Mae dyfodol ein gwlad yn cael sylw o sawl cyfeiriad yn rhifyn Mawrth Y Cymro.
Mae gan ambell un weledigaeth glir am sut ddylai’n byd ni edrych ar ôl i’r pandemig gilio.
Mewn colofn barn mae’r AS Liz Saville-Roberts yn cyfeirio at yr her sy’n ein hwynebu ni i gyd wrth ddatgan bod y pleidiau mawr yn ‘ceisio’n darbwyllo nad ydy’r gallu gyda ni i afael yn ein dyfodol ein hunain’
Neges groch am ‘gymunedau nid cyfalafiaeth’ sydd gan Gymdeithas yr Iaith yn eu colofn y mis hwn wrth dynnu sylw eto at ddifrifoldeb argyfwng y farchnad dai.
Ond mae llewyrch o obaith gan Gruffydd Meredith sy’n cynnig datrysiad arloesol er mwyn sicrhau parhad ein cymunedau Cymreig – sydd yn ein dwylo ni!
Clodfori trysor cuddiedig bro Gymraeg a wrthododd farw mae Lyn Ebenezer tra bod Esyllt Sears yn teimlo ryw wytnwch erbyn hyn bod pethau gwell ar y gorwel i ni oll ar ôl y misoedd tywyll.
Mae mudiad Cylch yr Iaith yn cwestiynu’r gefnogaeth i droi ardal y llechi yn Safle Treftadaeth y Byd gan y bydd – yn eu barn hwy – yn creu mwy fyth o dwristiaeth niweidiol i’r iaith.
Gorfod torheulo mewn mwgwd yn haul Sbaen mae’r colofnydd Cadi Edwards tra bod Dylan Wyn Williams yn diolch am ‘ddihangfa bleserus’ rhaglen ‘Am dro’ ar S4C â ninnau’n sownd adref.
Mae erthygl ddiddorol hefyd gan yr hanesydd Mel Hopkins am y map hynaf o Gymru. Dal i ddadlau mae’r arbenigwyr am yr hyn sydd i’w weld arno ond does dim amheuaeth bod y Fenai yn ddigon llydan ar y map hwn!
Rydyn ni’n croesawu’r colofnydd chwaraeon, Sioned Dafydd, y mis yma hefyd. Mae hi’n craffu ar yr holl gasineb annealladwy tuag at chwaraewyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ac yn ôl yr arfer mae sylw i lyfrau newydd, moduro, garddio, cerddoriaeth, a straeon newyddion o sawl rhan o Gymru.
Bydd Y Cymro ar gael o ddiwedd yr wythnos yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, nifer o siopau’r stryd fawr a garejis ar draws Cymru. Neu i dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.
Mae copi PDF digidol ar gael hefyd drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru neu ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.