Diwrnod o greu hanes… etholiad Senedd Cymru

Newyddion


Plaid Cymru yw’r blaid fwyaf yng Nghymru, gyda 43 sedd yn y Senedd 96 sedd.

Dywedodd yr arweinydd Rhun ap Iorwerth, ei bod yn amlwg bod Cymru wedi mynnu ‘newid arweinyddiaeth’ a bod ei blaid yn ‘barod i wasanaethu’.

Dioddefodd Llafur gwymp hanesyddol, gan ennill dim ond naw sedd, gydag Eluned Morgan yn camu i lawr fel arweinydd ar ôl colli ei sedd. Dywedodd ei bod yn cymryd cyfrifoldeb am ganlyniad ei phlaid, a bod pobl Cymru wedi ‘gwrthod Llafur Cymru.’

Mae gan Reform 34 sedd. Mae gan Lafur naw sedd, y Ceidwadwyr saith ac mae gan y Blaid Werdd ddwy sedd – y rhai cyntaf erioed i’r blaid. Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, wedi cadw ei sedd hi.

Wedi iddo ennill sedd ym Mangor Conwy Môn, dywedodd Rhun ap Iorwerth ar wefan Cymru Fyw bod “pobl Cymru wedi dewis gobaith”.

“Maen nhw wedi dewis, ac maen nhw wedi dewis arweinyddiaeth newydd am y tro cyntaf yn hanes ein democratiaeth ifanc. Ond wrth i’r stori newydd yma gael ei sgwennu, nid heddiw sy’n bwysig mewn difri’ ond fory a’r diwrnod ar ôl hynny. Dechrau, nid diwedd y daith ydi hyn.”

Ychwanegodd fod pobl “wedi rhoi ffydd ynddon ni a byddwn ni’n dangos ein ffydd yng Nghymru”.

Bydd Llafur Cymru rŵan yn chwilio am arweinydd newydd. Eluned Morgan yw arweinydd cyntaf unrhyw weinyddiaeth drwy’r DU i golli ei sedd tra yn y swydd. Yn ei haraith yn dilyn y canlyniad, fy ddywedodd ei bod yn cymryd cyfrifoldeb am berfformiad y blaid yn yr etholiad. Bydd yn parhau yn brif weinidog hyd nes y bydd pleidlais yn siambr y Senedd i benodi ei holynydd.

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley “bron iawn methu â chredu” canlyniadau’r etholiad.

Dywedodd ar raglen Newyddion S4C: “Dwi’n arbennig o falch o weld Adam Price yn ôl yn Sir Gaerfyrddin. Oedd ‘na dipyn bach o amheuaeth sut ‘sa’r pleidlais yn mynd, ond mae’n ddiogel.”

Er y dathlu, dywedodd ei fod yn “teimlo i’r byw” dros Alun Davies, yr aelod Llafur a gollodd ei sedd. “Mae’n gwneud joban o waith yn y Cynulliad. Ond dyna ni, mae ‘na newid mawr rŵan.”

Dyma’r tro cyntaf i Blaid Cymru fod y blaid fwyaf yn Senedd Cymru ers dechrau datganoli ym 1999. Mae angen 49 sedd ar gyfer mwyafrif mewn Senedd o 96 o seddi, ac mae gan Blaid Cymru 43 o seddi.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    1 Comment
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau
    Iestyn Jones

    Rwan ydi’r amser am annibyniaeth!