Torfeydd penwythnos yn y Steddfod

Newyddion

Roedd pobl yn aros i fynd i mewn i Faes yr Eglwys Genedlaethol yn gynnar iawn ar ddiwrnod agoriadol yr ŵyl. 

Roedden nhw ymhlith miloedd o bobl a fynychodd y Maes yn Llantwd ger Aberteifi. 

Dywedodd Betsan Moses, prif swyddog gweithredol yr Eglwys Genedlaethol, eu bod nhw’n amrywio o eisteddfodwyr rheolaidd i bobl leol a oedd wedi helpu i drefnu digwyddiadau codi arian i gefnogwyr Super Furry Animals a ddaeth â gweithgareddau’r diwrnod agoriadol i ben ar y prif lwyfan. 

Wrth annerch cynhadledd i’r wasg, dywedodd: “Rwyn credu ein bod wedi torri’r record o berson yn cnocio’r drws i ddod fewn i’r Maes gynharaf. 

“Am 6.51am bore Sadwrn roedd rhywun yn awyddus i ddod fewn ac fe barhaodd hynny drwy’r dydd pan agorwyd y giatiau am 8am a braf oedd gweld pobl yn dod am y tro cyntaf. 

“Rhai’n dweud eu bod wedi bod yn rhan o’r paratoadau am y ddwy flynedd diwethaf ac yn teimlo mae eu ‘Steddfod nhw oedd o ac eisiau bod yma ar y cychwyn. 

“Roedd y Super Furry Animals yma yn ddiweddarach ac roedd llawer wedi dod yn arbennig i’w gweld ac i’w mwynhau. Roedd nifer ohonynt, ddim efallai yn ein cynulleidfa traddodiadol, wedi dod yn gynnar ac wedi mwynhau adloniant y dydd ac wedirhyfeddu ar beth oedd yr Eisteddfod a gobeithio daw nifer ohonynt yn ol yn ystod yr wythnos.” 

Ychwanegodd fod nifer y dorf yn cymharu’n ffafriol gyda gig Bwncath ym Moduan. Dywedodd fod camau wedi eu cymeryd ymlaen llaw i sicrhau mwy o le ar gyfer y dorf er mwyn iechyd a diogelwch. 

Mae’r Eisteddfod yn trefnu Teithiau Tywys yn ddyddiol a dydd Sadwrn roedd nifer o fobl wedi ymuno a’r teithiau oedd yno’n bennaf i weld y Super Furry Animals meddai Ms Moses. 

“Roedd pobl o America a Llundain yn eu plith. Mae hynny wastad yn braf ac yn rhoi syniad ini faint o bobl sy’n teithio yma o bell,” meddai. 

O ran trefniadau trafnidiaeth a traffig rhedodd pob trefniant yn llyfn 

“Yn enwedig o gofio bod Sioe Aberteifi ymlaen yr un diwrnod hefyd. Mi weithiodd ni ar y cyd ac roedd ffyrdd yr ardal yn llifo’n braf. 

“Wedi gig y Super Furry Animals llwyddwyd i wagio’r meysydd parcio’n hwylus ac o fewn tri chwarter awr i’r band orffen roedd y meysydd parcio wedi eu clirio. 

“Bore heddiw mae pobl yn parhau i lifo’i fewn ac mae’r haul yn tywynnu a gobeithio cawn ddiwrnod llwyddianus arall,” meddai. 

 

Am y tro cyntaf ers 30 mlynedd, perfformiodd y Super Furry Animals ar brif lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. 

Mwynhaodd miloedd lawer o gefnogwyr y gig gan un o fandiau mwyaf dylanwadol Cymru. Ers eu ffurfio ym 1993, mae’r grŵp wedi cyfuno roc seicedelig, arbrofi electronig a cherddoriaeth Gymraeg, gan helpu i ddod â sîn amgen Cymru i gynulleidfaoedd rhyngwladol. 

Ymhlith eu heiliadau mwyaf cofiadwy oedd ymddangosiad eu tanc porffor eiconig ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandeilo ym 1996, sef stynt sydd wedi dod yn rhan o lên gwerin cerddoriaeth Cymru. 

Y gig yn yr Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las oedd perfformiad cyntaf y band yn gyfan gwbl yn yr iaith Gymraeg a chafodd dderbyniad da gan gynulleidfa frwdfrydig a gwerthfawrogol. 

Am y tro cyntaf, perfformiodd y band eu halbwm Mwng yn ei gyfanrwydd. Mae’r albwm, pedwerydd y band a ryddhawyd yn 2000, yn cynnwys ffefrynnau fel Ymaelodi Â’r Ymylon, Y Teimlad, Sarn Halen ac Ysbeidiau Heulog. Cyrhaeddodd yr albwm rif 11 ar Siart Albymau’r y Deyrnas Unedig – yr albwm Cymraeg cyntaf i gyrraedd yr 20 uchaf. 

Arweiniodd y llwyddiant hwn at sôn am Mwng yn Nhŷ’r Cyffredin gan Elfyn Llwyd, a ddisgrifiodd y record fel dathliad o “don newydd o hyder yn y genedl Gymreig”. 

Gwelodd gweddill y gig y band yn perfformio caneuon eraill yn y Gymraeg, rhai nad oedd erioed wedi’u perfformio’n fyw ar lwyfan o’r blaen, a daeth i ben gyda fersiwn gofiadwy o Gwreiddiau Dwfn/Mawrth Oer Ar Y Blaned Neifion. 

Daeth y set 90 munud â gweithgareddau ar Lwyfan y Maes i ben nos Sadwrn. Yn gynharach yn y noson roedd Mellt, Pys Melyn ac Ynys wedi perfformio ar y llwyfan mawr. 

 

 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau