Ail-etholwyd Owain Meirion yn gadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith yng Nghyfarfod Cyffredinol y mudiad yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth heddiw (dydd Sadwrn, 17 Hydref).
Cafodd ei benodi i’r rôl yn wreiddiol ym mis Hydref 2025 – a hynny ar ôl bod yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith ers sawl blwyddyn.
Meddai Owain ar ôl cael ei ethol:
“Mae’n anrhydedd derbyn ffydd aelodau’r Gymdeithas i wasanaethu’r mudiad fel cadeirydd am ail dymor a hynny ar adeg mor bwysig i ni fel mudiad wrth i ni weithio i sicrhau bod y llywodraeth a Senedd newydd sydd gennym ym Mae Caerdydd yn gweithio dros y Gymraeg a’i chymunedau.
“Gallwn fel mudiad ymfalchïo yn yr hyn sydd wedi’i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf. Fe sicrhaon ni fod ymrwymiadau allweddol ym maniffestos y pleidiau gwleidyddol cyn etholiad fis Mai a lansion Siarter Troi’r Llanw sy’n cynnwys galwadau ar y llywodraeth newydd. Ailsefydlwyd y Grŵp Trawsbleidiol dros y Gymraeg yn y Senedd ers iddo ddirwyn i ben yn 2021 er mwyn craffu ar waith y llywodraeth ac etholwyd y Gymdeithas i ddarparu ei ysgrifenyddiaeth.
“Yn goron ar y cyfan, mae nifer o’n galwadau polisi wedi’u cynnwys mewn ymrwymiadau gan weinidogion y Llywodraeth ar lawr y Senedd, gan gynnwys deddfu ar gyfer yr hawl i dai digonol a’r hawl gymunedol i brynu, sefydlu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru i fel cam cyntaf yn y broses o ddatganoli darlledu, ymestyn hawliau siaradwyr Cymraeg ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’n braf gweld rhain ar waith wedi blynyddoedd os nad degawdau o ymgyrchu drostynt.
“Bydd y Gymdeithas yn parhau â’r gwaith i sicrhau gweithredu ar yr ymrwymiadau yma ac eraill dros y tymor nesaf. Rŵan ydy’r amser i droi’r llanw er mwyn sicrhau bod holl bobl ifanc Cymru’n cael dod yn rhugl yn ein hiaith genedlaethol, am hawliau cyflawn i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’n bywydau ac am gymunedau ffyniannus lle mae’r Gymraeg yn iaith fyw.”
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.