Cymru 2, Norwy 1. O’r diwedd, canlyniad mawr i Gymru.

Newyddion

gan Daniel Jones

Cymru 2, Norwy 1 – Noson i’w chofio

Dwy gôl, un Wal Goch, a buddugoliaeth enfawr yn erbyn Norwy.

Er bod Cymru wedi ennill 5 o’u 7 gêmau cystadleuol adref cyn y gêm, negyddol iawn oedd y sgwrs cyn y gic gyntaf. “Heb ennill yn y 6 dwythaf a cholli’r 3 dwythaf.” A hynny yn erbyn tîm oedd wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd.

Roedd perygl mawr o flaen Cymru – Erling Haaland, un o ymosodwyr gorau’r byd os nad y gorau. 65 gol mewn 57 gem i Norwy oedd ganddo cyn y gêm.

Ond ar ôl yr anthem, fe dyfodd yr hyder, a diflannodd y canlyniadau diwethaf o’r cof.

Roedd cynllun Cymru yn glir – chwilio am Sorba Thomas a Dan James ar yr asgelloedd, a manteisio ar y lle tu ôl i gefnwyr Norwy.

Norwy sgoriodd gyntaf, yn groes i rediad y gêm. Oscar Bobb yn chwarae un-dau gyda Odegaard, cyn torri trwy amddiffyn Cymru fel cyllell trwy fenyn.

Cafodd Sorba Thomas gyfle wedyn – ond pam na saethodd o?! Roedd y gôl o’i flaen, ond trio pasio i Dan James wnaeth o. Stori Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd hyd yma – cyfleoedd yn cael eu creu, ond ddim digon clinigol.

Ac wedyn, y gôl o’r diwedd!

Cullen yn dwyn y bêl, Koumas yn cario ymlaen cyn rhoi hi i Sorba Thomas. Croesiad perffaith ar draws y bocs chwe llath a Daniel James yno i orffen. Un asgellwr i’r llall. Gôl arbennig.

Fuodd Koumas yn wych trwy gydol y gêm hefyd – yn brwydro am bob pêl, yn rhedeg yn ddi-stop ac yn creu trafferth i Norwy. Chwaraewr gwerth ei bwysau mewn aur.

Pêl obeithiol dros amddiffyn Norwy yn eiliadau cyntaf yr ail hanner a Dan James unwaith eto yn brwydro am bopeth. Yn cael ei gorff o flaen Heggem ac yn ennill y gic rydd. Ond nid cic rydd yn unig – cerdyn coch i Heggem, gan mai fo oedd yr amddiffynnwr olaf.

Ac yn sydyn, aeth pethau’n well fyth.

Cullen yn cogio, a Neco Williams yn anfon y gic rydd tu hwnt i’r gôl-geidwad. Dau gam i’r chwith wnaeth y gôl-geidwad cyn i Neco ddod o hyd i’r ochr arall. Am orffeniad gwych.

Dechrau perffaith i’r ail hanner.

Ond roedd digon o amser i Norwy ddod yn ôl. Nusa yn creu trafferth ar yr asgell chwith, Haaland yn cael cyfleoedd a’r ddau Ben yn clirio popeth welon nhw.

Roedd Cymru’n eistedd yn ddyfnach ac roedd fy nghalon yn fy ngheg. Atgofion o Dzeko yn erbyn Bosnia yn dod yn ôl…

Roedd Norwy yn pwyso, ond Cymru yn dal ymlaen.

Ac wedyn y floedd aruthrol. 2-1 i Gymru!

Roedd ymdrech y tîm cyfan yn anhygoel. Unwaith eto, mae Cymru’n edrych fel tîm hollol wahanol adref o flaen y Wal Goch.

Noson fawr. Perfformiad mawr. Ac o’r diwedd, canlyniad mawr i Gymru.

 

Prif lun: Daniel Jones yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau