gan Dylan Wyn Williams
A ninnau adra’ rownd y ril, heb arlliw o fywyd cymdeithasol, mae rhywun yn cael tipyn mwy/gormod o amser i feddwl.
Meddwl am bethau dyrys fel:
- Veganuary ac Ionawr Sych ynghanol pandemig noethlwm – pam?
- Pam nad ydy gohebwyr a golygyddion Cymraeg yn nabod eu harddodiad?
Dw i’n ochneidio’n aml wrth ddarllen neu glywed ‘elwa o’ yn hytrach na’r elwa ar (rywbeth/rhywun), to profit, cywir. Felly hefyd effeithio, heb yr arddodiad ‘ar’ wedyn.
Cafwyd enghraifft glasurol yn nisgrifiad y Daily Post o stori Rownd a Rownd: ‘Mae diflaniad Carys, Tom ac Aled yn parhau i effeithio Barry ac Iris yn ddirfawr’.
Cyn i chi sgrechian ‘Plisman iaith!’, fi ydi’r cyntaf i gyfaddef nad ydw i’n berffaith.
Ddim o bell ffordd. Dw i’n defnyddio idioma Saesneg heb sylwi, ac yn diawlio. Ond damia, es ati i ddysgu glo mân gramadegol ein hiaith o’r newydd, fel cyfieithydd rhwystredig.
Mae’n heriol ond yn haws diolch i gopi hanfodol o Pa Arddodiad? D. Geraint Lewis ar fy nesg.
Canllaw bach glas hollbwysig i unrhyw un sy’n ennill bywoliaeth trwy gyfrwng ein hiaith fregus. Mynnwch gopi, gyfryngis.
Gyda’r cyfyngiadau y daeth rhagor o gomisiynau drama, sy’n newyddion ardderchog. Meddai blyrb diweddar S4C:
“Bydd sawl drama newydd wreiddiol gyda ni eleni gan ddechrau gyda Fflam ym mis Chwefror sy’n serennu Richard Harrington, Gwyneth Keyworth a Memet Ali Alabora. Bydd drama Bregus ym mis Mawrth gyda Hannah Daniel yn actio’r brif rôl ac Yr Amgueddfa ym mis Mehefin gyda Nia Roberts a Steffan Cennydd yn serennu. Mae rhain yn siŵr o’ch cadw ar flaenau eich seddi a byddant ar gael fel bocs sets hefyd ar S4C Clic”.
Bydd y criw cynhyrchu’n creu gwyrthiau y tu ôl i fygydau, a’r actorion yn cydfyw/ymarfer/bwyta/yfed/dysgu llinellau mewn swigen nepell o’r set ffilmio.
Yr unig beth sy’n fy mlino yw’r diffyg amrywiaeth o actorion.
Mae’r uchod yn swnio fel croesbeilliad o wynebau cyfarwydd Y Gwyll a Craith ‘yn serennu’ heb lofrudd cyfresol. Galla i ddeall i hon fod yn broblem ym mabandod S4C, gyda dim ond dyrnaid o actorion Cymraeg proffesiynol, ond siawns bod pethau wedi gwella bron i ddeugain mlynedd yn ddiweddarach.
Meddyliwch am raddedigion di-ri y Coleg Cerdd a Drama a’r Drindod heb sôn am Lanaethwys y byd.
Gymaint ohonyn nhw ar ffyrlo o’r West End a naill ai’n creu dramatics canu o’u llofftydd ar gyfer YouTube a Heno, yn anfon lluniau i @S4CTywydd neu’n cyfrannu at fersiwn gabaret symol o Noson Lawen.
Mae’n dwyn i gof beirniadaeth adolygydd teledu’r Guardian am fewnforion poblogaidd o Sgandinafia, wrth i’r un hen rai ymddangos yn y ddrama Noir ddiweddaraf (‘Has Denmark run out of TV actors?).
O’r uchod, Yr Amgueddfa gan Fflur Dafydd sy’n apelio fwya, a hithau eisoes wedi sgwennu nofel a ffilm ias â chyffro am Y Llyfrgell.
Ynddi, mae Nia Roberts yn chwarae’r brif ran, y fam a’r wraig briod Dela, cyfarwyddwr cyffredinol newydd yr amgueddfa, sy’n disgyn dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad cythryblus gan blymio i isfyd troseddau celf y ddinas fawr ddrwg. Edrychwn ymlaen at ddarllediad ddechrau’r haf.
Mae cip ar dudalen ‘Comisiynau’ gwefan S4C hefyd yn dangos bod dramâu eraill yn dychwelyd i’r sgrîn.
Cawn drydedd gyfres o’r cynhyrchiad cefn-gefn Hidden a Craith â’i lobsgows o acenion, wrth i Cadi a Vaughan ymchwilio i farwolaeth ffarmwr; ac ail gyfres o Enid a Lucy sy’n “llawn syspens (sic) a thensiwn … gydag Enid, Lucy ac Archie bellach yn byw o dan yr un to”. Es i ddim pellach na’r bennod gyntaf ar ôl methu’n lân â chynhesu at yr un cymeriad, er i mi ddotio at ddeialogi, dychymyg byw a hiwmor du Siwan Jones yn Alys (2011-12) a Con Passionate (2005-08).
Efallai y dylwn i roi cynnig arall ar Thelma a Louise Llanelli os ddôn nhw’n ôl ar Clic.
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco a nifer fawr o siopau’r stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar gyfer fersiwn PDF digidol drwy ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.