gan Iestyn Jones
Lluniau’r band: Karen Fisher
Mae ‘na fandiau sy’n jest chwarae… a ma’ ‘na fandiau sy’n dod i’ch atgoffa bod angen gadael y tŷ ar ôl eich amser gwely weithiau. Mae’r Levellers yn perthyn yn bendant i’r ail gategori!
Y tro cyntaf i mi weld y Levellers oedd bron i ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, yn 1998. Roedd hi’n gig arbennig.
Credwch neu beidio, roedd cynllun ar y gweill ar y pryd i werthu rhan o’r Wyddfa! Felly, trefnwyd cyngerdd i wrthwynebu’r gwerthiant a chefnogi ymgyrch gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i warchod Eryri, gyda’r nod o godi digon o arian i brynu 5,300 erw o dir, gan gynnwys copa’r Wyddfa.

Ymhlith y bandiau oedd yn perfformio roedd y Stereophonics, Maffia Mr Huws, Mike Peters, y Levellers, Brychan a Murry the Hump.
Ar y pryd, roeddwn i’n rhannu tŷ ym Mangor Uchaf gyda Paul Morrison. Ei dad, Les Morrison, y cynhyrchydd a’r peiriannydd sain. Drwy gydol y 90au, roeddwn i’n hynod lwcus o gael profi cerddoriaeth fyw a digwyddiadau arbennig drwy wahoddiadau gan Les. Diolch iddo fo, cefais gyfle i weld y Super Furry Animals yn Northampton, Manceinion a Llandudno.
Les hefyd oedd y person wnaeth fy annog i ddechrau anfon caneuon i BBC Cymru, ar ôl iddo ddweud wrthyf: “Os sgwenni di dair cân Gymraeg, mi wna i helpu di cael sesiwn recordio!”

Ond yn ôl at y gig yn 1998. Roedd Les wedi trefnu tocynnau Access All Areas i mi, Paul a Danny, brawd Paul. Felly, cawson ni gyfle i weld un o’r lein-yps gorau i gael eu llwyfannu yng Ngogledd Cymru, o bersbectif hollol wahanol. Dw i’n dal i gofio eistedd ar ochr y llwyfan, yn gwylio rhai o gewri’r sin yn perfformio rhai o’n hoff ganeuon. Roedd hi’n ddiwrnod a noson i’w cofio.
Felly, pwy allai fy meio am fod eisiau ailbrofi rhywfaint o’r hud a brofais yn y gig bythgofiadwy hwnnw, bron i dri degawd yn ôl? Yn anffodus, dydy Les ddim gyda ni bellach, felly mae’r golofn hon yn deyrnged iddo fo, yn hytrach na dim ond i’r Levellers.
I’r rhai ohonoch sydd erioed wedi clywed am y Levellers… wel, rhywle rhwng y Pogues a pync gwerinol yw eu cartref cerddorol. Buaswn i’n dadlau mai nhw yw un o’r bandiau gwerin-bync mwyaf i ddod allan o Brydain erioed.
Ac felly, ymlaen i Landudno! Roedd hi’n amlwg bod y gig wedi gwerthu allan. Roedd Venue Cymru yn llawn dop, a’r awyrgylch yn berffaith ar gyfer noson o gerddoriaeth fyw, atgofion a digon o chwysu.
Agorwyd y set gyda ‘One Way’. Roeddwn i wedi bod yn gwrando ar y trac ar y ffordd draw i Landudno, ac, ohhh mam bach, roedd o gystal, os nad yn well, yn fyw! Roedd y gitâr, y ffidil, y drymiau a’r lleisiau i gyd yn taro’n galed, ac roedd y geiriau’n dal i fod yr un mor berthnasol ag erioed.

Mae cerddoriaeth y Levellers yn perthyn i’r bobl. Mae rhywbeth gonest, bron yn ystyfnig, yn eu sain. Gwerin, pync a chalon fawr, fudr – i gyd wedi’u taflu i’r un gwydraid. Ac wrth gwrs, roedd y caneuon yn rhan enfawr o’r hud. Daeth ‘The Boatman’ ac yna ‘The Riverflow’, ac roedd y lle ar dân! Roedd yna rywbeth trydanol am glywed y caneuon yma’n fyw, ar ôl gwrando arnyn nhw’n chwarae rownd y tŷ ers i mi eu darganfod. Dydyn nhw ddim yn ganeuon yn unig bellach; maen nhw’n cario atgofion tyner sy’n fy atgoffa o gyfeillgarwch ac o fwynhau bywyd.
Mae ‘One Way’ yn dal i roi croen gŵydd i mi. Mae’r corws mor emosiynol a phwerus! Mae’r caneuon i gyd wedi heneiddio’n dda iawn, fel gwin o’r radd flaenaf! Ac roedd y dorf yno i brofi’r un hud. Roedd hi’n braf cael rhannu ambell wên gydag wyneb dieithr wrth i’r lleisiau godi. Am ychydig dros awr, roedd hi fel petai’r byd tu allan wedi diflannu a’n bod ni i gyd ar blaned ein hunain.
Ar ôl chwarae’r albwm ‘Levelling the Land’, fe ddaeth ambell i fonws, fel y chwaraewr didgeridoo. Doedd hynny ddim ar fy ngherdyn bingo! Sŵn arallfydol oedd yn swnio fel ysbryd yn cael ei swyno o ddyfnderoedd y ddaear. Ond dyna’r math o beth sy’n gwneud gig gan y Levellers mor arbennig – maen nhw’n llwyddo i gymysgu pob math o ddylanwadau cerddorol heb golli eu hunaniaeth.
A rhaid sôn am ‘World Freak Show’! Am drac! Roedd hi’n wych ei glywed yn fyw, gyda’r egni, yr agwedd a’r naws wrthryfelgar yna sy’n rhan mor annatod o DNA y band. Roedd yn ychwanegiad perffaith at set oedd eisoes yn llawn caneuon oedd yn codi’r to. Roedd y miwsig yn dal i danio rhywbeth ynof. Efallai hiraeth? Efallai dicter, neu efallai mai’r awydd syml i ymgolli mewn cerddoriaeth fyw am ychydig oriau. Daeth ‘Beautiful Day’ ar ddiwedd y noson, ac fe gânais nes bod fy llais yn gryg! Does dim ots faint dwi’n clywed y gân – mae hi bob amser yn plesio! Ar ôl yr holl sefyll, roedd fy nhraed yn brifo, ond, o wel, roedd o’n werth pob eiliad!
Am ychydig oriau, roedd y Levellers wedi gwneud i mi werthfawrogi bod band mor enwog wedi trafferthu dod i Ogledd Cymru. “Dyle ni wneud hyn yn amlach!” meddyliais. Bandiau o fri rhyngwladol yn dod i Ogledd Cymru – a pham lai? Pam ddylai Caerdydd gael yr holl hufen?
Bron i ddeng mlynedd ar hugain ers i mi eu gweld am y tro cyntaf, mae’r Levellers yn dal i wneud yr hyn maen nhw wedi’i wneud erioed – creu nosweithiau sy’n aros yn y cof ymhell ar ôl i’r goleuadau ddod ymlaen.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.