“Dim lle i anobeithio” – neges Dafydd Iwan

Barn Newyddion

“Dim lle i anobeithio” – neges Dafydd Iwan i Rali‘r Cyfri yng Nghaerfyrddin

Mewn rali yng Nghaerfyrddin heddiw fe wnaeth Dafydd Iwan ddweud nad oes lle i anobeithio yn wyneb y cwymp yng nghanran siaradwyr Cymraeg, ac mai yn y frwydr y mae ein gobaith ni.

Ategodd Cymdeithas yr Iaith hynny gan ddweud nad anobeithio sydd ei angen ond gweithredu.

Gorymdeithiodd torf o Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin at swyddfa’r Llywodraeth yn Rhes Picton gyda 7 o alwadau ar Lywodraeth Cymru i weithredu.

Dywedodd Dafydd Iwan yn dweud wrth y rali:
“Rhaid inni gymryd sylw o rybudd ystadegau’r cyfrifiad, ond ddylen ni byth anobeithio. Mae arwyddion clir fod yr ymgyrchu dros y 60 mlynedd diwethaf wedi creu chwyldro yng Nghymru, ac y mae’n bwysig ein bod yn dathlu hynny. Mae’r frwydr i ennill meddyliau a chalonnau’r Cymry, yn enwedig yr ifanc, yn parhau, ac yn y frwydr y mae’n gobaith. Ni ddaw byth i ben”

Ar ran Cymdeithas yr Iaith yn y sir, dywedodd Sioned Elin:
“Os na lwyddwn i droi’r llanw yn awr, mae’n annhebygol y bydd unrhyw gymunedau naturiol Gymraeg ar ôl yn Sir Gâr erbyn y Cyfrifiad nesaf. Ond yn sicr dydy hi ddim yn amser i anobeithio, mae’n amser i weithredu. Byddwn ni’n mynd â saith o alwadau ar Lywodraeth Cymru fel sail i Raglen Argyfwng o gamau gweithredol i adfywio’n hiaith a’n cymunedau Cymraeg.”

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau