Mae rhifyn Ionawr Y Cymro yn y siopau erbyn hyn a llais Cymru fel rhan o’r Deyrnas Unedig sy’n cael y sylw ar y dudalen flaen.
Mae tystiolaeth newydd yn dangos ‘problemau sylweddol’ gyda’r ffordd y cawn ein llywodraethu fel rhan o’r DU. Mae Comisiwn wedi bod yn casglu tystiolaeth ac yn nodi bod: “…’cyfansoddiad anysgrifenedig’ yn cymryd ‘sofraniaeth’ San Steffan yn ganiataol, sy’n gosod cyfyngiadau sylweddol ar bobl Cymru a’u cynrychiolwyr etholedig i benderfynu sut y dylen nhw gael eu llywodraethu.”
Gwir ystyr ‘dwyieithrwydd’ yw pwnc Heledd Gwyndaf yn ei cholofn y mis hwn. Meddai: “Mae’r nifer helaethaf o bell ffordd ohonom wedi meddwl mai ‘dwyieithrwydd’ ydy dweud popeth yn ddwyieithog, yn llafurus, un iaith ar ôl y llall. Anghywir. Dw i wedi clywed pob math o bobl yn ymarfer eu ‘dwyieithrwydd’ ac mae gen i ofn, bod y rhai hynny sy’n eu galw eu hunain yn ‘arbenigwyr’ ac yn ‘ymgynghorwyr’ iaith yn aml wedi camddeall hefyd.”
Y ddrwgdybiaeth ddiddorol – ac od iawn – tuag Gymry Llundain yn nyddiau’r enwog Samuel Pepys sydd gan yr hanesydd Melfyn Hopkin. “Gyda’r Deddfau Uno tyrrodd mwy a mwy o Gymry i Lundain ac yn sicr roedd drwgdybiaethau tuag at y Cymry oherwydd yr iaith, acenion a dillad.
“Cynyddwyd yr amheuon hyn o deyrngarwch y Cymry gan y Rhyfel Cartref a ddigwyddodd ddegawdau ynghynt. Yn astudiaeth Lloyd Bowen o bamffledi’r cyfnod rhwng Ionawr 1642 a Mai 1643 cyhoeddwyd 17 pamffled yn ymosod ar y Cymry ac yn gwawdio’r Cymry gan greu’r ddelwedd bod y Cymry yn dwp, yn lladron ac yn or-hoff o gaws!” Caws…BE?
Mae’n amser i ni gyd ddefnyddio ein harian i greu system gyfalafol gydwybodol a Chymreig yn ôl y colofnydd busnes Gari Wyn Jones. “…y gwir yw mai un o’r rhesymau yn amlach na pheidio nad yda’ ni wedi magu digon o entrepreneuriaid Cymreig ydy’r ffaith nad yda’ ni’n ddigon hyderus wrth ymdrin ag arian”
Ac – a wyddoch chi mai Cymru sydd â’r nifer fwyaf o welyau’r pen i dwristiaid o holl wledydd Ewrop …hmmm!
Darllenwch fwy am y pynciau uchod a llawer mwy yn rhifyn cyntaf y flwyddyn!
Mae rhifyn Ionawr Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.