Rhifyn Mehefin Y Cymro

Newyddion

Wel, am gyfnod o newid i’n gwlad. Dydi’r gair ‘digynsail’ ddim cweit yn gwneud cyfiawnder â’r peth.

Am fuddugoliaeth oedd hi i Blaid Cymru.

Un o’r pryderon mwyaf wrth i’r etholiad nesáu oedd gweld ryw ganlyniad blawd a dŵr …dim enillwr amlwg a mwy o drwsio a straffaglu i gadw Llywodraeth zombïaidd Llafur ar ei thraed rywsut. Cot o baent llachar i’n perswadio bod y stori gron wedi newid. Ond na – roedd yr amheuon yn anghywir a’r polau piniwn yn hollol iawn. Er tyfiant Reform fe enillodd Plaid Cymru yn syfrdanol ac maent yn ei haeddu.

Syrthiodd y canlyniad tu hwnt i gyhoeddiad rhifyn Mai y Cymro felly mae cyfle gwych yn un Mehefin i ddarllen barn ystyriol arno o bob pegwn. Mae gan bron i bob un o’n colofnwyr rhywbeth i ddweud amdano ac er y cynnwrf pleserus presennol mae’n amlwg bydd tipyn o ddadlau ar hyd y ffordd hefyd.

Meddai Heledd Gwyndaf: ‘Dw i ddim yn credu mod i’n dweud dim byd nad yw Rhun ap Iorwerth wedi meddwl (ac yn gweithredu arno) yn barod – bod rhaid i Blaid Cymru nawr lywodraethu fel mai dim ond pum mlynedd sydd ganddynt i wrthdroi yn llwyr ddyfodol Cymru. Wedi’r cyfan pwy a ŵyr pa rymoedd fydd ar waith erbyn hynny?’ Darllenwch ei barn yn llawn yn rhifyn Mehefin.

Meddai Dafydd Iwan: ‘…yn ddirybudd bron, ar Fai’r 8fed 2026, llefarodd Cymry gyfan gyda llais newydd – o bob cwr o’r wlad – eu bod yn dewis sefyll gyda Chymru yn hytrach na gwrando ar yr arch-Brydeiniwr o Sais Nigel Farage.’

Yn y rhifyn mae Cadi Edwards hefyd yn adrodd ei phrofiad o weithio ar y stori fawr: “Roeddwn llawn adrenalin (a siwgr) ar ôl bod yn y swyddfa o 5 y bore, tan 7 o’r gloch yr hwyr. Er y diwrnod hir, roeddwn yn llawn egni, a ddim eisiau i’r dydd ddod i ben.”

Darllenwch am ei phrofiad yn Y Cymro.

A pham felly oedd un o sêr roc mwyaf y byd yn nhref Machynlleth. Wel, mae unrhyw un sydd â chopi o Led Zepplein III yn gwybod am y cysylltiad yn iawn. Darllenwch y stori yn rhifyn Mehefin.

Mae’n od sut mae un llun weithiau yn gallu crynhoi cyfnod – adeg pan oedd popeth am newid yn llwyr ac am byth. Dyna sail colofn Dr Geraint Davies y mis yma sy’n sylwi ar ddiflaniad pethau oedd unwaith mor gyfarwydd yng Nghymru.

Mae rhifyn Mehefin ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: tanysgrifio@ycymro.cymru

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau