Curo Ipswich ar y Cae Ras
“Mae’n wastad yn braf yn Wrecsam” yn ôl anthem boblogaidd y ‘Declan Swans’…ac mi ydan ni angen llon berfa o’r hen fitamin ‘D’ yn dilyn wythnosau o dywydd diflas ddi-oleuni a gwlyb.
A wyddoch chi be, bysech chi’n taeru fy mod i’n mynd ar fy ngwyliau haf i Dwrci wrth gychwyn ar fy nhaith i Wrecsam. Wir i chi, oni’n teimlo fel glöwr yn dod allan o’r ogof ac yn dallu yn llewyrch yr haul wrth i oleuadau llachar y Stök Cae Ras fy nenu’n agosach… deeewww, lle mae’r eli haul??
Ac er ei bod hi’n dymheredd i rwbio’ch dwylo er mwyn cynhesu, hei – atyniad gêm Cwpan yr FA yn y bedwaredd rownd yn erbyn gwrthwynebwyr uchel eu parch, Ipswich Town a barodd i mi rwbio fy nwylo yn ogystal â llyfu fy ngwefusau… heb sôn am groeso cynnes y Bovril poeth!!
Ond be ydi o am gwpan FA, sy’n creu’r ffasiwn awyrgylch tybed?
Wel… yn ôl neges ysbrydion yr hen gwpan unigryw, mae ganddi’r ddawn i greu chwedlau, oherwydd am un gêm yn unig mae’r ansicrwydd o gael dim ond un cyfle.
Ac eeeeewww… mae gan Wrecsam chwedlau ac arwyr – o Smallman a Southampton, i Mickey ac Arsenal.
Yn fwy diweddar, mae Mullin, Rathbone, ac Okonkwo wedi ymuno ar y rhestr… a bydd mwy o ddreigiau yn ysgrifennu eu henwau yn yr hanes disglair.
Mae’n addas bod David Bowie yn bloeddio allan o’r tannoy gyda ‘Heroes’ a Status Quo yn dilyn, a dyma ni – mae’r Cae Ras wir yn ‘Rockin’ all over the World’ wrth i’r miloedd ganu’r anthemau o un gytgan i’r llall.
Os am wneud enw i chi eich hun, dyma’r llwyfan yn sicr.
Yn fuan aeth Sam Smith o fewn trwch blewyn o sgorio i Wrecsam… Alex Palmer, gol geidwad Ipswich Town, yn arbedio’n arbennig.
Ac fel llwynog llipryn yn sleifio’n dawel yn y nos, mae Ollie Rathbone yn deffro’r fyddin goch gyda thacl mor ffyrnig bysa gwylwyr o America wedi clywed a theimlo… CRUNCH!!!
Mae Rathbone yn creu cyfle allan o nunlle, a Windass yn cymryd y fantais a rhoi’r cochion ar y blaen! 1-0 i Wrecsam.
“Ollie, Ollie, Ollie’ canodd y fyddin goch, wrth i Rathbone, yrru ergyd yn bwanu at gornel top y rhwyd… OND! Arbediad bendigedig gan Alex Palmer yn atal Rathbone rhag cael gôl haeddiannol iawn.
Roedd dwylo prysur Alex Palmer yn sicr o deimlo rhyddhad o glywed y signal ar gyfer yr egwyl hanner amser, wrth i’r Dreigiau fod ar y blaen 1-0.
Dechreuodd Ipswich yr ail hanner yn llawn tân – roedd calonnau’r dorf goch yn eu cegau. Ond roedd amddiffynwyr Wrecsam yn sefyll yn gadarn.
Am gyfnod hir bu llygaid y dorf nerfus ar y cloc. ‘WRECSAM, WRECSAM, WRECSAM!!’ oedd y floedd anferth ar y chwiban olaf.
Ac wrth i’r cefnogwyr gorfoleddus coch dawnsio allan o’r Cae Ras a chamu ymlaen at y 5ed rownd o’r gwpan FA, mi oeddent yn breuddwydio am eu concwest nesaf… a stondinau cwn poeth tŷ allan i Wembley. Hei, mae gan bawb hawl i freuddwydio. Yn enwedig os yw arwr fel Ollie Rathbone wrth eich ochr.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.