A ydym yn wlad gyda llywodraeth ddatganoledig sydd â chenedlaetholwyr mewn grym? – wel siŵr iawn.
Pam felly mae’n rhaid i frawd mawr San Steffan, ar ffurf Ysgrifennydd Gwladol Cymru, syllu arnom fel ci gwarchod byth bythoedd?
Dyna’r cwestiwn sy’n cael ei ofyn fwyfwy – ond yn enwedig ers i Blaid Cymru gymryd y llyw yn y Bae fis Mai.
Wel eiriolwr Cymru ydyw yng nghabinet San Steffan ‘dach chi’n gweld sy’n gwneud yn siŵr bod buddiannau ein gwlad ar dop pob agenda yn Llundain …ha, peidiwch dweud felly!
Y mis yma mae gan Y Cymro adroddiad arbennig ar ddyfodol y swydd od hon gyda barn o bob pegwn y ddadl. Nid trafodaeth ar safon y rheini fu yn y swydd cofiwch ond gofyn pam ei bod yn bodoli o gwbl yn y dyddiau hyn. Darllenwch yr holl stŵr yn rhifyn Medi.
A sut Steddfod oedd hi?
Digon o ganmol ond nid pawb sy’n hapus gyda phopeth wrth gwrs. Darllenwch farn Dafydd Iwan a Sharon Morgan yn y rhifyn yma. Meddai Sharon: “Mae’n anodd credu erbyn hyn fod ‘na ffasiwn beth â Pentre Theatr ar un adeg, pan oedd y Theatr hefyd yn gartre i gyflwyniadau, darlleniadau a thrafodaethau lu, Caffi’r Theatrau yn gwerthu tocynnau ar gyfer arlwy’r cwmnïau mewn lleoliadau tu allan i’r Maes, a’r Eisteddfod yn comisiynu dramodydd i ysgrifennu drama hir. Mae hynny i gyd wedi diflannu nawr…”
A phryd oedd hi pan oedd poster y Steddfod yn llawer rhy awgrymog a rhywiol? – BETH!?
Roedd awdurdodau’r Eisteddfod bryd hynny yn mynnu bod pob copi o’r poster yn cael ei falu.
Darllenwch fwy.
Bu’r Cymro yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd hefyd a chawn ddarlun o ddyn cysurus yn mwynhau ei hun gyda’i deulu yn yr awyrgylch unigryw hon gan Iestyn Jones. Meddai: “Mae ‘na rywbeth nyts am fynd i ŵyl gerddoriaeth yn 50 oed, ‘does?”. Darllenwch yr hanes yn y rhifyn yma.
Creu Cymru newydd ar bridd America – a byw bywyd cyfan yn iaith y nefoedd. Dyna bwnc Dr Geraint Davies y mis yma – olrhain hanes y rheini oedd yn gweld arfordir yr hen wlad yn diflannu ar fore llwyd yn 1842 …gyda byd newydd gyffrous o’u blaenau.
Mae rhifyn Medi ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: ta*********@****ro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.