Mae Urdd Gobaith Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad bod Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2029, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant yr ŵyl.
Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Rydym yn falch iawn o glywed bod aelodau Cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi cytuno’n ffurfiol i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2029, ar beth fyddblwyddyn arbennig iawn, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant ein prifwyl.
“Llwyddiant yr Eisteddfod yr Urdd gyntaf yng Nghorwen yn 1929 yw’r sylfaen i’r hyn a welwn heddiw, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddychwelyd i Geredigion am y tro cyntaf ers 2010. Ein bwriad yw cynnal cyfarfod cyhoeddus ar nosIau, 18 Mehefin er mwyn dechrau ar y gwaith trefnu ar y cyd â gwirfoddolwyr lleol.”
Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Cheredigion oedd yng Nghiliau Aeron yn 2010, a chyn hynny yn Llanbedr Pont Steffan yn 1999.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’n achlysur balch iawn i Geredigion gael y cyfle i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn ystod blwyddyn ei chanmlwyddiant, sy’n atgyfnerthu’r gwreiddiau a’rcysylltiadau dwfn sydd gan Ceredigion â’r Urdd. Mae’r ŵyl yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r Gymraeg, y celfyddydau a chyfleoedd i blant a phobl ifanc, ac edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r Urdd a chymunedau lleol iwireddu Eisteddfod gofiadwy yn 2029.”
Meddai Helen Medi, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion yr Urdd: “Mae pwyllgor rhanbarth Ceredigion yn llawenhau o glywed y newyddion cyffrous fod yr wŷl yn dychwelyd i’r sir yn 2029. Pa le gwell i ddathlu canfed penblwydd yr Eisteddfod nag yng nghwmni’r Cardis! Rydym yn awchu i ddechrau ar y gwaith o gyd-weithio gyda’r holl ran-ddeiliaid er mwyn sicrhau y cyfleodd a’r profiadau gorau i’n plant a’n pobol ifanc.”
Bydd Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen, Gwent 2027 yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd a hynny am y tro cyntaf erioed. Ardal Caernarfon yn rhanbarth Eryri fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2028.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.