Lloyd Warburton gyda dadansoddiad manwl o etholiad Senedd Cymru 2026, gyda sylw i’r pleidiau llai a’r ymgeiswyr annibynnol yn ogystal.
Mae Llafur wedi colli’r Senedd am y tro cyntaf ers datganoli.
Enillodd Plaid Cymru 43 allan o’r 96 sedd, yn ennill yr etholiad. Roedd Reform UK yn ail gyda 34 sedd, Llafur yn drydydd gyda 9, y Ceidwadwyr yn bedwaredd gyda 7. Cadwodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu unig sedd, ym Mhowys ac, am y tro cyntaf, bydd Gwyrddion yn y Senedd.
O ran y bleidlais genedlaethol, derbyniodd Plaid Cymru 35.4%, sef dros 440,000 o bleidleisiau, sy’n record iddyn nhw, ac yn record yn hanes datganoli; does dim plaid erioed wedi cael mwy o bleidleisiau na chafodd Plaid Cymru wythnos diwethaf. Bydde nhw hefyd yn hapus eu bod wedi ennill y bleidlais boblogaidd mewn 11 o’r 16 etholaeth ar draws Cymru. Cafodd Reform UK 29.3% o’r bleidlais, gan ennill 5 o’r 16 etholaeth.
Bydd Llafur yn hynod o siomedig gyda’u perfformiad, gan ennill dim ond 9 sedd ar draws Cymru. Daetho nhw yn y drydydd safle mewn 9 etholaeth, ac yn bedwaredd yn y 7 arall. Collon nhw nifer o bobl bwysig fel Alun Davies (Blaenau Gwent Caerffili Rhymni), Hannah Blythyn (Clwyd), ac wrth gwrs Eluned Morgan yng Ngheredigion Penfro.
Enillodd y Ceidwadwyr 7 sedd, sydd efallai tamed bach yn fwy na beth oedden nhw’n disgwyl, ond ar draws Cymru roedd tipyn o ganlyniadau siomedig iddyn nhw, yn colli dros hanner o’u pleidleisiau ar draws Cymru. Ond yn nodedig iddyn nhw, roedd dim ond 4,277 o bleidleisiau ar draws y wlad tu ôl i Lafur.
Er y ffaith bod y Gwyrddion wedi ennill eu seddi cyntaf yn y Senedd, dwy sedd yng Nghaerdydd, roedd y polau yn pwyntio at ganlyniad lot yn well iddyn nhw, gydag un pôl ym mis Ionawr yn awgrymu dros 10 o seddi, ac efallai bydden nhw wedi disgwyl tamed bach yn fwy na 7% o’r bleidlais ar draws Cymru, ond ar y cyfan, yn hanesyddol i’r blaid, bydden nhw’n hapus i gael y seddi.
Stori arall yw perfformiad siomedig y Democratiaid Rhyddfrydol. Cadwodd Jane Dodds ei sedd ym Mrycheiniog Tawe Nedd, ond disgwylion nhw gipio seddi yng Nghaerdydd Ffynnon Taf ac yng Ngheredigion Penfro, ond fethon nhw, felly bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn hynod o siomedig gyda’i perfformiad nhw.

Roedd yr etholiad yn anodd iawn i’r pleidiau bach. Safodd y Blaid Treftadaeth (Heritage Party) ym mhob ardal yng Nghymru, gan dderbyn dim ond 5,474 o bleidleisiau, sef 0.4% yn genedlaethol.
Roedd ymgeiswyr Gwlad mewn 6 etholaeth ar draws Cymru, gyda’u canlyniadau gorau yn dod yng Ngheredigion Penfro a Gwynedd Maldwyn, lle enillon nhw 0.9% o’r bleidlais. Ar draws Cymru, pleidleisiodd 2,479 o bobl dros Gwlad.
Safodd Propel yn nwy etholaeth yng Nghaerdydd gydag arweinydd Neil McEvoy yn derbyn 4% o’r bleidlais yng Nghaerdydd Penarth. Ar ochr arall Caerdydd, yng Nghaerdydd Ffynnon Taf, derbyniodd Propel 561 o bleidleisiau, sydd tipyn yn is na beth derbynion nhw tro diwethaf yng Nghaerdydd. Ni dderbyniodd unrhyw blaid arall mwy na 1,000 o bleidleisiau ar draws Cymru.
Allan o 30 o ymgeiswyr annibynnol, derbyniodd dim ond 4 ohonynt fwy nag 1% o’r bleidlais yn ei etholaeth. Cyn-AS Ceidwadol Russell George yng Ngwynedd Maldwyn gyda 3.5%, cyn-aelod San Steffan Beth Winter ym Mhontypridd Cynon Merthyr gyda 3.2%, Steve Williams yn Sir Gaerfyrddin (1.5%) a Jordan Brace ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni, gyda 1.3%. Doedd dim un ymgeisydd annibynnol arall yng Nghymru dros 1%.
Mae Rhun ap Iorwerth bellach wedi cymeryd ei le fel Prif Weinidog newydd Cymru, gyda’r Aelod Seneddol Llafur a’r Blaid Gydweithredol, Huw Irranca-Davies wedi ei benodi fel Llywydd y Senedd.







Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr






Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.