Mae Cynnal Bro Machno, grŵp cymunedol sy’n anelu at brynu eu tafarn leol, y Tŷ Uchaf, Penmachno, wedi llwyddo i werthu gwerth £145,000 o gyfranddaliadau mewn dim ond 11 wythnos er mwyn sicrhau dyfodol y dafarn.
“Fe wnaethon ni lansio’r cynnig cyfranddaliadau ar y 14eg o Chwefror, ac rydym wrth ein boddau gyda’r gefnogaeth rydym wedi’i dderbyn. Mae gennym dros 490 o fuddsoddwyr erbyn hyn! Mae’r gymuned leol, yn ogystal â ffrindiau newydd o bell, o wledydd fel Awstralia, yr Unol Daleithiau a’r Ynysoedd Falkland, wedi dod ynghyd i brynu cyfranddaliadau i’n helpu i achub ein tafarn,” meddai Ceri Morris, ysgrifennydd y grŵp.
Gyda’r perchnogion presennol angen gwerthu, roedd y dafarn dan fygythiad uniongyrchol o gau. Bydd y grŵp yn ychwanegu grantiau a benthyciadau llywodraethol at yr arian cyfranddaliadau i gwblhau prynu ac adnewyddu’r dafarn, gyda’r nod o sicrhau’r Tŷ Uchaf ar gyfer y gymuned erbyn mis Medi.
Mae’r grŵp wedi codi rhagor o arian a chefnogaeth drwy gynnal digwyddiadau gan gynnwys cerddoriaeth Gymraeg lleol, cwisiau tafarn ac ocsiwn cymunedol oedd yn cynnwys rhoddion hael gan fusnesau lleol. Fe wnaethant ddathlu diwedd y cynnigcyfranddaliadau gyda gŵyl gwrw a drefnwyd ar y cyd efo’r bragdy lleol, Cwrw Nant. “Rydym wedi cael cefnogaeth anhygoel gan bobl leol, cerddorion ac ymwelwyr i’r pentref.
Rydym hefyd wedi darganfod grym y cyfryngau cymdeithasol, gan rannu ein neges gyda chymdeithasau Cymreig ledled y byd – mae wedi bod yn llwyddiant mawr, yn enwedig wrth i ni edrych ymlaen yn fuan at groesawu côr Cymreig o Melbourne, Awstralia sydd wedi prynu cyfranddaliadau ac sydd bellach yn rhan o’n cymuned fach yma ym Mhenmachno.”, ychwanegodd Ceri. “Rydym wedi ein llethu gan haelioni a chefnogaeth pobl – mae’n amlwg bod pobl eisiau i’r dafarn hon aros yng nghalon y gymuned.”
Bydd y grŵp newydd o gyfranddalwyr yn cael eu gwahodd yn fuan i bleidleisio ar bwyllgor, ac yna bydd y gwaith o recriwtio rheolwr i redeg y dafarn yn dechrau. Bydd Cynnal Bro Machno yn parhau i godi arian i gefnogi eu gwaith, felly mae digon o gyfle o hyd i gefnogi’r prosiect.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.