Rhifyn Tachwedd Y Cymro

Newyddion
A ydym yn prysur golli’r pethau gwerthfawr hynny sydd yn ein gwneud ni yn ni? 
 
A yw ymarferoldeb a llif poblogaeth aflywodraethus yn ein gwneud yr union ‘run fath a phawb arall yn ddistaw bach?
 
Dyma’r syniad sy’n cael sylw ar dudalen flaen Cymro fis Tachwedd.
 
Meddai Bethan Jones Parry yn ei cholofn am yr hyn mae hi’n tybio sy’n ein hwynebu ni oll fel Cymry: “Mae Cymru benbaladr a’r ardaloedd Cymraeg yn fwy na dim, mewn peryg o droi yn gymunedau o bobl sydd wedi ymddeol, a llawer yn fewnfudwyr sy’n methu siarad Cymraeg… rydyn ni – ymhob cwr o Gymru yn mynd yn dlotach ym mhob ystyr ac yn prysur golli yr hyn sydd yn ein gwneud ni yn wahanol i Loegr.” 
Darllenwch fwy o’i barn yn y rhifyn.
 
Sôn am Fyd Mary Jones a chanolfan Cymdeithas y Beibl mae’r colofnydd John Pritchard ac am y cyfle prin ddaeth i weld yr union Feibl hwnnw y cerddodd Mary mor bell i’w brynu. Ond dan wydr oedd o cofiwch… Meddai John “…er bod hynny’n gwbl ddealledig, mae yna rywbeth chwithig iawn am Feibl dan glo mewn cas wydr. Oherwydd llyfr i’w ddarllen yn hytrach na’i weld ydi’r Beibl.”
 
Neges drist iawn am gyflwr ei gwlad sydd gan y newyddiadurwraig Nonna-Anna Stefanova o Wcráin. Wrth drio cyfleu darlun clir o sut mae bywyd yno ers ymosodiad Rwsia meddai: “Dychmygwch gael eich erlid gan lofrudd yn eich tŷ eich hun. Mae am ddinistrio eich cartref a’ch lladd gyda’ch teulu yn y modd mwyaf creulon posib.’ Darllenwch fwy yn ei herthygl bwerus y mis yma. 
 
Ac mae Deian ap Rhisiart yn cwrdd â’r cerddor aml dalentog Lleuwen Steffan i’w holi am ei phrofiad yn teithio capeli Cymru. Darllenwch farn Lleuwen ar lu o bynciau yng Nghyfweliad Y Cymro.

Darllenwch fwy am y rhain a llawer mwy yn rhifyn Tachwedd Y Cymro sydd ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau