Dathlu diwedd taith Yr Arglwydd Rhys

Newyddion

Ar ôl ‘deffro o’i drwmgwsg’ yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a cherdded drwy ddalgylch Eisteddfod y Garreg Las daeth taith pyped yr Arglwydd Rhys i ben gyda dathliad yng Nghastell Aberteifi. 

Daeth tyrfa o dros 8,000 o bobl i wylio’r pyped pum metr o uchder yn dychwelyd yn ôl i’w gartref fel uchafbwynt i ddathliadau 850 mlwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cynhaliwyd diwrnod o weithgareddau a pherfformiadau yn y castell gyda gorymdaith drwy strydoedd y dref ac ar yr Afon Teifi, wrth i’r Eisteddfod ail-greu peth o’r Eisteddfod gyntaf yn 1176, gyda beirdd a chantorion yn cyrraedd ar gychod a cheffylau i berfformio o flaen yr Arglwydd Rhys.

Bu’r pyped ar daith o amgylch ardal y Garreg Las, gan gychwyn yn Nhyddewi, pan ddadorchuddiwyd Cadair a Choron Eisteddfod 2026, a theithio i Genarth, Castell Newydd Emlyn, Llangrannog, Talgarreg, Wdig, Maenclochog ac Aberteifi.

Cafodd Yr Arglwydd gwmni ei gi ffyddlon, Teifi, pyped enfawr ar olwynion, wrth deithio drwy’r dalgylch.

Pan ddychwelodd i Aberteifi ar ddiwedd y daith, ymunodd gorymdaith o berfformwyr, grwpiau cymunedol lleol, pwyllgorau’r Eisteddfod a chriw o fleiddiaid theatr stryd ddaeth yr holl ffordd o Ŵyl Celfyddydau Stryd Rhyngwladol Spraoi, Waterford yn Iwerddon.

Wrth edrych yn ôl ar yr wythnos, dywedodd John Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod y Garreg Las: “Mae’r wythnos ddiwethaf wedi bod yn wefreiddiol. Rydyn ni wedi bod â’r Eisteddfod allan i gymunedau’r Garreg Las yn y ffordd fwyaf gweledol bosibl, ac mae’r ymateb wedi bod yn arbennig iawn.

“Mae’r trigolion lleol wedi dod allan i gefnogi a rhyfeddu ar yr Arglwydd Rhys a Teifi, ac wedi cael bod yn rhan o seremoni a digwyddiad yn eu cymuned cyn yr ŵyl ei hun.

“Rwy’n gobeithio y byddai’r Arglwydd Rhys ei hun wedi mwynhau’r daith, ac yn arbennig y dathliad ddydd Sadwrn, oedd yn gyfle i greu fersiwn fodern o’r hyn ddigwyddodd ar ddydd Nadolig 1176, wrth i bawb ymgynnull ar gyfer yr Eisteddfod gyntaf.

“Mae 850 mlynedd yn gyfnod hirfaith, ac mae’n anhygoel fod yr Eisteddfod yn dal i ddatblygu ac esblygu’n flynyddol ac yn ŵyl ddeinamig a modern sy’n cynnig rhywbeth i bawb.

Bydd nifer o weithgareddau i ddathlu’r 850 yn cael eu cynnal o amgylch y Maes drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys sioe newydd sbon gan Cabarela, fydd yn y Babell Lên o nos Sul i nos Iau.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau