Elfyn Evans – Pencampwr Ralïo’r Byd

Newyddion

Elfyn Evans o Ddinas Mawddwy yw ennillydd Pencampwriaeth Ralïo’r Byd 2026.

Elfyn yw’r Cymro cyntaf erioed i ennill y bencampwriaeth ac fe lwyddodd i gipio’r teitl yn y cymal olaf yn Sardinia yn gyrru Toyota GR Yaris Rally1 fel rhan o dîm Toyota GAZOO Racing WRC.

Mae Elfyn, 37, yn wreiddiol o Ddinas Mawddwy ger Dolgellau, wedi gorffen yn ail yn y bencampwriaeth ar bum achlysur blaenorol.

Mae ei Dad Gwyndaf Evans yn gyn bencampwr Ralïo Prydain, a ennillodd yn 1996. Mae Gwyndaf a’r teulu hefyd yn perchen a rhedeg garej a gwerthwyr ceir Ford yn Nolgellau a gafodd ei sefydlu gan Daid Gwyndaf Evans yn Ninas Mawddwy yn 1930 – gyda’r enw yn cael ei newid i Gwyndaf Evans Motors yn 1983.

Fidoe gan S4C. Prif lun gan Lukas Raich drwy drwydded CC BY-SA 4.0

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau