‘Rhagor o fynediad i gefn gwlad i bawb’

Llywodraeth Cymru am weld ‘rhagor o fynediad i gefn gwlad i bawb’ Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi pedwar aelod arbenigol newydd yn aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys pobl o gefndiroedd du, anabl a LHDTCi+. Y nod wrth wneud hynny yw sicrhau bod pob llais yn cael ei gynrychioli yng nghynlluniau’r Awdurdod […]

Continue Reading

Cynlluniau ar gyfer labordy meddygaeth niwclear cenedlaethol

Byddai Prosiect ARTHUR, Llywodraeth Cymru, yn arwain at greu Labordy Cenedlaethol sector cyhoeddus ar gyfer cyflenwi radioisotopau meddygol – sydd eu hangen er mwyn gwneud diagnosis a thrin clefydau fel canser. Byddai’r cyfleuster yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ym maes meddygaeth niwclear, gan wneud Cymru’n lleoliad blaenllaw ar gyfer cynhyrchu radioisotopau meddygol yn y DU. Bydd […]

Continue Reading

Dros 100,000 o apwyntiadau deintyddol ychwanegol eleni

…ond mae methu apwyntiadau yn parhau i gael effaith Mae nifer yr apwyntiadau deintyddol ychwanegol a gafodd eu darparu eleni wedi cyrraedd 109,000 yn ôl data diweddaraf Llywodraeth Cymru. Mae newidiadau Llywodraeth Cymru i gontractau deintyddiaeth y GIG, sy’n cael eu cynnig i bractisau deintyddol ers mis Ebrill diwethaf, yn cynnwys gofyniad i bractisau deintyddol […]

Continue Reading

Gwaith i ddatrys problemau diogelwch yn dechrau ar Bont Menai

Heddiw, 5 Ionawr, mae’r gwaith i ailagor Pont Menai yn dechrau. Mae disgwyl i’r rhaglen waith gael ei chwblhau o fewn 4 wythnos, ar yr amod bod y tywydd yn ffafriol. Bu Llywodraeth Cymru ac UK Highways A55 Ltd, ar y cyd â chwmnïau peirianneg Spencer Group a COWI, yn cydweithio i gyd-ddatblygu’r rhaglen frys. […]

Continue Reading

Dafydd Iwan i siarad mewn rali yn galw am weithredu

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi heddiw mai Dafydd Iwan fydd siaradwr gwadd Rali’r Cyfri yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn Ionawr 14. Bydd y rali yn galw am weithredu brys dros y Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn wyneb canlyniadau’r Cyfrifiad a gyhoeddwyd fis diwethaf. Dangosodd y Cyfrifiad mai yn Sir Gâr unwaith eto y bu’r dirywiad […]

Continue Reading

Cyfrinachau pensaernïol Castell Caerdydd wedi’u diogelu

Bydd pedwar sefydliad diwylliannol Cymreig yn cael eu hariannu drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r National Manuscripts Conservation Trust (NMCT). Yr NMCT yw’r unig roddwr grantiau yn y DU sy’n canolbwyntio’n llwyr ar ofal a chadwraeth llawysgrifau yn y DU. Casgliad o oddeutu 2,000 o luniau a phaentiadau wedi’u casglu gan William Burges, y pensaer […]

Continue Reading