Yr Urdd yn cynnal gŵyl saith diwrnod am y tro cyntaf yn ei hanes 

Newyddion

Wythnos i fynd: Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 

Mae Ynys Môn yn barod i estyn croeso cynnes i bobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt, pan fydd miloedd yn heidio i fwynhau a chystadlu ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar Gae Sioe Môn ger Gwalchmai wythnos nesaf (23-29 Mai). 

Am y tro cyntaf erioed, mae’r Urdd wedi ehangu’r brifwyl o chwech i saith diwrnod eleni, a hynny mewn ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am gystadlaethau newydd. 

Mae’r mudiad yn falch o weld cynnydd yn y nifer o gystadleuwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd rhan eleni, a hynny yn dilyn cyflwyno cystadlaethau ADY newydd. Yn ogystal, gwelwyd mwy nag erioed o blant a phobl ifanc Ynys Môn yn cofrestru i gystadlu yn yr ŵyl, gyda 14,060 cofrestriad. 

Gyda dros 400 o gystadlaethau yn cael eu cynnal yn amrywio o lefaru, canu, a dawnsio i gelf, chrefft, trin gwallt a choginio, bydd y cystadlu yn cychwyn fore Sadwrn, 23 Mai ac yn para trwy gydol yr wythnos tan ddydd Gwener 29 Mai. Mae trefn cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd fel â ganlyn: 

  

  • Dydd Sadwrn: Dysgwyr, Dawnsio Disgo, ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) 
  • Dydd Sul: Aelwydydd 
  • Dydd Llun: Uwchradd bl10 a dan 19 
  • Dydd Mawrth: Uwchradd bl7,8,9, offerynnol bl10 a dan 25 
  • Dydd Mercher: Adrannau, Uwchradd offerynnol bl7,8,9 
  • Dydd Iau: Cynradd (Cân actol a Pherfformiad theatrig i ysgolion ac Adrannau) 
  • Dydd Gwener: Cynradd 

Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Mae Eisteddfod yr Urdd i bawb, ac mae ymestyn yr ŵyl i saith diwrnod am y tro cyntaf erioed wedi’n galluogi i ehangu ein cynnig a denu cystadleuwyr newydd. 

“Mae gweld twf ymysg cystadleuwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn brawf fod yr ŵyl yn parhau i ymestyn cyfleoedd celfyddydol o bob math i blant a phobl ifanc, a hynny drwy’r Gymraeg. 

“Diolch o galon i Ynys Môn am y croeso cynnes, i’r pwyllgorau lleol am eu holl waith a’u cefnogaeth hael, ac i’r cannoedd o wirfoddolwyr fydd yn ein helpu i gynnal gŵyl hanesyddol wythnos nesaf.” 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard: “Fel Môn Mam Cymru, mae Ynys Môn yn un o gadarnleoedd y Gymraeg, ac rydym yn hynod o falch cael croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yma. Mae Eisteddfod yr Urdd yn ddathliad pwerus o’n hiaith, ein diwylliant ac, yn anad dim, o’n pobl ifanc. 

“Mae gŵyl eleni yn arbennig o arwyddocaol gan ei bod yn cael ei chynnal dros saith diwrnod am y tro cyntaf, gyda miloedd o blant a phobl ifanc yn cystadlu ac yn defnyddio’r Gymraeg yn naturiol mewn awyrgylch greadigol, gymdeithasol a chystadleuol. 

“Ar ran Cyngor Sir Ynys Môn a phobl ein hynys, hoffwn estyn croeso cynnes iawn i bawb sy’n ymweld, a dymuno pob lwc i’r holl gystadleuwyr yn ystod wythnos fythgofiadwy yma ar y Fam Ynys.” 

Ychwanega Manon Wyn Williams, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr ŵyl: “Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’r holl unigolion gweithgar a brwdfrydig sydd wedi cyfrannu mewn amrywiol ffyrdd tuag at y paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod eleni. Diolch i’w gwaith caled hwy, rydym wedi llwyddo i gyrraedd targed ariannol y sir a chasglu £380,000. 

“Rydym hefyd yn gwerthfawrogi gwaith diflino hyfforddwyr ac athrawon sydd wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn sicrhau bod mwy nag erioed o blant a phobl ifanc Môn yn cael profiadau amhrisiadwy drwy gystadlu yn yr Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld penllanw gwerth dwy flynedd a hanner o waith paratoi a chael estyn croeso i bawb i’r Eisteddfod saith niwrnod gyntaf ym Môn.” 

Mae’r prif seremonïau fel a ganlyn: Dydd Sadwrn, Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones; Dydd Llun, Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc a’r Fedal Gelf; Dydd Mawrth, Y Fedal Gyfansoddi; Dydd Mercher, Y Fedal Ddrama; Dydd Iau, Y Gadair; Dydd Gwener, Y Goron.  

Cynhelir Gŵyl Triban ar y Maes ar y penwythnos cyntaf (23 a 24 Mai), fel gŵyl deuluol o fewn Eisteddfod yr Urdd. Yn rhan o arlwy nos Sadwrn mae Ciwb, Aleighcia Scott, Dros Dro, Mynadd, Tew Tew Tennau, Maes Parcio, Alis Glyn. Ar y nos Sul bydd perfformiadau gan artistiaid o Fôn sef Elin Fflur, Fleur de Lys, Gwilym, Cordia, Buddug a Popeth. 

Darlledu byw o’r maes 

Mae arlwy S4C o’r Eisteddfod yn cychwyn ar nos Wener, 22 Mai, gyda rhagflas o’r wythnos yng nghwmni Elen Wyn ac Ifan Pritchard ar raglen Croeso i’r Eisteddfod am 8.00yh, ac eto nos Sul 24 Mai am 9.30yh. 

Gall gwylwyr ddilyn yr holl gystadlu o’r pafiliwn Coch, Gwyn a Gwyrdd gydol yr wythnos ar ffrydiau S4C Clic a BBC iPlayer. Bydd y darlledu yn dechrau am 11.00yb ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul cyntaf, ac yna o 9.00yb o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae modd ail-wylio’r cystadlaethau o ffrydiau’r tri pafiliwn am hyd at dri diwrnod wedi’r cystadluwrth fynd i adran ‘Ein Pigion’ ar dop tudalen gartref Clic, a symud yn ôl trwy’r ffrwd darlledu. 

Trystan Ellis-Morris, Heledd Cynwal ac Alun Williams fydd yn cyflwyno rhaglenni byw dyddiol o’r Eisteddfod, gyda’r arlwy yn cychwyn am 12.30yp ar ddydd Sadwrn (23 Mai) a dydd Sul (24 Mai). Mae’r rhaglenni byw yn parhau o ddydd Llun i ddydd Gwener gan ddechrau am 10.30yb. Bydd pob un o’r prif seremonïau yn fyw ar S4C drwy gydol yr wythnos. Bydd Pawb a’i Farnhefyd yn dod o faes yr Eisteddfod ar nos Iau, 28 Mai am 9.35yh. 

Yn ôl yr arfer, bydd S4C yn darlledu rhaglen uchafbwyntiau am 8.00yh o nos Lun hyd at nos Wener, yng nghwmni’r cyflwynydd, Lloyd Lewis. Bydd y rhaglenni uchafbwyntiau hefyd ar gael ar Clic ac iPlayer, gydag is-deitlau Saesneg. 

Bydd BBC Radio Cymru yn darlledu’n fyw o’r Maes drwy gydol yr wythnos, gan gychwyn gyda Ffion Emyr ac Aled Hughes brynhawn Sadwrn a nos Sul. Yna bydd Ifan Evans a Ffion Emyr yn darlledu’n fyw o’r Maes brynhawn Llun a Mawrth, cyn i Lisa Angharad ymuno ag Ifan brynhawn Mercher i Gwener. Bydd BBC Cymru Fyw yn cyhoeddi’r straeondyddiol o’r maes a BBC Radio Cymru 2 yn darlledu Noson Mawrion Môn Gŵyl Triban ar brynhawn Iau, 28 Mai. 

 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau