Lleisiau Newydd:
gan Hannah Ellis, Blwyddyn 12 Ysgol Dyffryn Ogwen
Dydy blerwch gwleidyddol y byd ddim yn gyfrinach i unrhyw un; boed yn ymwneud â hawliau LHDTC+, hawliau merched, hiliaeth neu ryfeloedd diddiwedd.
Mae cefnogaeth ddynol yn dadfeilio. Ceisia llawer o bobl, gan gynnwys enwogion, brotestio a rhannu ymwybyddiaeth ar-lein i ennill hawliau hafal. Ond, a yw’r actifiaeth ddigidol hwn yn effeithiol neu’n niweidiol? Credaf y gall fod o gymorth, ond yn anffodus nid yw’n datrys problem…
Wrth i mi bori trwy gyfryngau cymdeithasol, gwelaf lawer o sôn am wleidyddiaeth. Ceisia llawer o bobl helpu, gydag actifiaeth ddigidol yn dod yn ddull blaenllaw o brotestio yn oes dechnolegol yr 21ain ganrif, ble mae 5.04 biliwn, neu 62.3%, yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol
Ond, beth yn union yw actifiaeth ddigidol?
Mae’n fath o weithrediaeth sy’n defnyddio’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol fel llwyfannau allweddol ar gyfer cynnull torfol a gweithredu gwleidyddol. Yn fwy diweddar, caiff y we ei defnyddio fel safle protest sy’n adlewyrchu ac yn chwyddo gwrthdystiadau all-lein. Enghreifftiau o ddulliau actifiaeth ddigidol yw e-bost, cyfryngau cymdeithasol a ‘hacktivism’.
A yw’n ddefnyddiol?
Y brif fantais i actifiaeth ddigidol yw ei bod yn lledaenu syniadau a gwybodaeth yn gyflym ar draws ffiniau a diwylliannau, wrth fod yn hygyrch mewn gwahanol hinsoddau byd-eang. Er enghraifft, yn ystod y pandemig, fe alluogodd pobl i weithredu gyda dulliau gwahanol i’r rhai traddodiadol i gadw at y mesurau a chyfyngiadau a roddwyd gan lywodraethau i atal COVID-19 rhag lledaenu.
Er hyn, mae modd dadlau bod y pyst wedi symud tu hwnt i reolaeth, gyda diwylliant modern newyddion 24 awr yn achosi i fater neu ymgyrch ledaenu ar draws y we un diwrnod a diflannu’r diwrnod wedyn.
Ystyriwch hefyd yr effeithiau seicolegol o ddefnyddio’r we fel dull o weithredu. Yn ôl Social Finance, mae 70% wedi gweld rhywbeth gofidus ar y we.
Yna, mae’r cynnydd mewn seibrfwlio, aflonyddu ar-lein a lledaeniad gwybodaeth anghywir wedi dod yn fagwrfa ar gyfer negyddiaeth a gwenwyndra. Gall hyn gael effeithiau andwyol ar iechyd meddwl; sy’n cryfhau’r ddadl bod angen gofod digidol mwy trugarog ac empathig.
Caiff gyfryngau cymdeithasol hefyd effaith ar berthnasoedd. Mae perthnasoedd wedi dod yn fwy cyhoeddus a pherfformiadol, gan gymylu’r llinellau rhwng meysydd personol a chyhoeddus. Oherwydd eu natur baradocsaidd, gall cysylltiadau rhithwir weithiau ddisodli rhyngweithiadau wyneb yn wyneb ystyrlon.
Ar y llaw arall, mae actifiaeth ddigidol wedi chwyldroi lledaeniad gweithrediaeth, gan ddarparu llwyfan ar gyfer cymunedau ymylol a mudiadau arferai fod heb lais i godi ymwybyddiaeth am faterion cymdeithasol ac ysgogi newid. Gall faterion ledaenu ar lein, e.e. oherwydd hashnodau, sy’n amlygu materion a phroblemau i fwy o bobl; mae gan gyfryngau cymdeithasol bŵer trawsnewidiol wrth lunio naratif cymdeithasol a sbarduno sgyrsiau ystyrlon.
Ond, a yw rhannu delwedd neu hashnod yn effeithiol mewn gwirionedd?
Mae’r term ‘virtue signalling’ yn cyfeirio at sut mae rhai yn tueddu i ganlyn y llif mewn achosion neu symudiadau tueddol i sgorio pwyntiau, heb fynd ar ôl y broblem â gweithred.
Golygai herwgipio hashnod bod eglurder a phwynt y neges wreiddiol yn cael ei golli mewn môr o bostiadau.
I ychwanegu, mae pobl yn gweld y cynnwys y maent yn cytuno hefo, sy’n cuddio realiti’r sefyllfa yn ogystal ag atgyfnerthu neu ymhelaethu ar gredoau rhywun. Cyfeiria’r term ‘slacktivism’ at ffordd ddiog ac aneffeithiol o weithredu, heb wir helpu achos.
Un ddadl arall yn erbyn actifiaeth ddigidol yw’r ffaith bod disgwyl i bobl ddibrofiad ac anwybodus rannu gwybodaeth am bynciau o ddifrifoldeb byd eang. Disgwylir i enwogion ac arbenigwyr rannu gwybodaeth am sefyllfa, ond sut all hyn fod o ddefnydd os nad ydym yn sicr o’u dibynadwyedd?
I grynhoi, credaf fod actifiaeth ddigidol yn arf ar gyfer codi ymwybyddiaeth, ond nid yw’n caniatáu chwyldroad neu ddatrysiad. Mae gan weithredoedd sgil-effeithiau; dydy bwriadau da ddim yn cadarnhau canlyniadau da, felly mae gweithrediaeth ar-lein angen cael ei hategu gan gamau byd go iawn i sicrhau newid cynaliadwy.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.