Wedi gorwneud pethau dros y Nadolig?

Barn Diwylliant / Hamdden Newyddion
 Hoffech chi fynd yn ffit ac yn iach yn y Flwyddyn Newydd? Beth am fanteisio ar un o’r llawer o lwybrau cerdded a beicio sydd ar garreg eich drws? Waeth a ydych yn meddwl am gefnu ar eich car a chymudo mewn ffordd iachach, fwy costeffeithiol, mynd am dro ar y penwythnos neu gynllunio taith feicio gyda ffrindiau a theulu, mae’n debyg y bydd cyfle yn agos, gyda dros 2,000km o lwybrau cerdded a beicio o ansawdd uchel eisoes ar gael ledled Cymru.

Yn dilyn misoedd o ymgynghori cyhoeddus a chan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, mae Awdurdodau Lleol wedi cyhoeddi eu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol, sy’n cynnwys rhestr gynhwysfawr o lwybrau teithio llesol wedi’u cymeradwyo’n llawn. Maen nhw ar gael ar MapiauDataCymru.

Mae’r mapiau’n dod â llwybrau presennol yn ogystal â chynlluniau newydd ynghyd i ddarparu llwybrau newydd a llwybrau wedi’u gwella yn y tymor byr a’r hirdymor, gyda chyllid gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Mae rownd gyllid 2023-24 bellach ar agor ar gyfer ceisiadau, ac mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i wneud cais am gyllid gan y gronfa gwerth £55 miliwn i’w helpu i wireddu eu huchelgeisiau ar gyfer teithio llesol yn eu cymunedau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog gyda Chyfrifoldeb am Drafnidiaeth, Lee Waters:

“Mae annog pobl i gefnu ar eu ceir a gwneud teithiau byr ar droed neu ar eu beiciau yn her fawr inni – ond her mae’n rhaid inni fynd i’r afael â hi os ydyn ni am gyrraedd ein targed ar gyfer allyriadau sero net erbyn 2050.

“Mae angen inni greu’r seilwaith cywir a rhoi’r llwybrau cywir ar waith i sicrhau bod cerdded neu feicio’n opsiwn ymarferol ar gyfer ein teithiau bob dydd – mae angen inni sicrhau bod gwneud y peth iawn yn hawdd.

“Mae llawer i’w wneud o hyd, ond mae’n dda gen i weld ein bod yn symud yn y cyfeiriad iawn.”

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau