Mae Mark Drakeford wedi llwyddo i greu y ‘momentwm’ i arwain Llafur Cymru. Dyma fe’n amlinellu ei weledigaeth arbennig i’r Cymro.
Nid uchelgais bersonol sydd wedi fy ngyrru i gynnig fy hun fel ymgeisydd i arwain Llafur Cymru, ond yn hytrach gweledigaeth am sut allwn ni greu Cymru decach, ffyniannus.
Pan ddes i Gaerdydd yn 1979 – wedi fy magu yng Nghaerfyrddin – nid dod i fod yn wleidydd wnes i, ond i weithio gyda phlant a phobl ifanc, gyda’r gwasanaeth prawf yn gyntaf, ac yna gyda Barnardo’s ac yn y system gyfiawnder ieuen-ctid. Oes Thatcher oedd hi – cyfnod pan ddinistriwyd swyddi a chymunedau yn ddidrugaredd. Cefais fy ethol i’r cyngor mewn cyfnod pan oedd yn rhaid i ni amddiffyn hyd yn oed yr egwyddor elfennol y gallai llywodraeth fod yn rym er gwell.
Fe wnes i gario’r egwyddor honno gyda mi i Lywodraeth Cymru, lle bûm i’n gweithio am ddeng mlynedd yn swyddfa’r Prif Weinidog, Rhodri Morgan fel ei brif gynghorydd arbenigol. A thu hwnt i hynny, ers dod yn aelod o’r Cynulliad fy hun, yn 2011, yn Weinidog Iechyd, ac erbyn hyn yn Weinidog Cyllid a Brexit mewn cyfnod tymhestlog.
Nid wyf erioed wedi difaru’r penderfyniad i gefnogi Jeremy Corbyn fel arweinydd y Blaid Lafur. Fi oedd yr unig aelod o Gabinet Cymru i wneud hynny pan safodd am y tro cyntaf. Y peth pwysicaf er mwyn diogelu buddiannau pobl Cymru yw i ni sicrhau llywodraeth Lafur flaengar yn San Steffan, yn ogystal â Bae Caerdydd.
Ac mae fy rhesymau dros gefnogi Jeremy Corbyn i’w canfod yn y traddodiad gwleidyddol yr wyf yn perthyn iddo – y traddodiad sosialaidd radical prif-ffrwd Gymreig. Rwy’n Sosialydd yr 21ain Ganrif. Fy nod fel arweinydd, fyddai cymhwyso ein gwerthoedd tragwyddol fel plaid at sialensiau ymarferol y ganrif hon.
Beth yw’r gwerthoedd am lluniodd i, yng Nghaerfyrddin a Threlai?
Y cyntaf yw cydraddoldeb. Pan fydd y darn roc sosialaidd yn cael ei thorri ar agor, rwyf wedi credu bob amser mai ‘cydraddoldeb’ yw’r gair sy’n rhedeg drwyddo, o un pen i’r llall. Dim ond un bywyd sydd gan bob un ohonom i’w arwain, ac er mwyn gwneud y gorau o’r un cyfle hwnnw, nid yn unig mae angen i ni gael dechrau cyfartal mewn bywyd, ond hefyd i fyw mewn cymdeithas sy’n gwerth- fawrogi’r bywyd hwnnw yn gyfartal, o’r dechrau i’r diwedd.
Os mai fi fydd Arweinydd Llafur Cymru a’r Prif Weinidog, rwyf am i ni ymestyn ein pwerau i’r eithaf yn y Cynulliad i greu Cymru mwy cyfartal.
Yr ail yw cydlyniad: y syniad ein bod ni i gyd yn llwyddo’n well pan fyddwn ni’n cydweithio. Cydweithrediad nid cystadleuaeth yw’r ffordd Gymreig bob amser. Mae cydlyniad yn rhwymo’n cymunedau gyda’i gilydd. Mae’n ein dysgu i werthfawrogi gwahaniaeth, nid cael ein gwahanu ganddo. Mae’n ein dysgu bod y pethau sy’n bwysig yn ein bywydau ni fel unigolion, yn bwysig i eraill hefyd.
Y trydydd yw ffyniant – ffyniant sy’n cael ei greu a’i rannu gan bawb. Credaf fod cyfoeth yn cael ei greu, nid gan weithredoedd carfan fach gyfoethog, ond trwy ymdrechion y llu – y sgiliau, yr arloesedd, yr egni y mae pobl yn ei gyfrannu drwy’u gwaith, a’n hymdrechion ni ar y cyd fel dinasyddion drwy’n trethi – yn buddsoddi mewn seilwaith, yn ariannu ymchwil, yn creu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Os mai fi bydd yn Brif Weinidog, yr wyf am arwain Cymru lle mae’r Llywodraeth yn buddsoddi yn yr amodau sy’n creu cyfoeth – buddsoddi mewn pobl ac mewn cymunedau.
Ac felly dyma sail fy nghred wleidyddol – ac ar y sail honno rwyf am i ni adeiladu ystod o bolisïau blaengar, radical. Polisïau yn seiliedig ar Sosialaeth y 21ain Ganrif. Cymru decach gyda mwy o arian am brydau bwyd am ddim mewn ysgolion, a llai o blant mewn gofal.
Rhyddid i gynghorau adeiladu tai, a sicrwydd i denantiaid preifat. Cronfa i dalu am ofal cymdeithasol wedi ei ariannu drwy dreth gofal newydd, a diddymu cytundebau sero awr i ofalwyr.
A Chymru ffyniannus, sy’n arwain mewn ynni adnewyddadwy ac yn buddsoddi mewn seilwaith digidol. Deddf Partneriaeth Gymdeithasol i Gymru, gyda Banc Cymunedol, a phwyslais newydd ar yr economi sylfaenol. Cymru lle mae pob rhan ohoni yn rhannu’r ffyniant.
Bydd fersiwn llawn yr erthygl hon ym mhapur newydd Y Cymro, ar gael yn eich siopau lleol neu drwy danysgrifio.
Gyda diolch i Mumph am y cartŵn!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.