Rhifyn Mai Y Cymro

Newyddion

Mae’r geiriau ‘ynni glân, adnewyddadwy, diddiwedd’ yn swnio’n nefolaidd o apelgar ynddynt eu hunain yn tydyn? Anrhegion pur di amod inni oll  – gan yr haul, y gwynt a’r môr. Perffaith.

Mae’r syniad  o harneisio pŵer y gwynt yn darlunio ceffyl gwyn cryf a’r cwbl sydd angen inni wneud yw neidio ar ei gefn.

Ond fel popeth arall does dim am ddim ac mae dyfodiad y ffermydd gwynt a solar i gefn gwlad Cymru ar raddfa helaeth yn creu digon o anghydfod ymysg rhai sydd yn mynd i fyw yn eu mysg. Meddai un: “Maen nhw’n mynd i roi pum tyrbin ar y grib uwchben y fferm – gallwch weld Tŵr Blackpool o’r fan honno ond mi fydd y tyrbinau hyn yn dalach na’r tŵr.”  Darllenwch y diweddaraf am y sefyllfa yng Nghymru yn rhifyn Mai.

A be am ddefnydd y Gymraeg yn ein Gwasanaethau Iechyd? Oes gwellhad go iawn wedi bod? Dim yn ôl ein colofnydd Heledd Gwyndaf. Meddai: “Does neb mewn gwirionedd ar lawr gwlad yn ein gwasanaeth iechyd, yn enwedig yn y sector elusennol, ag unrhyw ymwybyddiaeth o anghenion ieithyddol pobl Cymru a phwysigrwydd hyn o ran ein hiechyd.”  Darllenwch ei barn gref y mis yma.

Mae’r colofnydd Cadi Edwards yn cael eiliad o fyfyrdod – camu oddi ar yr olwyn bochdew am funud a thrio joio’r foment. Meddai: “‘Da chi ar y treadmill diddiwedd ‘ma, yn anelu at y nod nesaf, heb ganiatáu eich hunain i fwynhau’r foment  bresennol.  Dwi’n meddwl mod i wastad di tueddu i feddwl fel hyn – beth yw’r cam nesaf? Beth yw’r her nesaf?”  Beth wnaeth hi felly? – darllenwch ei cholofn.

Ac fe oedd brwydr waedlyd ar arfordir Môn gyda’r Cymry, y Llychlynwyr a’r Normaniaid yn rhan o’r erchylltra. Ein colofnydd Melfyn Hopkins sy’n adrodd yr hanes o fil o flynyddoedd yn ôl.

Mae rhifyn Mai  ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: tanysgrifio@ycymro.cymru

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau