

gan Dylan Wyn Williams A ninnau adra’ rownd y ril, heb arlliw o fywyd cymdeithasol, mae rhywun yn cael tipyn mwy/gormod o amser i feddwl.  Meddwl am bethau dyrys fel:  Veganuary ac Ionawr Sych ynghanol pandemig noethlwm – pam?  Pam nad ydy gohebwyr a golygyddion Cymraeg yn nabod eu harddodiad?  Dw i’n ochneidio’n aml wrth […]

Continue Reading

Rhifyn Tachwedd Y Cymro allan yn y siopau rwan nawr

Mae rhifyn Tachwedd o Y Cymro allan yn y siopau rwan nawr. Newyddion am y Senedd, Wylfa B, cynlluniau am fanc newydd i Gymru a llawer mwy. Colofnau gan Iestyn Jones, Esyllt Sears, Lyn Ebenezer, Aled Gwyn Jôb, Cadi Gwyn Edwards, Bethan Ruth Roberts (Cadeirydd newydd Cymdeithas yr iaith), Dylan Wyn Williams, Meirwen Lloyd, (Merched […]

Continue Reading