Setu trede bloavezh Gouel Kembre-Breizh!
Mae Llydaw a Chymru yn dod ynghyd unwaith eto wythnos nesaf yn Aberystwyth i ddathlu iaith a diwylliant y ddwy wlad.
Fel y ddwy flynedd ddiwethaf, bydd llond wythnos o ddysgu, dawnsio, dathlu ein hieithoedd a mwynhau cerddoriaeth y naill wlad a’r llall.
Yn ogystal â chynnig gwledd o gerddoriaeth Lydewig, mae cyfle am gyflwyniad i’r Llydaweg, chwaeriaith y Gymraeg neu hanes criw o siaradwyr Llydaweg ifanc yn y 70au aeth ati ar eu liwt eu hun i godi gweithgarwch yn yr iaith mewn noson ffilm.
Meddai Felix Parker-Price: “Rydyn ni’n cynnig gweithdai am ddim a chyngherddau ar bris isel (gan gynnwys disgownt i fyfyrwyr a mynediad am ddim i blant) er mwyn lleihau rhwystrau ariannol. Nid ydyn ni am i leiafrif ffodus yn unig gael mwynhau’r achlysur arbennig hwn, ac yn annog pawb yn gryf i roi cynnig ar Fest-Noz (noson o ddawnsio), digwyddiad heb ei ail!
“Mae hefyd yn bleser gennym ddeud y bydd criw awyddus o Sant Brieg, gefeilldref Aberystwyth, yn dod draw yn unswydd ar gyfer yr ŵyl gyda cherddorion a fydd yn cydweithio â cherddorion Twmpath Aberystwyth er mwyn cyfnewid a rhannu cerddoriaeth a pherfformio yn y Fest-Noz.”
“Yn rhan o’r rhannu yma, bydd y criw o Lydaw yn lansio’r gerddoriaeth yn y Bank Vault cyn y Fest-Noz mawr. Byddwn wedyn yn mynd draw i Fachynlleth i gynnal gweithdy dysgu tiwns o Lydaw ac i fwynhau cyngerdd yng nghwmni Beth Celyn, cantores o Gymru sy’n byw yn Aberystwyth cyn dod ynghyd ar gyfer sesiwn.”
Dyma gip ar y rhaglen :
Dyma gip ar y rhaglen sydd gennym:
19/05/26 – gwers ddawnsio – y Cŵps, Aberystwyth 19:00 (am ddim)
20/05/26 – gwers ganu Llydaweg a noson Ffilm – y Cŵps, Aberystwyth 19:00 (am ddim)
21/05/26 – cyngerdd Gloubyboulgah, Maxime Lhermitte, Simon Creac’hcadec, Erell Lhopiteau – y Bank Vault, Aberystwyth 19:30 ymlaen * (£5 / £4 i fyfyrwyr)
22/05/26 – gweithdy tiwns Llydaw, cyngerdd Beth Celyn a Sesiwn – y Wynnstay, Machynlleth – 18:00 ymlaen – cyngerdd am 20:00* (£5 / £4 i fyfyrwyr)
23/05 26 – gwers Lydaweg a gwneud crempogau – Merched y Wawr, Aberystwyth 14:00 (am ddim)
23/05/26 – Fest-noz gyda Gloubyboulgah, Maxime Lhermitte, Simon Creac’hcadec, Erell Lhopiteau, Gwenole Cornec, Cerddorion Ysgol Gerddoriaeth Sant Brieg a Twmpath Aberystwyth – Arad Goch, Aberystwyth 19:00* (£5 / £4 i fyfyrwyr)’
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.