gan Nonna-Anna Stefanova, Newyddiadurwr, Sianel 5 Teledu (Wcráin)
Dychmygwch gael eich erlid gan lofrudd yn eich tŷ eich hun.
Mae am ddinistrio eich cartref a’ch lladd gyda’ch teulu yn y modd mwyaf creulon posib.
Neu o leiaf eich gorfodi i ffoi eich cartref am byth.
Nid yw pawb o’ch cwmpas yn meiddio helpu. Mae rhai yn eich annog i ddal ati ac eraill yn esgus nad yw hyn yn ddim byd mawr wedi’r cwbl.
Ond yn sydyn iawn, dach chi’n gweld pobl sydd wir yn barod i sefyll wrth eich ochr a’ch amddiffyn yn llythrennol wrth frwydro yn erbyn y llofrudd.
Dyma’n union beth y teimlais i un diwrnod yng ngaeaf 2023 pan gyfarfûm â phedwar gŵr o Gymru ar ddiwrnod heulog oer yn ninas Kyiv a oedd erbyn hynny yn rhannol wag.
Roedd dau aelod o’r Senedd yno, Mick Antoniw, o darddiad Wcrainaidd, a hefyd Cwnsler Cyffredinol Cymru, ac Alun Davies. A dau gyn-löwr, Carwyn Donovan, sy’n swyddog BECTU bellach, a Wayne Thomas, is-lywydd yr NUM dros Dde Cymru.
Roedden nhw wedi gyrru cerbydau 4×4 wedi’u llwytho ag offer achub bywyd o Dde Cymru i Wcráin i helpu eu ffrindiau, glowyr Wcrainaidd, yn brwydro ar faes y gad, yn amddiffyn eu gwlad rhag ymosodiad Rwsia.
Roedd hi’n union flwyddyn ers dechrau’r rhyfel ar raddfa lawn gan Rwsia yn erbyn Wcráin, pan ddeffrodd pobl Wcráin i glywed sŵn taflegrau balistig yn disgyn ar eu dinasoedd a’u trefi.
Ar Chwefror 24, 2025, bydd yr Wcrainiaid a fydd wedi goroesi tan hynny yn wynebu trydydd pen-blwydd y diwrnod hwnnw a rwygodd eu bywydau i gyd.
Er i Rwsia ddechrau ei rhyfel yn 2014 drwy atodi Crimea ac ymosod ar rannau o’r rhanbarthau yn nwyrain Wcráin, Chwefror 24, 2022 oedd y dyddiad pan amgylchynodd y rhyfel y wlad i gyd. Ers hynny mae perygl go iawn o ymosodiad gan Rwsia ar unrhyw ddinas Wcrainaidd unrhyw eiliad wedi dod yn ffaith bywyd i ni i gyd.
Dyma ein trydydd Tachwedd o fyw trwy ryfel ar raddfa enfawr.
Yn Wcráin, mae Tachwedd yn fis o goffadwriaeth bwysig, sef Diwrnod Cofio Holodomor, a ddethlir ar bedwerydd dydd Sadwrn mis Tachwedd (Tachwedd 24 eleni).
Dyma’r diwrnod pan fyddwn yn cofio’r miliynau o Wcrainiaid a gafodd eu lladd gan newyn a grëwyd gan ddyn, sef y genocide a drefnwyd gan drefn Stalin. Bob blwyddyn ar y diwrnod hwn, rydym hefyd yn cofio ac yn canmol Gareth Jones – newyddiadurwr o Gymru.
Gwelodd ef y newyn mawr yn Wcráin, ac yn y byd y tu allan daeth yn llais i’r bobl a newynwyd i farwolaeth dim ond am eu bod yn Wcrainiaid. Bu’n ddewr wrth ddweud y gwir am yr hil-laddiad hwn yn y cyfryngau gorllewinol, er gwaethaf y gwadu a’r bygythiadau o Foscow.
Yn ychwanegol at y perygl cyson gan Rwsia, mae’r misoedd cyn dyfodiad y gaeaf yn rhai o’r anoddaf i bobl Wcráin. Gallaf ddychmygu’n hawdd fod fy ninas, Kyiv, yn un o’r dinasoedd sydd wedi ei gwarchod fwyaf yn y byd.
Ond smae hi hefyd yn un o’r rhai mwyaf dymunol i’w goresgyn gan y gelyn, sy’n awyddus iawn i godi ei faner ar adeiladau’r llywodraeth yn ein prifddinas.
Ac er yr holl amddiffyn – sydd yn gryf iawn, nid yw’n dal yn ddigon, hyd yn oed yn y brifddinas. A beth allwn ni ei ddweud am ddinasoedd eraill Wcráin, fel Kharkiv, Sumy, Mykolaiv, Kherson, Dnipro, Chernihiv…? Pa agosaf ydyn nhw i Rwsia yna mae’n fwy peryglus ac ofnadwy.
Yn ystod y mis diwethaf mae Kyiv wedi cael ymosodiad arni gan dronau bob nos. Pan fydd Rwsia’n rheolaidd yn adnewyddu ei stoc rocedi, mae’n cynnal ymosodiadau enfawr gyda rocedi balistig ag uwchsonig.
Mae bron i bob nos yn ddigwsg oherwydd hyn – y dronau Rwsiaidd yn crynu yn yr awyr uwchben, sŵn y tanio o’n systemau amddiffyn a fflamau o ffrwydradau pan gaiff dronau neu rocedi’r gelyn eu saethu i lawr.
A’r sŵn mwyaf echrydus, ofnadwy, yw pan fydd roced yn taro targed. Yn fwyaf aml, seilwaith sifil fel cyfleusterau ynni, ysgolion ac ysbytai yw’r rhain. Fel ar Orffennaf 8, pan darodd roced uwchsonig Kinzhal Rwsiaidd ysbyty plant mwyaf Wcráin, sef Okhmatdyt.
Rydych yn gweld llai a llai o ddynion ar strydoedd fy ninas. A llai o ferched a phlant hefyd. Mae llawer o bobl rŵan yn teimlo’r baich annioddefol o fyw mewn rhyfel ac yn ffoi i wledydd eraill i warchod eu plant.
Ond mae miliynau o bobl hefyd wedi penderfynu aros er gwaethaf ymdrechion Rwsia i’n lladd ni i gyd neu i wneud i ni ffoi.
Felly mae bywyd o fath ar strydoedd Kyiv yn parhau, nes bydd y seirenau yn ei darfu, gan wneud i bawb fynd o dan ddaear eto – yn chwilio am loches mewn gorsafoedd Metro. Ac ar ôl i sŵn ein systemau amddiffyn ddistewi, mae’r bywyd a gafodd ei darfu’n ailddechrau.
Rydym i gyd yn gobeithio bod ein bywydau, er eu bod wedi’u rhwygo’n ddarnau, wedi’u torri ar eu traws yn unig ac nid wedi’u stopio am byth gan ymosodiad Rwsia ar Chwefror 24, 2022.
A phan fyddaf i yn ailafael yn fy mywyd eto, bydd hynny’n golygu’r gallu i gynllunio eto, nid dim ond ymateb i’r ymosodiad nesaf.
A bydd gen i ddyled nid yn unig i Dduw ac i luoedd arfog Wcráin, ond hefyd i gymorth ein cynghreiriaid a’r bobl ddewr o Gymru roedd efo fi ar strydoedd prifddinas Wcráin, Kyiv, ar ben-blwydd cyntaf ymosodiad Rwsia ar fy ngwlad.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.