Cymry’n Gorymdeithio am Annibyniaeth d.Sadwrn yma @AUOBCymru

Gorymdaith “Pawb Dan Un Faner” dros Annibyniaeth, Caerdydd, Mai yr 11eg 2019 1.30yp Neuadd y Ddinas, Caerdydd ( ger yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd ) gan Llywelyn ap Gwilym, cynrychiolydd Pawb Dan Un Faner Cymru Gwelwyd cefnogaeth frwd i ddatganoli grymoedd o San Steffan i Gymru mewn nifer o refferenda a pholau piniwn diweddar, ond yn […]

Continue Reading

Brexit – cyfle anhygoel am annibyniaeth i Gymru tu allan i unrhyw undeb – Gruffydd Meredith

Barn bersonol ar y newid mwyaf i ni wynebu mewn cenhedlaeth – gan Gruffydd Meredith I bwy bynnag sydd â diddordeb, mi bleidleisiais i ddod allan o’r Undeb Ewropeaidd annemocrataidd ac o blaid Brexit yn 2016. Neu yn fwy manwl, fel cenedlaetholwr Cymreig, mi bleidleisiais am Wexit neu Cymxit i dynnu Cymru allan o’r Undeb […]

Continue Reading

Adam Price yn llongyfarch yr Albanwyr am eu Parhad

SNP 1 Llafur 0? Dyw penderfyniad Prif Weinidog newydd Cymru Mark Drakeford i gael gwared ar Ddeddf Parhad Cymru ddim yn edrych mor glyfar nawr wrth i’r Alban ennill cefnogaeth y Goruchaf Lys i’w Deddf Parhad hwythau. Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price ymysg y cyntaf i’w llongyfarch, ““Rwy’n llongyfarch Llywodraeth yr Alban ar eu buddugoliaeth yn y Goruchaf Lys. Mae cyfiawnder cyfansoddiadol wedi gorfu,” meddai ef. “Gweithred gyntaf y Prif Weinidog newydd hwn fydd i […]

Continue Reading

Mae #Brecsit yn bygwth diwylliant a threftadaeth Cymru

Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd  Liz Saville Roberts sy’n sgwennu yn arbennig i’r Cymro: Nid oes dwywaith amdani, mae Brecsit yn bygwth diwylliant a threftadaeth Cymru. Mae hanes hir a chyfoethog Cymru – yn ogystal ag ein cyfraniad diwylliannol a threftadol i Ewrop a gweddill y byd, mewn perygl wrth iddi fod yn gwbl glir y […]

Continue Reading

Gall Mark Drakeford greu Cymru decach?

Mae Mark Drakeford wedi llwyddo i greu y ‘momentwm’ i arwain Llafur Cymru.  Dyma fe’n amlinellu ei weledigaeth arbennig i’r Cymro. Nid uchelgais bersonol sydd wedi fy ngyrru i gynnig fy hun fel ymgeisydd i arwain Llafur Cymru, ond yn hytrach gweledigaeth am sut allwn ni greu Cymru decach, ffyniannus. Pan ddes i Gaerdydd yn […]

Continue Reading

Ffermwr yn gorfod talu diryw £220 #datganolidarlledu @Cymdeithas

Ffermwr yn gorfod talu £220 am wrthod talu’r ffi drwydded Mae ffermwr o Ynys Môn wedi cael ei ddyfarnu i dalu £220 mewn gwrandawiad llys yng Nghaernarfon heddiw fel rhan o ymgyrch i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru. Y ffermwr 56 mlwydd oed o Fodorgan yn Ynys Môn, William Griffiths, yw’r ail unigolyn i gael […]

Continue Reading