Edrych tua’r gorwel mae tudalen flaen Y Cymro y mis hwn – oes gobaith go iawn o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? – neu freuddwyd na ellir byth ei gwireddu oedd hynny erioed?
Nid felly meddai Comisiynydd Y Gymraeg ond mae angen dulliau newydd mwy uchelgeisiol i gyrraedd y nod.
Yn y rhifyn mae Efa Gruffydd Jones yn amlinellu’r cefndir y tu ôl i gyhoeddi ei hadroddiad 5-mlynedd, a’r hyn sydd angen ei wneud i’n hiaith ffynnu.
Meddai: “Yr hyn rwy’n ei weld yw cyfleoedd cyffrous, cyfleoedd i feddwl a gweithredu’n wahanol …wrth i bobl bori drwy’r adroddiad swmpus maes o law, fy ngobaith yw y byddant yn teimlo’r un egni a’r brwdfrydedd ag ydw i a’m swyddfa: bod dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar weithredu deallus ac ar gydweithio.” Darllenwch mwy am syniadau Efa yn y rhifyn hwn.
A phwy oedd y Cymro disylw a ddaeth yn un o fapwyr gorau’r ddeunawfed ganrif a gweithio i’r brenin? Mae ei gyfrolau yn cynnwys rhai o luniau cynharaf o drefi Cymru… ond gwyliwch y camgymeriadau iaith hefyd! Darllenwch fwy amdano yng ngholofn yr hanesydd Mel Hopkins yn Y Cymro.
Mae setiau teledu newydd yn sicr yn glyfar …ond nid digon clyfar i gynnig ap CLIC S4C fel rhan o’i strwythur sylfaenol fel mae’n edrych. Pam felly?
Meddai Heledd Gwyndaf yn ei cholofn: “Mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol a Chymdeithas yr Iaith wedi dadlau ers blynyddoedd bod angen blaengaredd ar yr ap Clic ac y dylid rheoleiddio i’r perwyl hwnnw – bod rhaid i sgriniau teledu clyfar sy’n cael eu gwerthu yng Nghymru gael yr ap Clic wedi ei adeiladu mewn iddo fel dewis cyntaf.” Darllenwch fwy o’i barn bendant ar y pwnc yn rhifyn Mawrth.
Ac a yw’r carlam gwyllt at fyd gwyrdd yn mynd yn rhy bell a chyflym i gefn gwlad Cymru? A yw’r weledigaeth o ynni glan – does ots beth yw’r pris – yn cloffi ar fanylion yr ymarferoldeb annymunol?
Ydi wir yn ôl ambell un ac mae’r hyn a ddywedwyd mewn protest yn y senedd yn ddiweddar fel ei fod yn codi stem ymhellach wrth i’r llenni godi ar gynlluniau i greu cadwyn o beilonau a thyrbinau yn nadreddu drwy harddwch Cymru. Dywedodd Natalie Barstow, sylfaenydd Cyfiawnder i Gymru:
“Nid protest yn erbyn ynni adnewyddadwy yw hyn; mae’n ymwneud â sefyll dros yr hyn sy’n iawn. Ein hawl i urddas ac i gael llais, a thros ddyfodol ein tir, ein bywyd gwyllt, a’n bywoliaeth.” Digon teg? Darllenwch farn o bob pegwn ar y pwnc yn Y Cymro.
Mewn llythyr dirdynnol i ddarllenwyr Y Cymro o oerfel erchyll rhyfel Wcráin mae’r newyddiadurwr Nonna Stefanova yn rhoi braslun o’r bywyd beunyddiol iddi hi a’i theulu orfod ei wynebu. “Dinas dywyll, metropolis o filiynau heb ffenestri wedi’u goleuo, heb oleuadau stryd, ac mewn rhai ardaloedd hyd yn oed heb oleuadau traffig – roedd yn olygfa frawychus ac oer. Ond ni wnaethom ganiatáu i’r tywyllwch hwn fynd i’n calonnau.” Darllenwch fwy am ei bywyd anodd yng nghysgod rhyfel.
Mae rhifyn Mawrth ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: tanysgrifio@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
propecia
propecia
remeron medication for anxiety
remeron medication for anxiety
tetracyklina
tetracyklina
prevacid 30 mg price
prevacid 30 mg price