Glastonbury yw gŵyl fwyaf Prydain, gyda mwy na 200,000 o bobl a mwy na 2,000 o artistiaid dros fwy na 100 llwyfan ar fferm enfawr.
Ar ôl dechrau oer a gwlyb mis Mehefin, rhyddhad oedd bod yr ŵyl yn cymryd lle yn ystod tywydd poeth, ond efallai yn rhy boeth ar ôl cerdded 80 milltir yna dros 5 diwrnod yr ŵyl.
Roedd yn ymddangos bod llai o artistiaid Cymreig ar y rhaglen eleni o gymharu â blynyddoedd diweddar eraill, a dim ond 3 welais i yn canu yn Gymraeg, ond yn dal yn ddigon i orfod cynllunio ymlaen llaw sut i ddal cymaint â phosibl rhwng y llwyfannau pell.
Yr act Gymraeg gyntaf i mi ddal ar ddydd Gwener oedd Charlotte Church yn canu mewn sioe gyda Billy Bragg ar ei lwyfan, Leftfield, ac yn annog y gynulleidfa i ganu gyda hi, gyda sgwrs wleidyddol hefyd.
Roedd band Trampolene o Abertawe yn dilyn ar yr un llwyfan, gyda set indie roc, a gyda hanesion gan y blaenwr carismatig Jack Jones. Roedd enw mawr yn y sin metel, Skindred o Gasnewydd, yn chwarae yn hwyr yn y nos hefyd, ag roedd yn un o fy uchafbwynt setiau yr ŵyl gyda’i set ddifyr ac egnïol, a gyda’r blaenwr Benji Webbe yn annog y dorf i gymryd rhan.
Daliais i un o setiau N’Famady Kouyate, yn wreiddiol o Gini, ond nawr wedi ei leoli yng Nghaerdydd, yn agor y llwyfan Glade ar ddydd Sadwrn gyda synau o Affrica a balaffon wedi’i gymysgu â geiriau Cymraeg, a oedd yn cael pobl i ddeffro a dawnsio. Agorodd Cara Hammond y llwyfan Bread & Roses gyda set acwstig a llais hyfryd.
Ar y prynhawn Sul, gwelais i setiau mwy wedi ei ‘stripio’n ôl’ a gwerin traddodiadol gan Gillie a Bethan Lloyd lwyfan Toad Hall, a oedd yn anffodus yn gwrthdaro ag enwau mawr fel Shania Twain ac Avril Lavigne, a adlewyrchwyd gan faint y gynulleidfa.
Gwelais y tri prif fandiau ar y llwyfan Pyramid – ychydig o ganeuon gan Dua Lipa, a oedd yn iawn, a gwelais yr holl set gan Coldplay ar y nos Sadwrn, achos gan fod y dyrfa mor anferth, unwaith roeddwn wedi gwasgu fy ffordd i mewn iddi, roedd yn amhosibl gadael.
Diolch byth roedd y set yn ddifyr, gyda chynhyrchiad mawr o lasers, tân gwyllt, bandiau goleuo garddwn, peli traeth mawr a chonffeti yn cael eu taflu i mewn, yn ogystal ag ymddangosiad gwadd rhyfeddol gan Michael J. Fox ar y gitâr.
Mewn gwrthgyferbyniad mawr i hyn ar y nos Sul, roedd cynulleidfa SZA mor fach fod posib cerdded yn hawdd yn agos at flaen y llwyfan 30 munud i mewn i’r set. Roeddwn i’n gallu deall pam, gan fod y R&B wedi’w auto-diwnio yn drwm a heb fod yn fachog iawn, felly roedd yn ymddangos yn ddewis rhyfedd iawn ar gyfer set pennawd yn Glastonbury, pan oedd cymaint o actau eraill ymlaen yn gynharach fel Little Simz a allai fod wedi gwneud gwell job.
Rhai o fy uchafbwyntiau eraill oedd Damon Albarn yn gwneud ymddangosiad gwestai annisgwyl yn set Bombay Bicycle Club, setiau hwyliog a bywiog gan y Lottery Winners a The Go! Team, Arooj Aftab a’r Breeders ar lwyfan atmosfferig Park, a setiau cynnar prynhawn Sul gan The Zutons a Rachel Chinouriri ar y llwyfan Other
Yn anffodus roedd maint Glastonbury, a blinder o gerdded pellteroedd mawr yn y gwres a oedd weithiau’n ormesol, yn golygu fy mod wedi methu llawer o fandiau yr oeddwn yn bwriadu eu gweld, ond mae’n anochel mewn gŵyl o’r raddfa hon.
Un o wefrau yr ŵyl yw cerdded o gwmpas a darganfod y llu o ardaloedd ac atyniadau sydd yno. Do’n i ddim wedi bod i Glastonbury ers blynyddoedd, ond roedd yn dda i fod yn ôl, a phleser cael darlledu o’r ŵyl i’r Cymro am y tro cyntaf.
Holl luniau gan Laura Nunez ar gyfer Y Cymro. Prif lun: The Go! Team
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.