Brexit – cyfle anhygoel am annibyniaeth i Gymru tu allan i unrhyw undeb – Gruffydd Meredith

Barn

Barn bersonol ar y newid mwyaf i ni wynebu mewn cenhedlaethgan Gruffydd Meredith

I bwy bynnag sydd â diddordeb, mi bleidleisiais i ddod allan o’r Undeb Ewropeaidd annemocrataidd ac o blaid Brexit yn 2016.

Neu yn fwy manwl, fel cenedlaetholwr Cymreig, mi bleidleisiais am Wexit neu Cymxit i dynnu Cymru allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Fel y mwyafrif o bleidleiswyr eraill o blaid gadael, mi bleidleisiais i ddod yn rhydd o bob rhan o’r gyfundrefn sydd yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd – y farchnad sengl, unrhyw gyfundrefnau cyfreithiol goruwch ac unrhyw reolau neu reolaeth arall gan Frwsel.

Dyma’r hyn mae’r wasg a’r cyfryngau yn hoff o’i alw’n ‘Brexit caled’ – rhyw spin bach slei sydd yn awgrymu negyddiaeth neu eithafiaeth ac yn diystyru’r llais democrataidd a fynegodd ddymuniad i adael yr Undeb Ewropeaidd a’i holl dentaclau yn 2016.

Os down ni allan o’r Undeb Ewropeaidd yne, i’r rhai ohonom sydd yn genedlaetholwyr pro-annibyniaeth i Gymru sydd ddim yn rhan o undeb, dim ond un undeb arall y bydd angen i ni frwydro i’w gadael, yr undeb Brydeinig bresennol. Un i lawr, un i fynd, fel petai.

Wedyn mi fyddwn yn genedl rydd a hunan gynhaliol yn y byd, fel y dyle pob gwlad gwerth ei halen fod. A hyd yn oed pe na bawn yn genedlaetholwr Cymreig sydd isio gweld sofraniaeth lawn i fy ngwlad mi fyswn wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn seiliedig ar yr egwyddor o sofraniaeth ac atebolrwydd democrataidd yn unig.

O Walia…Ynys Llanddwyn o’r uchelfannau. Llun: Laura Nunez

Nid sentiment gwrth Ewropeaidd mewn unrhyw ffordd yw dim o hyn. Dwi’n caru Ewrop a’i amrywiol ddiwylliannau anhygoel a chyfoethog. Nid chwaith pleidleisio mewn anwybodaeth neu o gael fy nghamarwain gan unrhyw gyfryngau y gwnes.

Na chwaith pleidleisio yn seiliedig ar gasineb neu gulni tuag at unrhyw wlad neu bobol fel y mae’r cyfryngau a rhai o wrthwynebwyr Brexit yn aml yn ei fynnu. Fel pob un arall a bleidleisiodd i adael i fi gwrdd â nhw – yn Gymry, Albanwyr, Saeson a mwy, (a nifer o’r amrywiol rai yma hefyd o dras Asiaidd a Charibïaidd) – ac oll yn bobol ddeallus a chall, mi bleidleisies dros Brexit wedi blynyddoedd o ymchwilio i be mae’r Undeb Ewropeaidd wirioneddol ynglŷn â fo, ac ar ôl gweld y dystiolaeth gynyddol mae gwanhau a chaethiwo gwledydd a diwylliannau Ewrop y mae’r Undeb Ewropeaidd yn ei wneud, nid eu hybu a’u gwarchod.

Ac mi bleidleisiais dros adael yr Undeb Ewropeaidd, nid i ‘ddod allan o Ewrop’ – term nad yw’n gwneud unrhyw ystyr ac sydd yn ddaearyddol annhebygol.

Ond be yn union ydi’r broblem gyda’r Undeb Ewropeaidd?

Rhoddodd diwedd yr Ail Ryfel Byd gyfle perffaith i unigolion a chorfforaethau pwerus ddechrau ystyried sefydlu corff canolog pwerus Ewropeaidd dan fantell gyfleus sicrhau heddwch i Ewrop. Dechreuodd yr Undeb Ewropeaidd fel yr European Coal and Steel Community yn 1951 cyn ehangu i’r EEC ac yna i’r Undeb Ewropeaidd o gytundeb Maastricht yn 1992. O’i ddechrau cyntaf, pwrpas hyn i gyd oedd creu corff canolog ffederal oedd oruwch unrhyw wlad oedd yn ymuno ag o. Gwelir hyn yn areithiau a datganiadau prif sylfaenwyr gwreiddiol yr Undeb Ewropeaidd, Robert Schuman, Jean Monnet ac eraill, sydd yn datgan yn glir mai corff ffederal a supranational oedd yr Undeb Ewropeaidd am fod.

Rwan yw’r amser i fynd amdani unwaith eto, cyn i ddiawl y llog a’r llwgu ein tynnu ni o dan ei bawen

Ac er gwaethaf ei ddelwedd iwtopaidd fel sefydliad cyfeillgar gyda holl genhedloedd Ewrop yn dod ynghyd i gydweithio mewn undod brawdgarol cyfartal, mae’r gwir yn dangos stori gwbl wahanol. Nid yw’r UE yn ffrind i wledydd a diwylliannau Ewrop. Yr UE yw eu gelyn.

Er mor ddymunol mae’r ddelwedd yn swnio, a byswn yn cytuno’n llwyr petai’n wir, nid ‘flotilla of small boats’, chwedl Adam Price, yw’r Undeb Ewropeaidd ond yn hytrach supertanker, a’r holl wledydd unigol yn gychod achub wedi eu strapio i lawr a’u caethiwo i’w dec heb allu cael eu gollwng i’r dŵr.

Yn yr Undeb Ewropeaidd bresennol, cael eu hapwyntio mae’r awdurdod llywodraethol sydd yn creu deddfwriaethau yr UE sef Comisiwn yr UE, nid eu hethol yn ddemocrataidd. Dim ond trafod a phleidleisio i newid neu addasu agweddau o be sydd wedi ei roi iddynt gan y Comisiwn all aelodau Senedd Ewrop wneud ac mae’n rhaid i unrhyw awgrymiadau am ddeddfwriaeth newydd fynd at y Comisiwn yn gyntaf er mwyn iddyn nhw ei ystyried a phenderfynu os ydynt am ei ganiatáu neu beidio. Fel mae grwpiau ymgyrchu megis y Corporate Europe Observatory (CEO) wedi ei ddangos, mae dylanwadau’r corfforaethau a’u lobïwyr ar benderfyniadau’r Comisiwn yn sylweddol a phoenus o fawr. Yn ôl y CEO, o’r cyfarfodydd sydd yn cael eu cynnal gan yr Undeb Ewropeaidd er mwyn i wahanol bartïon drafod drafftiau deddfwriaethau newydd a rhannu eu barn, yn aml mae 80-90% o’r rhei’nny sy’n bresennol yn aelodau lobio’r corfforaethau rhyngwladol, ac weithiau does neb o grwpiau sydd yn cynrychioli’r cyhoedd yn bresennol hyd yn oed.

Ar ben hyn oll, nid yw aelodau Senedd Ewrop wir yn cynrychioli’r gwledydd o ble daethant yn wreiddiol, na’u partïon. Maent yn cael eu lympio mewn gyda phartïon Ewropeaidd newydd nad oes neb wedi clywed amdanynt ac nad oes neb wedi pleidleisio drostynt. Yn ogystal, ac o bosib yn waeth hyd yn oed, ni all aelodau’r Senedd fyth ffurfio llywodraeth eu hunain o fewn yr Undeb Ewropeaidd gan mai’r Comisiwn apwyntiedig ydi’r llywodraeth politbiwraidd barhaol ac ni all neb newid hyn. Os na all pobl newid y llywodraeth a’r corff deddfwriaethol, yna, yn syml, system unbennaidd a gormesol ydi hi. Ac mae disgrifiad syml arall y gellir ei gynnig i ddisgrifio’r math yma o sefyllfa – ffasgiaeth gorfforaethol. Anodd yw gweld sut mae posib amddiffyn sefydliad mor annemocrataidd.

Ac yn ôl damcaniaeth llawer, gan fy nghynnwys i, dyma’r math o system y mae’r elite a welwn ym Mrwsel a thu hwnt am ei weld dros y byd yn y pen draw, sef rheolaeth gorfforaethol neu gorporatocracy heb ei hethol ar y top yn gwneud yr holl benderfyniadau annemocrataidd ynglŷn â’n rheoli, a bod system gwbl sosialaidd/gomiwnyddol ar ein cyfer ni blebs oddi tano – ffiwdaliaeth fodern, a’r gwaethaf a’r mwyaf eithafol o ddau fyd mewn geiriau eraill. Ymddengys nad San Steffan, Lloegr na hyd yn oed yr Undeb Ewropeaidd yw’r bygythiad mwyaf i Gymru erbyn hyn ond y globaleiddwyr sydd isio byd unffurf heb ffiniau ac felly heb wledydd na chenhedloedd unigol.

Nid oes chwaith unrhyw ystyr yn y slogannu gwag ac ocsimoronaidd ‘Annibyniaeth o fewn Ewrop’ a glywir yn gyson gan Blaid Cymru a’r SNP yn enwedig. Na chwaith yn y slogannu gwag ‘cyd ddibyniaeth’ neu ‘rannu sofraniaeth’. Con ydi hyn yn fy marn i, wedi ei gynllunio i atal gwledydd rhag bod yn endidau rhydd a hunan benderfynol. Nid yw gwlad sydd yn gyd-ddibynnol neu sy’n rhannu sofraniaeth yn wlad annibynnol.

A be yn union ydi pwynt ymgyrchu i adael yr Undeb Brydeinig ac yna neidio i mewn i undeb arall sydd hyd yn oed ymhellach i ffwrdd ym Mrwsel ac nad yw hyd yn oed yn ddemocrataidd?

Pan fydd Cymru’n rhydd yne, megis y Swistir, gallwn weithio ar gytundeb masnach rydd gydag Ewrop neu unrhyw undeb neu wlad arall. A gallwn hefyd ymuno â Chyngor Ewrop, sydd yn annibynnol o’r undeb Ewropeaidd, ac arwyddo unrhyw gytundebau neu gyfamodau gwirfoddol y dymunwn ac a gytunir drwy refferenda Cymreig – cytundebau yn ymwneud â hawliau dynol, hybu heddwch neu atal llygru’r amgylchedd er enghraifft. Ond gwneud hyn fel gwlad sofran y dylem yn fy marn i, nid fel endid vassal ac israddedig o fewn cyfundrefn undebol.

Ac fel mae Cymru yn gwybod yn barod, nid oes unrhyw debygrwydd y bydd undeb Brydeinig y Deyrnas Gyfunol lawer gwell na’r Undeb Ewropeaidd chwaith. Oes, mae risg fod cenedlaetholdeb eithafol Brydeinig neu Seisnig yn mynd i godi ei ben ar draul Cymru a’r Alban unwaith eto ond, o bosib, mwy peryglus yw dylanwad y corfforaethau rhyngwladol sydd yn prysur gael yr un gafael ar Brydain ag ar Ewrop.

Ac yn sicr mae yne beryglon yn perthyn i’r WTO (World Trade Organisation) hefyd – corff rhyngwladol arall sydd â’r grym i roi ffafriaeth i’r corfforaethau a’r gwledydd mwyaf pwerus ar draul tegwch cyfartal i bawb. Mae llawer o dybio hefyd mai brwydr fehemothaidd rhwng milltir sgwâr dinas Llundain, nad sydd am gael ei regiwleiddio gan yr UE, a’r UE ei hun yw hon. Mae eraill yn awgrymu mai rhyw broses Hegelian ddialecticaidd yw hon i greu dwy ochor wrthwynebus er mwyn dod â rhywbeth cwbl newydd yn wleidyddol yn ei le. Ac yn y broses cael pawb i ddadlau ymysg ei gilydd yn ddiddiwedd fel bod erydu morâl pawb, a neb yn gwybod pa ffordd mae eu trwyn yn pwyntio, a’u bod felly yn haws eu harwain i’r corlannau rhagbaratoëdig.

Ac yn amlwg mae’r prif weisg a chyfryngau Prydeinig wedi gwneud eu gorau i bolareiddio dadl Brexit i eithafiaeth un pen yn erbyn eithafiaeth y pen arall, mewn i ddu a gwyn, olew a dŵr. Hynny a chynnal yr hysteria a’r ofn y maen nhw mor hoff ohono beth bynnag. Ac yn groes i’r honiadau arferol, anodd yw dadlau nad gwthio propaganda gwrth Brexit a naratif aros yn yr UE y mae’r prif gyfryngau a’r sianeli teledu wedi ei wneud yn hytrach na chymryd safle niwtral, diduedd ar y peth – mae’r BBC Llundeinig yn enghraifft dda o’r tueddiad yma. Mae’r cyfryngau yng Nghymru a gweddill Prydain wedi methu trin a thrafod y pwnc yn ddeallus a rhesymegol o ddwy ochor y ddadl, fel y mae pwnc o’r fath yn ei haeddu. Ac wedi methu cynnal trafodaeth bwyllog sydd yn delio â ffeithiau a rhesymeg yn hytrach nag emosiwn a rhethreg, ac sydd yn gadael i bobol ddod i’w casgliad rhesymol eu hunain yn seiliedig ar hyn.

Yn ogystal â gollwng ychydig o stêm a mynegi eu rhwystredigaeth â sefyllfa nad ydynt yn cytuno â hi, sydd yn berffaith rhesymol, mae mwyafrif llethol pobol Cymru, be bynnag eu barn, yn gallu trin a thrafod y pwnc yma yn rhesymegol a chall, a gallu gwneud eu penderfyniad o’u crebwyll a’u cydwybod eu hunain, gan allu cytuno i anghytuno gyda’r gwanhaol farnau, safbwyntiau a dadleuon yn ôl eu crybwyll. Nid yw’r wasg na’r cyfryngau yng Nghymru nac ym Mhrydain wedi llwyddo i gynrychioli hyn chwaith.

Un canlyniad anffodus i hyn yw bod fotwyr Brexit yn enwedig wedi gorfod dioddef cyhuddiadau sarhaus a blinedig o fod yn ffasgwyr, eithafwyr, hiliol, xenophobic, rhywiaethol ayb gan garfan fach ond swnllyd o bobol sydd yn honni bod yn oddefgar a blaengar – a hynny am fynegi eu hawliau democrataidd mewn pleidlais ddemocrataidd – eironi sydd yn amlwg yn cael ei golli ar nifer o’r garfan yma a ddisgrifir weithiau yn dynnu-coeslyd fel social justice warriors neu ‘bobol y gwalltiau pinc’.

A rwan, yn ôl rhai, os ydi pleidlais ddemocrataidd yn mynd yn groes i’w dymuniad nhw, yne mae o’n rhywbeth ‘populist’ (hynny yw democrataidd) ac mae hynny (democratiaeth) felly yn beth drwg mae’n ymddangos. Ac oes wrth gwrs, mae elfennau eithafol ac anoddefgar yn bodoli ar draws yr holl sbectrwm gwleidyddol ac ym mhob maes. Oes ne rywun yn cadw’r sgôr yn hyn i gyd?

Y ffaith syml yw bod mwyafrif pobol Cymru (a Phrydain) wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd

Ond yn ôl at y sefyllfa bresennol. Be am y llywodraeth bresennol yn San Steffan a’i bwriad honedig i adael yr UE fel sydd i’w ddisgwyl ar ôl pleidlais ddemocrataidd 2016?

Mae fel petai pobol wedi anghofio mai aelodau mwyaf allweddol cabinet Theresa May; Philip Hammond, Amber Rudd, Jeremy Hunt i enwi ond rhai, yw’r Europhiles mwyaf, a’r cefnogwyr mwyaf brwd dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd er gwaetha eu cogio fel arall – coup pro UE amlwg yn ôl rhai. Yn yr un modd ag yr oedd David Cameron, George Osborne ac eraill o’u blaenau.

Ac yn yr un modd â’r arch neo-ryddfrydwyr globaleiddiol Tony Blair a Alistair Campbell, dau berson amlwg sydd yn gyfrifol am fynd â Phrydain i ryfel yn Irac ac Affganistan yn seiliedig ar dystiolaeth gwbl ddi-sail. Ac os mai ail bleidlais a ddaw, neu dactegau dileu hir dymor, beryg mai ffydd y bobol mewn democratiaeth ei hun fydd yn dioddef yn fwy na heb.

Ydi i rai o’r bobol sydd isio aros yn yr Undeb Ewropeaidd weiddi ar Theresa May a’i chabinet yn gwneud synnwyr o gysidro fod May a mwyafrif y cabinet yn cytuno gyda’r protestwyr yma ac isio aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal?

Mae’n edrych i fi taw jisd mwy o dactegau Maciafelaidd fydd llywodraeth San Steffan yn eu defnyddio wrth honni ei bod am i Brydain a Chymru adael yr UE.

Brexit mewn enw yn unig a Brexit meddal fydd yn galluogi i agenda’r globaleiddwyr a’r corfforaethau sydd wedi nythu ym Mrwsel a dinas Llundain i gario mlaen i weithio drwy’r drws cefn. Mwy o fewnlifiad di-reolaeth a thu hwnt i reswm i Brydain (sydd hefyd yn fêl ar fysedd y neo-ryddfrydwyr sydd am gael digonedd o lafur rhad ac iselhau cyflogau), mwy o sensoriaeth a chywirdeb gwleidyddol afreolus, byddin Ewropeaidd unedig fel cam cyntaf at fyddin ryngwladol (mae Macron a Merkel eisoes wedi dechrau galw am fyddin Ewropeaidd unedig), mwy o’r surveillance state a mwy o bŵer corfforaethol.

Ymddengys nad San Steffan, Lloegr na hyd yn oed yr Undeb Ewropeaidd yw’r bygythiad mwyaf i Gymru erbyn hyn ond y globaleiddwyr sydd isio byd unffurf heb ffiniau ac felly heb wledydd na chenhedloedd unigol.

Nid plaid geidwadol sydd yn arddel moesoldeb a gwerthoedd ceidwadol gwerth eu harddel ydi’r Blaid Geidwadol yn Llundain chwaith, yn yr un modd nad ydi’r Blaid Lafur yn arddel gwerthoedd cymunedol neu gydweithredol gwerth eu harddel chwaith erbyn hyn. Na, yn fy marn i, mae’r partïon yma wedi hen werthu unrhyw werthoedd neu egwyddorion oedd ganddynt i bŵer y corfforaethau, y bancwyr, y rhyfelgwn, ac ie, y globaleiddwyr sydd i’w ffeindio ym Mrwsel, Llundain, yr UDA, Israel ac ar draws gweddill y byd.

Y ffaith syml yw bod mwyafrif pobol Cymru (a Phrydain) wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn gam neu’n gymwys dyma ydi democratiaeth. Ac os ydych yn cytuno neu’n anghytuno gyda Brexit, onid oes dyletswydd ar bawb i wneud yn siŵr bod pen- derfyniadau democrataidd o leiaf yn cael eu gwarchod a’u derbyn os mai dyma’r system wleidyddol yr ydym yn cytuno i fodoli oddi fewn iddi ar y pwynt yma mewn hanes?

Mae gan bawb hawl i gytuno neu anghytuno â’r bleidlais wrth gwrs, ac i ymgyrchu mewn ymgyrchoedd newydd yn y dyfodol. Ond democratiaeth ydi’r system yr ydym yn byw ynddi ar hyn o bryd. Mae systemau cystal, os nad gwell o bosib, yn bodoli megis gweriniaetholdeb cyfansoddiadol, ond stori arall ydi honno.

Llun: Laura Nunez

Os ydi pleidiau Cymru a Phrydain, ac Aelodau Senedd San Steffan a Chymru yn gwrthryfela yn agored yn erbyn llais democrataidd y bobol fel a’i mynegwyd yn refferendwm 2016, onid ydi hyn yn codi cwestiynau dybryd am bwy neu be y mae’r pleidiau a’r aelodau yma yn gweithio iddynt a be yn union yw eu hagenda?

Os ydynt yn rhedeg ymgyrchoedd gwrth ddemocrataidd, onid ydi hyn yn codi pryder sylfaenol be bynnag yw eich barn am y bleidlais?

Pam fod plaid genedlaethol Cymru yn mynnu ymgyrchu i fod yn rhan o undeb Ewropeaidd a fydde yn golygu na fydde Cymru yn wlad annibynnol a hunangynhaliol yn y byd ond yn hytrach yn wlad powlen fegio eto, yn erfyn ar ei meistri newydd ym Mrwsel am ambell geiniog ac ambell grystyn?

Ai dal ati i gael ail neu drydydd pleidlais fel yn Iwerddon, Norwy, Denmarc a Groeg ydi’r bwriad, nes i’r bobol ddod at ‘benderfyniad cywir’ fydd hi? Gwrthododd Iwerddon refferenda i roi mwy o bŵer i’r Undeb Ewropeaidd ddwywaith cyn i’r awdurdodau orfodi ail bleidlais arnynt, a chael yr ateb ie i’r ddwy bleidlais yr eilwaith. Ac fe ddigwyddodd peth tebyg yn Nenmarc a Norwy.

Yn 2015 pleidleisiodd pobol Groeg o 61% i 39% yn erbyn cynnig yr UE am amodau llym ar Roeg oedd hefyd yn cynnwys benthyciad (ac felly dyled) gwerth biliynau gan fanc canolog yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal â’r IMF (International Monetary Fund).

Er gwaethaf y bleidlais, cytunodd llywodraeth adain chwith Groeg i fesurau gwaeth hyd yn oed na’r hyn oedd wedi ei gynnig eisoes gan yr UE. Ac mae’r ffordd y mae Catalwnia wedi cael ei thrin hefyd yn dweud cyfrolau am feddylfryd canolog, fi fawr a goruwch yr UE.

Mae’n ymddangos mai’r twist creulon posib yw bod pawb, be bynnag eu barn, yn mynd i gael ‘ei chwarae’ gan y rhei’nny sydd yn honni eu bod yn delio â Brexit ar ein rhan.

Dwi’n gobeithio nad dyna sydd yma, ond mae hanes yn awgrymu hynny. Ond, be bynnag a ddaw, mae hwn hefyd yn gyfle anhygoel am annibyniaeth i Gymru, i’r Alban ac i Loegr. Mae’n bosib na fu erioed gyfle gwell am annibyniaeth a sofraniaeth i Gymru – annibyniaeth tu allan i’r ddwy undeb ormesol yma ac unrhyw undeb arall. Ac oes, wrth gwrs fod modd i hyn weithio yn economaidd i Gymru. Wrth i Lundain a Brwsel ddangos mwyfwy o’u cardiau a’u hagenda i’n caethiwo i’w ffiwdaliaeth, mi ddaw, gobeithio, yn fwy amlwg i Gymry o bob cefndir a barn mai’r frwydr bwysig yw’r un am ein hannibyniaeth ni fel gwlad – brwydr sydd wedi dechrau eisoes ac sydd yn cynyddu ac yn cyflymu. Ac os cawn ni Brexit/Wexit go iawn ai peidio, y cam nesa i Gymry (neu i genedlaetholwyr Cymreig o blaid sofraniaeth absoliwt o leiaf), yn fy marn i, fydd i ymgyrchu yn ddiflino dros sofraniaeth tu hwnt i unrhyw undeb.

Rydym yn perthyn i genedl anhygoel Cymru – cenedl sydd wedi ymladd yn ddiddiwedd am ei sofraniaeth a’i rhyddid. Rydym wedi ennill a chadw ein sofraniaeth sawl gwaith yn ein hanes, a hefyd wedi ei golli, ond nid heb frwydr. Rwan yw’r amser i fynd amdani unwaith eto, cyn i ddiawl y llog a’r llwgu ein tynnu ni o dan ei bawen.

(Prif lun gan Gastón Cuello drwy drwydded CC By-SA 4.0)

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau