Mae buddsoddiad gwerth dros £8.94 miliwn i gryfhau amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd a lleoliadau diwylliannol eiconig Cymru wedi’i gyhoeddi i dyfu a chryfhau sylfeini diwylliannol ‘hanfodol’ y genedl.
Mae’r buddsoddiad yn cynnwys:
- £1.9 miliwn ar gyfer 15 prosiect a fydd yn helpu i feithrin capasiti mewn amgueddfeydd, archifau a gwasanaethau llyfrgelloedd lleol drwy arbenigedd ychwanegol gan gynnwyscuraduron, llyfrgellwyr ac archifwyr. Bydd prosiectau sy’n derbyn cyllid yn sicrhau gwelliannau i fynediad i’r cyhoedd, digideiddio casgliadau hanes lleol a defnyddio technoleg ac allgymorth i ddyfnhau ymgysylltiad â’r gymuned.
- Bron i £2.2 miliwn ar gyfer Cronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n cefnogi gwelliannau cyfalaf i adeiladau, lleoliadau a chyfarpar celfyddydol. Mae’rgronfa eisoes wedi cefnogi 40 o brosiectau gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr y Sherman, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Theatr y Torch.
- £767,000 i Opera Cenedlaethol Cymru, drwy Cyngor Celfyddydau Cymru, i gefnogi cynaliadwyedd ariannol y sefydliad hwn o arwyddocâd cenedlaethol a galluogi gwireddu eiweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy a chadarnhaol.
- £250,000 ar gyfer Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i gefnogi ystod o brosiectau i wella cynaliadwyedd a phrofiad ymwelwyr, gan gynnwys cymorth i adfer y Tŷ Gwydr Mawr a’igasgliadau.
- £2 filiwn ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru – yr unig ddarparwr addysg uwch yng Nghymru sy’n darparu hyfforddiant celfyddydau perfformio conservatoire – er mwyn diogelu ei ddyfodol a sicrhau bod darpariaeth cerddoriaeth a drama o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar berfformiad yn parhau.
- £1.87miliwn ar gyfer ailddatblygu Theatr Clwyd i gefnogi gwaith darganfod asbestos a dodrefn a chyfarpar o safon (yn ddarostyngedig i amodau). Mae hyn yn mynd â chyfanswmbuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y prosiect i £25.37 miliwn ers 2022-23.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:
“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol arall mewn sefydliadau diwylliannol yng Nghymru ac mae’n ailddatgan fy nghred nad yw ein hamgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ynychwanegiadau dewisol ond yn sylfeini diwylliannol angenrheidiol. Bydd y prosiectau hyn nid yn unig yn gwella mynediad i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, ond byddantyn meithrin cydweithredu, yn gwarchod hanes lleol ac yn cryfhau ymgysylltu, dysgu a chyfranogiad ar draws cymunedau.
“Bydd y buddsoddiad hwn gwerth £8.94 miliwn yn darparu capasiti hanfodol i sector sydd wedi bod yn glir am y pwysau y mae’n eu hwynebu, gan roi’r cymorth angenrheidiol igyflawni ein blaenoriaethau a’n huchelgeisiau a rennir yn y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant.”
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Rydym yn croesawu buddsoddiad ychwanegol Llywodraeth Cymru yn y celfyddydau, gan gynnwys rhagor o gyllid cyfalaf a chefnogaeth ychwanegol i Opera Cenedlaethol Cymru a’r datblygiad cyffrous yn Theatr Clwyd.
“Bydd yr arian yma’n sicr o gael effaith bositif a hirdymor ar gymunedau ledled Cymru, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’r sector i sicrhau bod profiadau celfyddydolysbrydoledig o ansawdd uchel ar gael ledled Cymru.”
Bydd y cymorth i amgueddfeydd, archifau a gwasanaethau llyfrgelloedd lleol hefyd yn cynnwys £900,000 pellach o gyllid grant, sydd ar gael i’w ddyrannu tan hydref 2026.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
mobic drug
mobic drug
doryx 200 mg price
doryx 200 mg price
augmentin antibiotico
augmentin antibiotico
minoxidil for eyebrows men
minoxidil for eyebrows men
100mg viagra online
100mg viagra online
levitra medication
levitra medication
udenafil
udenafil
sémaglutide prix
sémaglutide prix
semaglutid uten resept
semaglutid uten resept
viagra cialis online
viagra cialis online
does alcohol affect doxycycline monohydrate
does alcohol affect doxycycline monohydrate
doxycycline hydrochloride tablet uses dose
doxycycline hydrochloride tablet uses dose