Ffermwr yn gorfod talu diryw £220 #datganolidarlledu @Cymdeithas

Newyddion

Ffermwr yn gorfod talu £220 am wrthod talu’r ffi drwydded

Mae ffermwr o Ynys Môn wedi cael ei ddyfarnu i dalu £220 mewn gwrandawiad llys yng Nghaernarfon heddiw fel rhan o ymgyrch i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.

Y ffermwr 56 mlwydd oed o Fodorgan yn Ynys Môn, William Griffiths, yw’r ail unigolyn i gael ei ddyfarnu gan lys am wrthod talu’r ffi drwydded deledu fel rhan o’r ymgyrch. Dedfrydwyd aelod arall o Gymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf, mewn achos yn Aberystwyth fis diwethaf. Mae dros saith deg o bobol yn gwrthod talu am eu trwyddedau teledu mewn ymdrech i drosglwyddo rheolaeth dros ddarlledu o San Steffan i Gymru.

Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith yn annerch Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas.

Anerchodd y bardd a’r canwr Geraint Lovgreen rali o flaen y llys cyn gwrandawiad Mr Griffiths. Dywedodd Mr Lovgreen:

“Diolch o galon i William am ei safiad. Rydw i, fel nifer o bobl eraill, hefyd yn gwrthod talu am fy ffi drwydded deledu nes bod penderfyniadau dros ddarlledu yng Nghymru yn cael eu gwneud gan bobl Cymru. Mae’r Gymraeg a democratiaeth Cymru yn dioddef yn ddifrifol o ganlyniad i gyfundrefn ddarlledu sy’n cael ei rheoli o San Steffan ar hyn o bryd. Byddai rheoli ein cyfryngau ein hunain yng Nghymru yn rhoi cyfle i ni weld ein hunain a’r byd drwy lygaid Cymreig.”

Yn siarad gerbron y llys, dywedodd William Griffiths:

“Mae rheolaeth dros ddarlledu yn rhywbeth sydd i mi yn hawl sylfaenol i unrhyw wlad. Mae hyn yn bwysig o ran sut da ni’n gweld y byd ag am i’r byd ein gweld ni. Hefyd mae’n hanfodol er mwyn gwarchod darlledu yn y Gymraeg.

“Yn ogystal mae datganoli darlledu yn bwysig o ran democratiaeth yng Nghymru. Yn yr etholiad cyffredinol diwethaf er enghraifft, roedd y newyddion Llundeinig yn ein boddi gyda Theresa May yn dweud hyn am iechyd, Corbyn yn dweud y llall am addysg. Mae hyn i gyd yn amherthnasol i ni yng Nghymru. Yr un fath gyda refferendwm Brexit. Ni chafwyd trafodaeth ar lawr gwlad Cymru. Beth bynnag fo’ch barn ar Brexit a pha bynnag liw gwleidyddol ydych, mae hybu democratiaeth yn hollbwysig.

“Rhaid gofyn y cwestiwn: pa fath o wlad sy’n mynnu rheolaeth dros ddarlledu mewn gwlad arall? Mae’r ymgyrch yma yn hollbwysig i gael gwell dyfodol i bobol Cymru.”

Y llynedd, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith eu syniadau nhw ar sut y dylid mynd ati i ddatganoli darlledu a sut y byddai ei ariannu. Yn ôl eu dogfen ‘Datganoli Darlledu i Gymru’, gellid denu llawer mwy o gyllid i ariannu darlledu yng Nghymru wrth nid yn unig ddatganoli’r ffi drwydded ond hefyd trwy osod ardoll ar gwmnïau mawr sydd yn gwneud arian o weithredu yng Nghymru – cwmnïau fel Netflix, YouTube a Facebook.

Yn ôl arolwg barn gan YouGov a gyhoeddwyd y llynedd, mae 65% o bobl Cymru yn ffafrio datganoli darlledu i’r Senedd yng Nghymru.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Tagged

Gadael Sylw

avatar
500

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro. Tra'n credu'n gryf mewn rhyddid barn, gofynnwn yn garedig i chi osgoi sylwadau enllibus, anwir, camanweirol neu fwriadol fygythiol. Os ydych yn teimlo fod sylwad yn cynnwys un o'r elfennau yma plis adroddwch hynny drwy glicio ar y linc. Gofynnwn i chi ddim ond wneud hyn ar gyfer cwynion difrifol. Cadwn yr hawl i ddileu cynnwys neu gyfrifon sydd yn torri'r canllawiau yma yn fwriadol. Neu i'w roi o ffordd arall, triwch fod yn weddol neis i'ch gilydd os yn bosib.

  Tanysgrifio  
Gadewch wybod