Annibyniaeth Geltaidd
Gyda phrif weinidogion y Deyrnas Unedig yn newid fel lleuad bob mis does rhyfedd bod y gwledydd Celtaidd yn brasgamu at y cyfle amlwg o gael mwy o reolaeth dros eu ffawd eu hunain. A pham ddim…
Bu dwy brif gynhadledd hanesyddol yng Nghaerdydd yn ddiweddar pan ddaeth mudiadau ac arweinwyr o’r gwledydd hynny ynghyd i drafod dyfodol cyfansoddiadol ac annibyniaeth. Ond tu hwnt i’r hyn a drafodwyd fe oedd hefyd edrychiad a phwyslais gwahanol iawn ar bethau a rhyw deimlad bod y tir wedi newid mewn ffordd di droi nôl – dechrau rhyw ‘ddadgyplu ymwybodol’ fel dywedodd Gwyneth Paltrow unwaith!
Mae gwahanol agweddau ar hyn yn destun trafod yn Y Cymro y mis yma gyda sylw mawr ar orymdaith YesCymru ger y lli a hefyd i’r oes Geltaidd newydd sydd wedi gwawrio. Darllenwch fwy yn rhifyn Hydref.
Beth yw’r ots gennyf i am y BBC?
A yw’r BBC yn ei ymdrech i ddangos faint ydan ni i gyd yn ei garu wedi saethu ei hun yn ei ddwy droed?
Felly wir yn ôl y colofnydd Heledd Gwyndaf sydd yn rhestru ‘gwendidau’ helaeth y gwasanaeth ‘cenedlaethol’. Meddai: “…y British Broadcasting Corporation yw e wedi’r cwbl, yr Empire Broadcasting Corporation gynt. Newid enw ond yr un yw’r nod. Gwisgo ei hun i fyny fel y corff â’r llais di-duedd, rhesymegol, call, sy’n ein cynrychioli ni i gyd. A’r ‘British’ yw Lloegr wrth gwrs.” Darllenwch fwy o’i barn yn y papur.
Ffarwel i Cadi
Mae Cadi yn gadael! – na, nid Y Cymro wrth gwrs ond ei chartref yng Nghaerdydd i gymryd mantais o gyfle euraidd tu hwnt i’r ffin. Darllenwch yr hanes yn ei cholofn y mis hwn.
Yr Hwch Ddu
Ymhell cyn i arferion America ledu ar draws y wlad mi oedd gan Gymru ddigon o arferion Nos Calan Gaeaf hollol unigryw ein hunain. Tynnwch y llenni, prociwch y tan a mwynhewch y straeon dychrynllyd am yr Hwch Ddu ar Ladi Wen yng ngholofn hanes Melfyn Hopkins yn y Cymro.
Prynwch gopi
Mae rhifyn Hydref ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: ta*********@****ro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.