Does dim yn cythryblu cymuned fel y bygythiad o gau ysgol fach – a digon teg. Dyna be sydd ar y gweill yn ambell i ardal yn y Gorllewin ac mae’r teimladau ynglŷn â’r peth ar gyrraedd y pwynt berwi.
Yn Y Cymro’r mis hwn cawn y farn am y sefyllfa o bob pegwn – ac mae digon o anghytuno hefyd rhwng ambell i golofnydd a hefyd ymysg llythyrau ein darllenwyr. Felly be di be? – darllenwch yr holl hanes a phenderfynwch.
A beth am yr hen Gymry a’r Sacsoniaid – wel ymladd ymysg ei gilydd bob cyfle daeth yn ôl y sôn. Wel, nid felly oedd hi yn ôl ein colofnydd hanes Mel Hopkins y mis hwn sy’n edrych drwy ei sbienddrych hanesyddol ymhell iawn yn ôl i sylwi bod digon o gyd fyw hapus a defnyddiol rhyngddynt. Darllenwch yr hanes yn Cymro Tachwedd.
Mae teimladau cryf iawn hefyd ynglŷn â bwriad y BBC i dorri rhaglenni poblogaidd ar Radio Cymru er mwyn arbed arian. Meddai Owain Meirion, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith. “Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i’r ffaith bod ein cyfryngau Cymraeg yn cael eu rheoli gan swyddogion anetholedig y BBC yn Llundain a gan wleidyddion gwlad arall. Mae hyn oll yn cadarnhau nad yw’r drefn Brydeinig yn gyfaill i Gymru nac i’r Gymraeg – a fydd hi byth.” Mae pawb yn cael dweud ei ddweud am y pwnc yn y rhifyn yma.
A be ddwedwch chi tybed – ‘Coed Cerrig y Frân’ neu ‘The Mushroom Garden’? Wel does ‘na’m achos meddwl yn hir nagoes. Ond credwch ai peidio – yr ail sydd ar ein mapiau swyddogol erbyn hyn!
Meddai Ieuan Wyn o’r Ymgyrch Gwarchod Enwau Cymraeg: “Dyma amharchu enw Cymraeg hanesyddol drwy ei anwybyddu a’i ddisodli gan enw-gwneud Saesneg. Mae’n amlwg bod angen datganoli’r gwasanaeth mapio swyddogol – creu asiantaeth fapio Gymreig annibynnol yn atebol i Lywodraeth Cymru.”
Prynwch gopi
Mae rhifyn Tachwedd ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: ta*********@****ro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.