Rhifyn Gorffennaf Y Cymro

Newyddion

Wrth i lywodraeth newydd y Blaid Lafur setlo yn San Steffan gan addo byd newydd – yr un hen stori sydd yng Nghymru.

Ie – aros am driniaethau i gael eu cwblhau ar restrau aros anferthol Gwasanaeth Iechyd Cymru.

Dyna sy’n hawlio’r sylw ar dudalen flaen rhifyn Gorffennaf. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r set hon o ffigurau perfformiad y GIG ar gyfer Ebrill a Mai yn siomedig ac mae’n dangos bod gennym gryn dipyn o waith i’w wneud o hyd i leihau arosiadau hir a wnaeth gronni yn ystod y pandemig”

Mae lluniau o orymdaith Caerfyrddin yn galw am annibyniaeth yn y rhifyn yma a hanes ymgyrch etholiadol unigryw sydd gan y colofnydd Bethan Jones Parry i’w drafod.

A gyda’r Brifwyl ar y gorwel, testun yr hanesydd Melfyn Hopkins y mis hwn yw tref Pontypridd wrth gwrs – a’r ffrae dros hysbyseb am gwrw yn steddfod 1893!

A sut fyd ariannol fydd hi wedi i ni ennill ein hannibyniaeth tybed? Y darlithydd economeg, Dr Edward Thomas Jones sy’n rhoi ei farn wrth ddweud: “Athrylith greadigol ein meddyliau fydd yn gyrru economi Cymru ymlaen”

Darllenwch fwy am y rhain a llawer mwy yn rhifyn Gorffennaf Y Cymro sydd ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw’r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau