Y gwir yn erbyn y byd… ond sut beth ydi hwnnw? – gan Trefor Jones

Barn

gan Trefor Jones – y boi ‘ne sy’n gadael sylwadau ar Golwg 360…

Tua diwedd cyfnod canfasio yr etholiad cyffredinol, cyhoeddodd Adam Price ei ddymuniad i basio deddf seneddol fyddai’n gwneud celwydd bwriadol mewn etholiad yn drosedd cyfreithiol.

Y bwriad ydoedd ychwanegu at fesur preifat a gyflwynodd Mr Price yn San Steffan yn 2007. Wrth gwrs yn nyddiau ola’r ymgyrch dywyll a diflas ddiweddar roedd pob plaid wleidyddol wedi gwneud addewidion a dymuniadau polisi hollol afreal er mwyn denu pleidleisiau’r rheini oedd ar y ffens.

Ni fyddai unrhyw un rhesymol yn dadlau bod cael corff gwleidyddol oedd yn dweud y gwir bob tro yn beth annymunol, ond beth yw’r gwirionedd neu’r anwiredd? Fel arfer mae hyn yn dibynnu ar eich meddylfryd gwleidyddol. Cofiaf hen jôc gan Max Boyce am ddau ŵr yn eistedd ar fainc mewn parc ar ddiwrnod niwlog, ac yn dadlau ai’r lleuad neu’r haul oedd wedi ymddangos rhwng y cymylau isel. Daeth gŵr arall heibio a gofynnwyd iddo ddyfarnu rhwng y ddau, a’r ateb a gafwyd oedd: “peidiwch gofyn i mi, ‘rwy’n dod o Bort Talbot”. Pwy oedd yn gywir? Yn sicr nid oedd yr un o’r tri yn dweud celwydd oherwydd mai dyna oedd eu fersiynau personol o’r gwirionedd.

Yn yr un modd, cofiaf am ddarlithydd Athronyddiaeth yn gofyn i fyfyrwyr ystyried a oedd hi’n bosib peidio dweud celwydd am ddiwrnod cyfan. Dychmygwch y sefyllfa, wrth ddihuno yn y bore.

Helo, gysgaist ti’n dda”.
Ateb: “Naddo, rwyt ti’n chwyrnu fel mochyn a finnau heb gael winc o gwsg mewn deugain mlynedd”.
“Edrych yn salw bore ’ma, fel arfer”.
Ateb: “Ddim hanner mor salw â ti”.
“Mae diwrnod ofnadwy gyda fi heddi”.
Ateb:  “Sdim ots ’da fi, ’mond bo ti’n dod ag arian mewn   fydda i ddim yn dy adael di”.

Ac yn y blaen. Mae’n bur annhebyg y byddai’r briodas yn parhau tu hwnt i amser brecwast.

‘…mae bod yn greadigol gyda’r gwirionedd yn rhan o wleidyddiaeth ac o fywyd’

Felly, pa mor gredadwy yw syniad arweinydd Plaid Cymru i gael gwared ar gelwydd mewn gwleidyddiaeth adeg etholiadol? Yn rhesymegol, pe baech yn dweud y gwir yn rhy onest a fyddech chi’n rhwym o golli? Dychmygwch y sefyllfa yn ystafell rhyfel Winston Churchill yn 1940 wrth iddo eirio ei araith enwog yn addo “gwaed, gwaith a chwys”, i’r boblogaeth a’i barodrwydd i “ymladd y gelyn ar y traethau, gan fyth ildio”.

Gobaith nid celwydd o bosib, ond yr amcan oedd codi ysbryd y boblogaeth .Yn yr un modd, yn yr ymgyrch ddiweddar cafwyd digwyddiadau a ddisgrifiwyd gan sylwebwyr fel y ‘gath farw’. Tacteg gan blaid i wyro sylw’r cyhoedd a’r cyfryngau oddi wrth ffeithiau anffodus ydy effaith y gath farw.

Ar safle we hynod dreiddgar a dylanwadol Guido Fawkes yn nyddiau olaf yr ymgyrch rhyddhawyd recordiad o sgwrs ffôn rhwng  Jon Ashworth, Gweinidog Iechyd cysgodol y Blaid Lafur, a ffrind iddo. Ynddo, roedd yn amau hygrededd neges ei blaid ei hun, yn disgrifio’i arweinydd fel perygl i ddiogelwch y wladwriaeth ac yn dweud bod yr ymateb ar y stepen drws yn echrydus.

Wrth gwrs, bu’r recordiad yn nwylo’r Torïaid ers dros wythnos fel polisi yswiriant pe bai digwyddiad annisgwyl dros y dyddiau olaf. Y digwyddiad a’i hysbardunodd oedd darlun digidol o blentyn 4 mlwydd oed yn dioddef o niwmonia ar lawr ward yn Ysbyty Cyffredinol Leeds. Sawdl Achilles y Torïaid ymhob etholiad yw’r Gwasanaeth Iechyd ac roedd cryn ofn y byddai hyn yn rhoi’r ras etholiadolyn ôl yn nhiriogaeth senedd grog arall.

Felly taflwyd y bom i’r wasg wrth ymosod ar fan gwan y brif wrthblaid sef cymeriad a gorffennol y rebel actifydd, Jeremy Corbyn.  Yr eironi yma yw mai gwirionedd a gonestrwydd oedd yr arf, nid celwydd. Yn oes newyddiaduriaeth digidol a dyfodiad ‘fake news’ yr Arlywydd Trump, rhaid i’r prif lif cyfryngol ddefnyddio gwirwyr ffeithiau er mwyn dal gwleidyddion llithrig i gownt yn dilyn cyfweliadau.

Un o’r enghreifftiau  gorau o hyn oedd ymgais rhaglen ‘More or Less’ Radio 4 a dreuliodd ddau rifyn yn edrych ar faniffesto’r pleidiau mwyaf. Beth ddaeth i’r amlwg oedd nad celwyddau oedd ynddynt ond yn hytrach hanner gwirionedd neu ormodiaith er mwyn dangos y polisïau cryfaf. Un enghraifft oedd honiad Boris Johnson bod 40 o ysbytai i gael eu hadeiladu yn y 5 mlynedd nesaf.

Wedi chwarelu’r data, rhyw chwech oedd yn debygol o gael eu gwireddu, ond o ychwanegu ‘had gyfalaf’, sef cynllunio a dechrau ar y broses, nid oedd yr honiad cweit mor dwyllodrus. Yn ôl yr hynod broffwydol Athro John Curtice o Brifysgol Ystradclyd, nid yw manylion bellach yn bwysig, yn hytrach cael y syniad mawr yn is-ymwybod yr etholwyr sy’n bwysig.

Ategwyd hynny mewn cyfweliad ar Radio 4 noswyl yr etholiad gan y cyn weinidogion Michael Portillo a David Blunkett oedd yn gresynu nad oedd unrhyw fanylder i addewidion y pleidiau cyfan. Yn eu tyb nhw, rai degawdau yn ôl byddai unrhyw blaid wedi costio’r maniffesto’n fanwl.

I’r gwrthwyneb, yn yr hinsawdd etholiadau fodern, meddwl am rif a’i ddyblu yw’r dacteg, boed yn achos ysbytai newydd neu ad-daliadau haeddiannol i’r menywod WASPI (ar gost o bron i ddwbl y gyllideb amddiffyn).Eto’i gyd, nid dweud celwydd yw hyn ond efelychiad o’u dymuniad ‘gonest’, pe bai rhywun yn ffeindio’r gelli hud o goed arian.

Dyna pam hefyd y defnyddiodd prif strateg-ydd y Torïaid, Dominic Cummings, y dacteg o beidio ymddangos ar raglen Today na chaniatáu i’r Prif Weinidog wynebu Andrew Neil am artaith hanner awr.Doedd dim pwrpas ceisio perswadio’r dosbarth canol oedd eisoes wedi penderfynu, ond yn hytrach ddylanwadu ar y wal goch honedig lle’r oedd y pleidleiswyr yn barod iawn i newid arfer bywyd.  

Yn y diwedd, mae bod yn greadigol gyda’r gwirionedd yn rhan o wleidyddiaeth ac yn rhan o fywyd. Mae fersiwn pawb o ddigwyddiadau yn wahanol. Er hynny, mae dyfodiad cyfryngau megis Twitter a Facebook yn golygu bod ffiltro’r gwirionedd yn anoddach.Digon posib mai’r ateb yw gwell addysg wleidyddol, yn enwedig yn y cwricwlwm hanes yn ein hysgolion, fel bod trwch y boblogaeth yn medru synhwyro pa wleidydd sydd agosaf at y gwir. 

Felly, Mr Price, mae gen i ofn y byddai cyfraith fel hon yn gwneud pethau’n waeth gan yrru gwleidyddion i ddwylo cyfreithwyr ac ymddangosiadau yn yr Uchel Lys. Yn ogystal, pob lwc i’r barnwr neu’r rheithgor sy’n gorfod penderfynu ai celwydd neu anwybodaeth oedd y broblem. Mae safon llawer o’n haelodau seneddol bellach yn gwneud i rywun feddwl mai tasg amhosib fyddai beirniadu os mai diffyg gwybodaeth neu dwpdra llwyr oedd y broblem wreiddiol. Mae cael gwared ar gelwydd mewn gwleidyddiaeth mor debygol â chael gwared ar giciau cosb neu droseddau proffesiynol ar gae pêl droed.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau