Mae rhifyn Mawrth Y Cymro allan yn y siopau nawr rwan. Y diweddaraf am ddatganoli darlledu i Gymru gyda barn gref Aled Powell o Gymdeithas yr Iaith ac Angharad Mair, hynt a helynt y stormydd gwynt a glaw a’r coronafeirws …..a llawer mwy.
Colofnau gan Iestyn Jones, Esyllt Sears, Lyn Ebenezer, Aled Gwyn Jôb, Cadi Gwyn Edwards, Gareth Hughes, Dylan Wyn Williams, Meirwen Lloyd, (Merched y Wawr), pethau garddllyd gyda Gerallt Pennant, Gruffydd Meredith, y diweddaraf o sîn gerddoriaeth Cymru gyda Sôn am Sîn yn cynnwys rhestr gigs am y mis i ddod, Trefor Jones, moduro gyda Huw Thomas, a’r diweddaraf o’r byd chwaraeon gan Garmon Ceiro (ei golofn ola ond un i’r Cymro).
Mae rhestrau gemau am y mis i ddod yn uwchgynghrair pêl droed Cymru Premier yn ogystal ag uwchgynghrair rygbi Indigo Cymru hefyd yn Y Cymro bob mis.
Cofiwch fod Y Cymro rwan hefyd ar werth mewn dros 40 o siopau Tesco dros Gymru.
I danysgrifio am PDF neu gopi drwy’r post bob mis ewch yma
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.