Mae cyn-bennaeth o Gymru yn lansio pecyn addysg ar-lein er mwyn dysgu plant sut i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn ddiogel.
Mae Meinir Lloyd Jones, partner a phrif ymgynghorydd addysg gydag ymgynghoriaeth busnes Lafan, yn Ynys Môn, wedi rhybuddio bod gorddibyniaeth ar ddeallusrwydd artiffisial mewn perygl o greu cenhedlaeth o bobl ifanc sydd heb y gallu i feddwl drostynt eu hunain wrth i’r dechnoleg ddatblygu.
Mae’r pecyn dwyieithog newydd yn awr ar gael i’w lawrlwytho’r am ddim a bydd yn cael ei lansio gan Lafan mewn digwyddiad yn Neuadd Ogwen, Bethesda ddydd Gwener, Tachwedd 20.
Addaswyd a chyfieithwyd y pecyn i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru o adnodd cychwynnol a grëwyd ar gyfer ysgolion yn Lloegr gan yr ymgynghorydd addysg Phil Wickins yn Run Don’t Walk Computing.
Bydd Meinir, a fu’n bennaeth yn Ysgol Bro Gwydir yn Llanrwst am wyth mlynedd yn ystod gyrfa o 20 mlynedd ym myd addysg, hefyd yn cynnal gweminar ar Dachwedd 26 er mwyn dangos sut y gall athrawon ddefnyddio’r adnodd.
Mae’n dweud bod y pecyn pum gwers yn amlinellu “dull moesegol, cyfrifol a diogel” o ddefnyddio AI mewn ysgolion.
Dywedodd Meinir: “Mae technoleg yn symud ymlaen ar garlam ac mae yna deimlad ymhlith staff ysgol eu bod mewn ychydig o limbo gyda golwg ar AI lle nad ydyn nhw’n siŵr beth ddylen nhw fod yn ei drafod gyda dysgwyr.
“Gallai fod yn niweidiol iawn i ddatblygiad gwybyddol dysgwyr os ydyn nhw’n allanoli eu gwaith i AI oherwydd nad ydyn nhw’n meddwl drostyn nhw eu hunain.
“Mae’n bwysig i ddysgwyr ddeall beth yw artiffisial, a beth yw realiti, fel y gallan nhw wahaniaethu rhwng dynol a pheiriant.
“Yn aml iawn mae’r allbwn rydych chi’n ei gael o system AI yn swnio’n gredadwy iawn, ac mae pryderon difrifol yn codi os nad ydych chi’n deall bod angen i chi ei gwestiynu.
“Mae’r pecyn hwn yn gwneud yn siŵr bod y dysgwyr yn deall beth yw AI, nid yn unig fel system, ond er mwyn oddyn nhw hefyd ddeall yr eirfa, deall y rhagfarn, a deall beth yw artiffisial.
“Mae’r pecyn yn ymwneud ag uwchsgilio dysgwyr a’u cael i feddwl, eu cael i wirio beth maen nhw’n edrych arno, sicrhau bod ganddyn nhw ddealltwriaeth ac yn cwestiynu hynny a’i gywiro cyn rhagdybio ei fod yn gywir.”
Dywedodd Meinir fod y cwrs yn annog dysgwyr i ddeall y pethau cadarnhaol a’r negyddol o ddefnyddio AI.
Dywedodd: “Mae yna hefyd gyfleoedd gydag AI o ran ysgafnhau llwyth gwaith staff a’i ddefnyddio i gefnogi cynllunio gwersi, ac mae hynny o bosibl yn caniatáu mwy o amser i staff baratoi sesiynau diddorol a dysgu wyneb yn wyneb.
“Mae’r pecyn wedi’i anelu at ddysgwyr ar gam cynnydd tri, rhwng wyth ac 11 oed.
Dywedodd Meinir fod Lafan wedi cwblhau’r gwaith ar y pecyn heb unrhyw gyllid allanol a diolchodd i Phil Wickins am weithio mewn partneriaeth gyda’r cwmni.
Mi wnaeth Meinir a Phil fynychu Ysgol Betws-yn-Rhos, ger Abergele, pan oeddent yn blant. Ac mewn cyd-ddigwyddiad, croesodd eu llwybrau flynyddoedd yn ddiweddarach y Pasg diwethaf, tra roedd y ddau yn awduro unedau ar gyfer y rhaglen newydd Addysgu Digidol gyda Hyder yng Nghymru.
Dywedodd Meinir: “Mae hwn yn un o’r prosiectau hynny rwy’n credu’n angerddol ynddo ac roedd yn haws, gydag ewyllys da Phil, i ni ei roi at ei gilydd ein hunain.
“Weithiau fel cwmni rydyn ni’n gweld rhywbeth sy’n werth ei wneud dim ond oherwydd mai dyna’r peth iawn i’w wneud ac mae hwn yn sicr yn un o’r pethau hynny.”
Diolchodd Phil Wickins, sydd wedi gweithio mewn amryw o rolau uwch arweinyddiaeth mewn ysgolion cynradd, i Lafan am fynd â’i brosiect AI hyd yn oed ymhellach, a chreu fersiwn sy’n berffaith ar gyfer ysgolion Cymru.
Dywedodd: “Mi wnes i roi’r pecyn adnoddau at ei gilydd yn wreiddiol oherwydd nad oedd neb arall wedi gwneud.
“Roedd angen gwirioneddol oherwydd arafwch y wybodaeth ynghylch addysgu AI oedd yn dod allan o Adran Addysg y Llywodraeth.
“Mae bron gormod o wybodaeth allan yna am ddefnyddio AI yn yr ysgol, ond dim byd ar sut i addysgu am AI yn yr ystafell ddosbarth ac rydym yn credu mai ni yw’r cyntaf i wneud hyn.
“Un o’r pethau rydw i wedi ceisio ei ymgorffori yn fy adnodd yw’r ymdeimlad hwn o ymddiried yn ormodol ar system AI oherwydd ei fod yn cael ei bersonoli’n drwm gan gwmnïau sydd eisiau ei gyflwyno fel rhywbeth dynol, gyda llais a phersonoliaeth.
“Gall hynny fod yn beryglus iawn, yn enwedig i blant sy’n ymddiried ac yn dechrau ffurfio cyswllt a chreu perthynas gydag eraill, ac fe all hyd yn oed eu gwneud yn gaeth i’r systemau Deallusrwydd Artiffisial hyn os ydyn nhw’n cael eu trin fel cydymaith neu lais awdurdodol.
“Rwyf am i blant a’u hathrawon gael ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n dod.
“Bydd plant yn defnyddio AI yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol a’u haddysg yn y dyfodol, ac rwyf am wybod fy mod i wedi gwneud fy rhan er mwyn helpu plant i ddeall sut mae pobl yn defnyddio AI i greu pethau ffug a lledaenu camwybodaeth yn fwriadol.
“Rwyf am i blant gael y cyfle i fynd i’r afael â hynny.
Ychwanegodd Phil: “Rwy’n hynod freintiedig fy mod wedi gallu partneru â Lafan yn y prosiect hwn, mae’n wych.
“Rwy’n ddiolchgar iawn iddyn nhw, am gymryd y prosiect hwn ymlaen a chymryd rhywbeth sy’n golygu llawer iawn i mi a’i ddod i fan lle mae’n hygyrch i holl blant Cymru.”
Gall pobl ymweld â Deallusrwydd Artiffisial – wedi’i addasu a’i gyfieithu ar gyfer Cwricwlwm i Gymru – Run Don’t Walk er mwyn archebu lle ar weminar Tachwedd 26 a lawrlwytho’r pecyn cyfrifiadurol.
Bydd digwyddiad Lafan ar Dachwedd 20 hefyd yn clywed gan siaradwyr ar amrywiaeth o bynciau gwahanol sy’n dod â chleientiaid, partneriaid a chymdeithion yr ymgynghoriaeth fusnes ynghyd.
Y prif siaradwr fydd yr entrepreneur a’r anturiaethwr Dr Elin Haf Davies, sylfaenydd cwmni technoleg meddygol Aparito.
Bydd y cyfranwyr yn cynnwys Robin Evans o Mona Lifting, Martin Schweller o GeoMon, Daniel Johnson rheolwr Dinas Llenyddiaeth Aberystwyth, a Hannah Edwards o Safle Treftadaeth y Byd ardaloedd y llechi Cyngor Gwynedd.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.