gan Deio Edwards
Ar noson hydrefol o wynt a glaw, ymgasglodd miloedd o bennau-betrol o bob cornel o Gymru a Phrydain yn Nolgellau. Roeddent yno i weld a chlywed pencampwr Rali’r Byd newydd, Elfyn Evans, ac i ddangos eu cariad a’u gwerthfawrogiad ohono.
Roedd yr ymdeimlad o gariad a gwerthfawrogiad yn aruthrol, wrth i’r dorf orfoleddus groesawu eu harwr i Sgwâr Eldon (neu a ddylai fod yn Sgwâr Elfyn?) gyda bloeddiau a dagrau llawenydd. VROOM bloeddiodd yr injan a llenwi’r aer gyda’r arogl melys o betrol.

Gan ei fod yn methu â chuddiad ei deimladau yn wyneb cymaint o edmygedd ac addoliad, ceisiodd Elfyn fynegi ei ddiolchgarwch dwys i’w ffrindiau, ei deulu a’i gefnogwyr – pobl y pwysleisiodd mai diolch iddynt hwy y llwyddodd.
Gan ‘dalu’r pwyth yn ôl’ i’w holl edmygwyr, cynhaliodd pencampwr Rali’r Byd 2026 symposiwn o sgiliau a thriciau yn ei Toyota Yaris enwog ym Mharc y Marian. Roedd y dorf – hen ac ifanc – yn syllu’n ddisymud ac yn geg agored wrth i’r injan ruo a’r teiars sgrechian; perfformiad a fydd yn aros yn y cof am amser hir.

Am noson, ac am arwr! WOW, wir!!
Diolch am bopeth Elfyn!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.