Wedi trigain mlynedd o orwedd mewn bocs yn yr atic mae llawysgrif sy’n cofnodi un o brif grefftau y Gymru wledig ar fin ei chyhoeddi’n llyfr.
Ganol yr ugeinfed ganrif roedd D Matthew Williams yn enw cyfarwydd ym myd cyhoeddus y Gymraeg. Er yn wyddonydd ac addysgwr blaengar roedd yn fwy adnabyddus am y doreth o ddramâu a luniodd ar gyfer y cwmnϊau drama a frithai Cymru’r cyfnod. Roedd hefyd yn frawd i’r Athro Griffith John Williams, yr ysgolhaig ac un o sylfaenwyr Plaid Cymru.
Gof ym mhentre Cellan, Ceredigion, oedd ei dad, John Williams. Yn yr 1960au, ag yntau newydd ymddeol o’i waith yn Arolygydd Ysgolion, aeth Matthew Williams ati i gofnodi blwyddyn waith ei dad, gynt gan ddisgrifio fesul tymor anghenion a thechnegau’r hen, hen grefft hon oedd yn prysur ddiflannu o’n cymdogaethau.

Wedi cwblhau’r llawysgrif aeth ati i chwilio lluniau pwrpasol. Ysywaeth yn 1970, cyn iddo gywain y cyfan ynghyd, bu farw’n ddisymwth â’r llyfr heb ei gyhoeddi.
Meddai Elenid Jones, merch Matthew Williams: “Ro’n i’n gw’bod am y llyfr roedd e’n bwriadu’i gyhoeddi a bues i’n ofalus o’r llawysgrif wrth i droeon bywyd fy nhywys o wlad i wlad ac o dŷ i dŷ. Ond ym mhen draw drar neu waelod bocs y buodd ar hyd y blynyddoedd.”
Cyfnod COVID sydd i gyfrif i’r cofnod pwysig hwn weld olau dydd o’r diwedd. Medd Elenid: “A phawb yn gaeth i’r tŷ mi gofiais am y llawysgrif. Profiad cyfareddol oedd ei darllen a sylweddoli ei bod yn gofnod mor gyfoethog o rôl ganolog y gof a’i efail o fewn ffordd o fyw y Gymru a fu.”

Ar unwaith, aeth Elenid ati i droi’r llawysgrif yn deipysgrif, a’r deipysgrif yn llyfr. “Roedd sylweddoli cyn lleied o sylw a roddwyd i’r grefft hynod a hanesyddol hon yn sbardun i sicrhau fod gwaith fy nhad yn cael ei gyhoeddi o’r diwedd’ medd Elenid”
Cyhoeddir ‘Yr Hen Efail’ gan Elenid ei hunan a defnyddir pob dime goch o’r gwerthiant i gefnogi gwaith dyngarol Cymorth Cristnogol yn Gaza.
Lawnsir ‘Yr Hen Efail’ yng Nghanolfan Creuddyn, Llanbedr-Pont-Steffan nos Fawrth, 17 Mawrth mewn cydweithrediad â Chymdeithas Hanes Llambed.
Gellir prynu’r gyfrol (pris £8.00) naill ai mewn siopau yma a thraw neu wrth gysylltu ag Elenid Jones (el******@***oo.com) neu Euros Lewis (we*******@***il.com).
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
viagra sildenafil
viagra sildenafil
bnf metoprolol
bnf metoprolol
fluconazole 150
fluconazole 150
lasix furosemide for dogs
lasix furosemide for dogs
clozapin
clozapin
viagra generico online
viagra generico online
dapoxetine tablet usage
dapoxetine tablet usage
metronidazole topical alcohol
metronidazole topical alcohol
ketoconazole shampoo for Malassezia
ketoconazole shampoo for Malassezia
toradol overview
toradol overview