gan Dylan Wyn Williams
Am Dro (Cardiff Productions) ydi un o lwyddiannau diweddar S4C. Hoff daith gerdded pedwar cystadleuydd sy’n cael eu sgorio ar sail y golygfeydd, eu gwybodaeth gyffredinol, y picnic ac ambell brosecco neu hyd yn oed barti bechgyn yn morio ‘Calon Lân’ – cyn dychwelyd adra efo mil o bunnoedd neu ormod o bothelli.
Â’r drydedd gyfres wedi gorffen nos Sul, roedd yn ddihangfa bleserus i bob cwr o Gymru â ninnau’n sownd adra. Nant Gwrtheyrn, Parc Loggerheads, Carreg Cennen, Gŵyr – maen nhw i gyd ar fy rhestr pan ddaw’r haf a’r brechlyn.
Daeth y cynhyrchwyr o hyd i griw difyr ac amrywiol ag ambell stori boenus i’w hadrodd – galar, iselder, heriau rhiant sengl, cyfnod dan glo yng Ngwlad Thai. Cawsom ambell wyneb cyfarwydd o gyfresi adloniant eraill (Canu gyda fy arwr), model dillad isa a ‘dylanwadwyr’ honedig TikTok, ond ar y cyfan, creaduriaid digon clên, prin yn pechu oedden nhw. Heblaw am Llŷr. Llwyddodd yr hogyn o Sling i godi gwrychyn y Twitteratis yn ddiawledig, ond roedd hwn wedi deall y gêm i’r dim. Fo ydi’r fersiwn Gymraeg o Nasty Nick Big Brother. Mi gaiff gyfres ei hun ar Hansh cyn hir.
Ac wrth grwydro ’nghynefin, mi lawrlwythais sawl podlediad i’r ffôn bach. Does dim pall ar boblogrwydd y genre true crime – fel y profodd 11 miliwn o wylwyr The Pembrokeshire Murders, première mwyaf llwyddiannus ITV ers 2006 – a dw i’n wirioneddol argymell un Gymraeg.
Ffrwyth ymchwil y newyddiadurwr Ioan Wyn Evans ydi Y Diflaniad (“Dim corff, dim tyst, dim cyfaddefiad”) am ddirgelwch Stanislaw Sykut (ac mae clywed yr enw hwnnw mewn acen Sir Gâr yn odidog), cyn-filwr o Bwyliad aeth ar goll o’i ffarm yng Nghwm-du, Dyffryn Tywi, ym mis Rhagfyr 1953.
Mae ’na bopeth yn hon – cyfweliadau â chyn-blismyn a phentrefwyr, sïon am ddylanwad y Sofietiaid, tro i Lundain ddoe a Lublin heddiw – y cyfan i gyfeiliant ffidil wylofus a chwaraeir gan Patrick Rimes.
Cydymaith cerdded arall oedd deryn prin ar Radio Cymru, sef cyfres ddrama.
Mae Perthyn gan Lleucu Roberts â’i bys ar y pyls go iawn, yn llawn cymhlethdodau a checru teulu o ddatblygwyr yn Llŷn sydd eisoes yn boddi dan ail gartrefi.
Gyda deialog sy’n taro deuddeg, cymeriadau credadwy ac actorion gwerth chweil yn Rhian Blythe, Manon Wilkinson, Ffion Dafis, Llion Williams, Siôn Pritchard a Meilir ap Emrys fel y Sgotyn Cymraeg, roedd hon yn crefu am addasiad teledu.
Nid ar chwarae bach mae ffilmio drama yn y dyddiau sydd ohoni, felly mae unrhyw beth newydd i’w groesawu.
Roeddwn i wir eisiau mwynhau Fflam (Vox Pictures) ond yn anffodus, wnaeth y bennod gynta ddim cydio ac roedd bocset Clic ar streic cyn i’r Cymro fynd i’r wasg.
Drama ddomestig? Ffantasi? Thriller? Wn i ddim. Yn gryno, hanes dau gwpl â’u breuddwydion yn y fantol ar ôl i ddieithryn (Richard Harrington) brocio cof Noni, cogydd siarp ei thafod (Gwyneth Keyworth), am ei chyn-ŵr (Richard Harrington) a laddwyd mewn tân yng Nghaeredin flynyddoedd ynghynt.
Doeddwn i ddim yn malio rhyw lawer am y prif gymeriad – os rhywbeth, roedd stori’r cwpl hoyw Cymreig-Twrcaidd yn fwy diddorol.
A tydi golygfa rownd bwrdd lle mae cymeriadau’n cyflwyno llwnc destun o gariad neu werthfawrogiad at ei gilydd, byth byth yn realistig.
Pob clod iddyn nhw am fentro dan gyfyngiadau ffilmio llym, ond yn anffodus, tân siafins oedd hon i mi.
Cwestiwn i gloi. Fel rhan o ailwampiad newyddion Radio Cymru, pam nad ydi’r rhaglen brynhawnol wedi newid i ‘Dros Banad Hwyr’ neu ‘Dros Swpar Cynnar’?
Dim ond gofyn.
(Prif lun: Am Dro, S4C)
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.