FFILM newydd gan Swci Delic!

Diwylliant / Hamdden

Mae’r artist Mared Lenny o Gaerfyrddin, sydd yn cael ei hadnabod fel Swci Delic, wedi cyd-gynhyrchu a rhyddhau ffilm fer newydd yn sôn am ei hanes cyn ac ar ôl iddi gael ei tharo gan diwmor ar yr ymennydd.

Mae’r ffilm fer ‘Accidental Artist’ i’w gweld am ddim isod trwy’r platfform arlein Vimeo. Yn llai na deng munud o hyd, mae’r ffilm yn sôn sut y rhoddodd y tiwmor a’r driniaeth stop ar berfformiadau Mared fel cerddor tra hefyd yn ei gyrru i greu celf afieithus, liwgar.

SWCI DELIC "THE ACCIDENTAL ARTIST" from Swci Delic on Vimeo.

Mae’r ffilm wedi ei chyfarwyddo gan Dyl Goch (Seperado + mwy) a daw’r troslais unigryw gan y gantores Cate Le Bon.

Yn ôl Mared, a adnabyddir hefyd fel Swci Boscawen am ei cherddoriaeth, ei dymuniad drwy wneud a rhyddhau’r ffilm ydy,

“Rhoi gobaith neu o leiaf lleihau’r unigrwydd i eraill sydd yn mynd drwy’r uffern o frwydro a byw gyda chancr”.

Gellir gweld gwaith celf Swci Delic ar ei gwefan: swcidelic.com

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau