Mae’n adeg pan fo ystyriaethau Cymreig yn cael eu blaenoriaethu gan bawb am unwaith. Eleni, gellid dadlau bod mwy o ardrawiad gwleidyddol na’r arfer i’r ŵyl oherwydd datblygiadau amrywiol ers Mawrth 1af llynedd. Er enghraifft, bu’r ymchwydd yn y gefnogaeth i’r mudiad YesCymru yn elfen amlwg iawn dros y flwyddyn ddiwethaf, a thair rali lwyddiannus wedi’u cynnal yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r mudiad fel pe bai’n mynd o nerth i nerth ar hyn o bryd a hynny wedi arwain yn anuniongyrchol at fflyd o grwpiau gwahanol yn trafod annibyniaeth ar y we.
Ac wrth gwrs, mae yna hen edrych ymlaen at rali nesaf AUOB Cymru, sydd i’w chynnal yn Wrecsam fis nesaf. Ond efallai y gellid dadlau bod ychydig bach o naïfrwydd yn perthyn i YesCymru, yn y dybiaeth hon mai hwy oedd yr unig fudiad ar wahân i Blaid Cymru oedd ei angen i bwyso am annibyniaeth.
A bod modd ymgynnwys yr holl ddyhead newydd am annibyniaeth mewn dull amhleidiol oddi fewn i’w rhengoedd ei hun, a bodloni ar roi mynegiant i hynny ar ffurf cyfres o ddigwyddiadau mewn gwahanol rannau o Gymru.
Y gwir amdani ydi nad oes modd rheoli’r dyhead yma yn y ffasiwn fodd bellach. Mae peth o’r dyhead hwn eisoes wedi magu adenydd ac yn prysur adael nyth amhleidiol YesCymru er mwyn chwilio am drigfannau gwleidyddol newydd. Gyda’r sawl sydd wedi magu’r adenydd hyn yn deall yn reddfol bod rhaid wrth fynegiant gwleidyddol pendant i’r dyhead hwn, a hynny trwy’r blwch pleidleisio.
Y sefyllfa wefreiddiol yr ydym ynddi yn y cyfnod gŵyl Ddewi hwn yn 2020, ydi fod gennym erbyn heddiw dair plaid wleidyddol pro-annibyniaeth yn bodoli yng Nghymru. Plaid, GWLAD, a’r blaid newydd sbon, Welsh National Party – neu Plaid Genedlaethol Cymru, a rhoi iddi’r enw Cymraeg a ddewiswyd ar ei chyfer. Mae’r blaid newydd hon, sydd i’w lansio’n swyddogol ar Ebrill 3ydd, yn cael ei harwain gan Neil Mcevoy o Gaerdydd, y cyn aelod Cynulliad dros Blaid Cymru. Eisoes clywyd galarnadau gan rai y bydd y datblygiad hwn yn ‘rhannu’r bleidlais ‘genedl- aetholgar’ a thrwy hynny yn hwyluso pethau i’r pleidiau unoliaethol.
Ond mae dyn yn synhwyro yn sgil daeargryn gwleidyddol Brexit bod Cymru hithau’n barod i ail-lunio’r tirwedd gwleidyddol Cymreig hefyd.
Ond mae plwraliaeth wleidyddol yn egwyddor dda’n gyffredinol, a chymaint mwy felly mewn gwlad megis Cymru sydd wedi ei dominyddu gymaint gan y Blaid Lafur am gan mlynedd. A’i dominyddu i raddau mewn modd arall hefyd, hynny ydi trwy fethiant Plaid Cymru dros yr un ganrif i herio gafael Llafur dros ein bywyd cenedlaethol mewn gwirionedd. Yn wyneb y ‘dominyddiaeth methiant’ hwn, rhyw anobeithio am unrhyw newid fu’r hanes yma yng Nghymru am flynyddoedd mawr, heb argoel o gwbl y gellid symud llaw farw y Blaid Lafur oddi ar ein bywyd cenedlaethol.
Ond gyda dyfodiad pleidiau cenedlaetholgar newydd, mae gobaith gwirioneddol y gellid herio’r ddau ddominyddiaeth fethiannus uchod. Mae’r blwraliaeth wleidyddol a gynigir gyda hyn hefyd yn gyfle i fynd i’r afael gyda’r ‘diffyg democrataidd’ amlwg sy’n bodoli yma yng Nghymru. Yr eliffant yn yr ystafell i bob pwrpas.
Hynny ydi, y ffaith nad oes mwy na 45% o’r boblogaeth wedi fotio mewn unrhyw etholiad Gymreig ers 1999. Golyga hynny fod 55% o bobol Cymru y tu hwnt i unrhyw ‘demos’ Cymreig gwerth sôn amdano.
Y demos hwn sydd mor bwysig i hunaniaeth genedlaethol a gweithrediad effeithiol unrhyw wlad. Ac ar gyfer meithrin y cyswllt hanfodol hwnnw rhwng etholwyr a’r rhai sy’n eu rheoli. Canlyniad hyn oll ydi diffyg ymdeimlad cyffredinol ymhlith pobol o berthyn i Gymru – a diffyg ymdeimlad hefyd bod modd dal gwleidyddion yn atebol am eu gweithredoedd, a thrwy hynny ddylanwadu ar gwrs eu gwlad.
O gael y dewisiadau hyn ar y sbectrwm cenedlaethol o’r diwedd, a fyddai’n ormod mentro dweud bod gwleidyddiaeth Gymreig go iawn yn dechrau ymffurfio yma?
Gwleidyddiaeth heb y demos hwn ydi un o’r cas-ffeithiau hyll am fywyd datganoledig Cymru ers 1999. Cas-ffaith na chlywch chi’r un o’r prif bleidiau yn Y Cynulliad yn ei gydnabod mewn difrif. Mae gweld y blwraliaeth newydd yn y dewis o bleidiau a fydd yn cynnig eu hunain i’r etholwyr yn 2021 yn gam pwysig tuag at ateb y broblem hon. Amser a ddengys wrth gwrs faint yn union o’r 55% ‘coll’ a fydd yn ymateb i’r cynigion newydd a osodir ger eu bron.
Ond mae dyn yn synhwyro yn sgil daeargryn gwleidyddol Brexit bod Cymru hithau’n barod i ail-lunio’r tirwedd gwleidyddol Cymreig hefyd. Mae amseriad y pleidiau newydd hyn yn berffaith o ran hynny. Gyda Plaid ar y chwith, y WNP yn cynnig agenda mwy ‘popiwlaidd’ (populist) a GWLAD yn ceisio cyfuno gweledigaeth o annibyniaeth gyda’r geidwadaeth ‘c’ fach sy’n greadigaeth Gymreig ohoni ei hun – bydd cenedlaetholwyr yn cael eu sbwylio’n rhacs o ran dewis fis Mai nesaf! O gael y dewisiadau hyn ar y sbectrwm cenedlaethol o’r diwedd, a fyddai’n ormod mentro dweud bod gwleidyddiaeth Gymreig go iawn yn dechrau ymffurfio yma?
Prif lun gan Llywelyn2000. CC BY-SA 4.0
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.