Mae cangen gyntaf erioed Cymdeithas Adeiladu Ecology wedi agor yn swyddogol yn y Porth Rhondda Cynon Taf, gyda Ecology yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i adnewyddu’r stryd fawr a bancio traddodiadol wyneb i wyneb.
Mae hyn yn mynd yn erbyn y llif diweddar sydd wedi gweld y prif fanciau yn gadael y stryd fawr gan achosi problemau i fusnesau bach, pobol sydd well ganddynt ddelio mewn arian parod, a phobol sydd ddim yn bancio ar-lein yn arbennig.

Cangen Y Porth yw cangen gyntaf Ecology erioed – cwmni sydd yn wreiddiol o Yorkshire ond sydd wedi penderfynu gosod gwreiddiau newydd yng Nghymru. Dywed Ecology y bydd hyn yn dod â chymorth wyneb yn wyneb ar gyfer gwasanaethau ariannol yn ôl i’r dref o oddeutu 6,000 o bobol – yn ogystal â’r ardal ehangach. Gadawodd y banc ola’r stryd fawr yn y Porth naw mlynedd yn ôl yn 2017.
Mi fydd Ecology yn cynnig gwasanaeth cynilo arferol, benthyciadau i fusnesau lleol a chymunedol, a hefyd morgeisi. Mae’r gangen hefyd yn cynnwys lle cymunedol pwrpasol sydd ar gael i grwpiau lleol ei ddefnyddio am ddim i gynnal gweithgareddau a digwyddiadau.

Mi fuodd gohebydd Y Cymro, Ben Roberts, yn holi Prif Weithredwr Ecology, Gareth Griffiths, ar ddiwrnod agored y gangen yn y Porth. Yn ôl Mr Griffiths mae Cymru wedi colli 65% o’i banciau stryd fawr ers 2015. Mae’n gobeithio y gallant gywiro’r diffyg yma ac agor rhwydwaith genedlaethol o ganghennau dros Gymru fydd, yn ôl Mr Griffiths, yn edrych a theimlo fel banc ond fydd yn cael ei berchen gan yr aelodau.
Lluniau gan Ben Roberts & Cymdeithas Adeiladu Ecology
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.