Cyfweliad Y Cymro
gan Deian ap Rhisiart
Llun: Philip ar Bilig
Mae’r artist Lleuwen Steffan wedi dal dychymyg y genedl yn ddiweddar wrth iddi dreulio llawer o’r haf a’r hydref yn teithio capeli Cymru ac yn ail ddarganfod emynau coll y Werin.
Aeth Deian ap Rhisiart i sgwrsio gyda Lleuwen ynghanol ei thaith i drafod emynau, Cymru a Llydaw, y sefyllfa ym Mhalesteina a llawer mwy.
Mae Lleuwen – sydd wedi rhyddhau pedair albwm eisoes – yn adnabyddus bellach fel un o artistiaid mwyaf blaenllaw y sîn gerddoriaeth Gymraeg. Ac mae’r prosiect diweddaraf – Tafod Arian: emynau coll y werin – wedi bod yn daith yn wir ystyr y gair i’r gyfansoddwraig sy’n byw yn Llydaw ers 2009.
Mae’r stori yn dechrau yn 2012 wrth iddi ddod ar draws archif Casgliad y Werin yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.
Fel rhan o’r archif, fe roedd Robin Gwyndaf a fu’n gweithio yn Sain Ffagan wedi cynnal cyfweliadau gyda phobl ar lawr gwlad rhwng 1960au a 2011 ac yn sgil hyn wedi rhoi llawer o’n hanes byw ar gof a chadw, boed yn emynau neu’n alawon gwerin. Fel yr eglurodd Lleuwen: “Yn 2012 ddes i ar draws yr archif yma a chyfarfod Robin Gwyndaf. ‘Doedd o ddim yn fwriad gwneud dim byd. Mi oedd yn gwbl ddamweiniol. Dwi’n licio canu emynau ac ’nes i feddwl be am ’neud rhain, ond pan o’n i’n canu rhain fy hun efo gitar, doedd o ddim yn ddiddorol iawn.”
Felly, penderfynodd Lleuwen fynd ati i ddefnyddio trysorfa sain trwy gyfweliadau Robin Gwyndaf a’r archif yn ehangach. Tynnodd ynghyd leisiau pregethwyr, y diwygiwr Evan Roberts, a phobl ar lawr gwlad fel sylfaen i rywbeth newydd gwahanol tra’n plethu’r rhain gyda offerynnau a llais Lleuwen ei hun. Ymhlith y cyfweliadau, daeth ar draws y cyn Archdderwydd, William Morris o Gaernarfon a fu’n ffynhonnell diddorol tu hwnt i’w repetoire.
Meddai: “Mi oedd o’n byw yng Nghaernarfon, y fo oedd archdderwydd rhwng 1957 hyd 1959 ac mae gynno fo ddawn llefaru hefyd yn adrodd yr emynau yma – mi oedd yn bregethwr hefyd. Fe fuodd yn hel nhw ar hyd ei oes.”
Un arall a oedd wedi denu sylw Lleuwen oedd David Griffiths, fel eglurodd: “Be’ sy’n braf efo hwn – dwi wedi cysylltu efo disgynyddion y tu ôl i’r lleisiau ’ma – dwi’n defnyddio llais David Griffiths oedd yn foi arbennig iawn, ffarmwr yn ardal Llanfynydd oedd o yng Nghapel Isa.”
O ganlyniad, i’r drysorfa hon o leisiau cyfoethog ac hanes byw, mae Lleuwen trwy ei thaith wedi bod yn recordio aelodau o’r gynulleidfa hefyd. “Dwi wedi bod yn recordio pobl yn y festri mewn gwahanol lefydd a dwi wedi rhoi rheini i fewn hefyd. Ti’n clywed lleisiau pobl erill, dwi’n neud harmonïau i rheina a chyfeilio iddyn nhw – maen nhw’n fwy na sampl gan mai nhw di’r prif offeryn, yr hen leisiau yma.”
Mae’r teithiau eleni yn benllanw’r prosiect ond hefyd yn daith bersonol ryfeddol ac yn llafur cariad i Lleuwen ei hun wrth iddi ddod ar draws mwy a mwy o ddeunydd i’w hel a’u cynnwys yn y prosiect wrth iddi fynd yn ei blaen.
Gwrthgyferbyniad
Meddai: “Dwi wrth fy modd efo’r daith capeli – rwbath arall o’n i ddim wedi disgwyl neud o gwbl na disgwyl mwynhau gymaint. “Dwi erioed wedi mwynhau gigs gymaint a’r capeli ’ma, ma’ nhw mor amrywiol.”
Mae’r daith wedi bod yn wrthgyferbyniad mewn sawl ffordd i Lleuwen, i ddechrau rhwng yr hen a’r newydd o ran cynnwys, ond hefyd wrth iddi brofi lleoliadau a chynulleidfaoedd mor unigryw a gwahanol, a hynny o fewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Meddai: “Be’ sy’n ddifyr ydi’r cyferbyniad efo’r synau cyfoes a’r hen leisiau hyn. Dwi wedi bod yn dysgu sut i ddefnyddio’r geriach ‘ma i gyd a dwi’n troi fyny efo lot o bethe fel synths a sampler. Oedd ’na gyfuniad diddorol o bobl – yng Nghaerdydd ag Aberystwyth fedri di ddychmygu pwy sy’n mynd i fod yno, pobl sy’n mynd i gigs ond eto mae gen ti rai fel Capel Nant Ernis lle ti’n cael y gymuned, pobl capel lle gei di drafodaeth yn y Festri wedyn! Pobl yn dod i wrando ar ôl wyna! Dwi’n licio nhw i gyd, licio’r gigs i gyd ac ma’ nhw i gyd mor wahanol.”
Toriadau
Mae Lleuwen yn hynod ddiolchgar i staff Casgliad y Werin am eu cymorth yn gwireddu’r prosiect ond mae’n bryderus iawn o’r toriadau ariannol y mae Casgliad y Werin wedi gorfod wynebu yn ddiweddar.
“Y broblem rwan ydi staff,” fel yr eglurodd, “tri aelod o staff oedd wedi helpu fi, wedi galluogi’r prosiect yma i fod, yn gweithio yn yr archif, dydyn nhw ddim yn gweithio yno ddim mwy achos y toriadau. “Os ti’n mynd yno rwan yn gofyn am yr archif a be ydw i wedi’i ddefnyddio, fyse nhw’n methu ffeindio fo achos dydyn nhw ddim yn gwybod lle mae o – dyna ddangos sut mae’r toriadau yn effeithio ar bethau yn ymarferol.”
Mae Lleuwen yn bwriadu ymestyn y prosiect trwy deithio yn Llydaw, ei chartref ers 2009. “Mae hanes crefydd mor wahanol yn fan hyn (Llydaw), dio ddim yn cyfieithu mor hawdd. Dwi wedi dysgu beth i gynnwys a beth i beidio. “Yma, mae emynau yn cael eu gweld fel rhywbeth sy’n cael ei orfodi gan yr Eglwys Babyddol. Mae’n rhaid trafod hynny efo nhw a dweud eu bod nhw’n dod o’r bobl.”
Mae’n tynnu sylw at y ffaith mai diwylliant sy’n cael ei drin yn ymylol yw diwylliant y Llydaweg. “Dwyt ti byth yn mynd i gael gigs fel rhai Candelas neu Eden ar Lwyfan y Maes er bod pobl sy’n haeddu yr un statws yne yn Llydaw. Ond maen nhw’n defnyddio cerddoriaeth Llydaweg fel tokenism. Rhaid inni gael Llydaweg yna ond fedran ni ddim rhoi nhw ar y top neu fyse hynne’n rhyfedd. Mae’r gwyliau wastad yn creu ar gyfer cynulleidfa Ffrengig.”
O ran y Llydaweg yn y gymuned, “Mae’r holl oedolion dwi’n siarad efo, maen nhw i gyd wedi dysgu Llydaweg mewn gwersi neu fel arall pobl yn eu nawdegau ydyn nhw.”
Gwarchod y Gymraeg – gwers i Gymru o Lydaw
Ond mae’n rhybuddio i ni beidio llaesu ein dwylo yng Nghymru, er fod y Gymraeg i’w gweld mewn sefyllfa cryfach. “Mi ydan ni’n gallu colli petha mor sydyn. Dwi’n meddwl am y cyfryngau – mae’n rhaid edrych ar ôl y Gymraeg yn y cyfryngau ar y teledu ac ar y radio i warchod y Gymraeg hefyd. Yn fan hyn, mae gen ti bobl sydd wedi bod yn monoglot Llydaweg, mae yna bobl oedd ddim yn gallu siarad Ffrangeg tan oedden nhw’n ddeuddeg oed yn dal o gwmpas, mae genai gymdogion sydd fel hyn, hen bobl ond erbyn heddiw fyse ti ddim yn gallu dychmygu y ffasiwn beth”
Ychwanegodd, “Dyna pam mae iaith yn gallu mynd mor sydyn, felly, dwi’n teimlo hynne – yn enwedig efo pethe S4C sy’n wir ddim yn gofalu am yr iaith fel dyle nhw achos dydyn nhw ddim yn meddwl bod angen gwneud – ond maen nhw’n rong fedrai ddeutha chi. Mae yna gymaint o wersi yna. Mae pobl o Wynedd yn meddwl bod bob dim yn iawn, o be ti’n weld, ond dydio ddim!”
Mater arall sydd yn agos at galon Lleuwen yw Palesteina ac mae unrhyw gyfraniadau o’r daith capeli yn mynd at bobl Gaza a Libanus. “Be sydd wedi bod yn wych efo’r daith capeli – dwyt ti ddim yn gorfod talu i noddi’r daith. Mae unrhyw gyfraniadau gan y gynulleidfa yn mynd at achosion da ym Mhalesteina.”
Mae Lleuwen yn gweld y sefyllfa’n dorcalonus ac mae’r argyfwng yno angen hawlio ein sylw, fel eglurodd, “Faint o blant?, faint o fabanod? a’r holl farwolaethau yma sy’n mynd ymlaen, mae’n erchyll a’n bod ni’n sgrowlio trwy’r stwff a gadael iddo fynd, mae’n anodd gwybod be’ i wneud. “Mae’n rhaid dal ati i siarad am y peth. Sut fedr cymdeithas heddiw ddweud unrhyw beth yn erbyn y ffaith bod hwn yn erchyll tu hwnt?”
Wrth iddi edrych ymlaen at 2025, mae Tafod Arian yn troi golygon at Lydaw yn Ionawr. Pa drywydd newydd tybed ddaw i’r daith hon?
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.