Am noson – Wrecsam yn curo Nottingham Forest ar giciau o’r smotyn yng Nghwpan yr FA
gan Deio Edwards
Mae hi’n oer, mae hi’n dywyll, ac mae’r addurniadau Nadolig yn ôl yn yr atig. Felly beth sydd gan wythnos gyntaf mis Ionawr i’w gynnig? Ta-da!… wel, 3ydd rownd Cwpan yr FA, ‘baby’!
A pa ffordd well o lithro o’r tywyllwch a’r digalonni, nag i’r sêr disglair yn hongian uwchben y Stök Cae Ras ar nos Wener – nawr ti’n siarad boi.
Wrecsam gartref i Nottingham Forest – amdani bois.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae awyrgylch o ddisgwyliad wedi bod yn yr hen faes pêl-droed hwn. Yn enwedig yn y gynghrair.
Ond phryd bynnag bydd arogl y gwpan yn yr awyr, mae gobaith yn byrstio trwy wythiennau Clwb Pêl-droed Wrecsam pan fo siawns o drechu cawr o’r Uwch Gynghrair.
A da chi’n gwybod be mae gobaith yn neud i’r enaid – ia, cyflymu’n traed yn agosach at yr achos. Deeeeewwww, d’oni angen yr un corwynt i ngwthio at theatr breuddwydion gogledd Cymru. Naci tad, corwynt y Dreigiau Coch oedd yn fy llusgo’n gyflymach na twrci ar sled ar noswyl Nadolig… ‘WEEEEEYYY HEEEEEYYY!’
A gad i mi ddweud wrthoch, ’sa chi’n tybio fod yr hen Guto Ffowc wedi plannu tunnell o dan gwyllt o dan ddaear dinas Wrecsam – roedd yr hen le’n dargrynu yr eiliad cyrhaeddais hyd yn oed awr a hanner cyn y gic gyntaf, gyda’r tafarndai yn orlawn a chrynu i’r floedd o’r hoff ganeuon. Roedd arogl cŵn poeth, byrgyrs a nionod yn fy nhywys tuag at y giatiau, fel yr hen hysbyseb ‘Bisto’ … aah, dyma’r bywyd.
Does dim byd gwell gennai na cwpan poeth o Bovril, a pei taten a chig… mmm. Plîs syr, gai fwy!
Beth bynnag, y prif gwrs ar y fwydlen y noson fywiog yma oedd y gêm cwpan… argian, pryd mae’r gic gyntaf?
Tra bod yr anthem ‘NI YW’R FYDDIN GOCH A GWYN!’ yn adleisio y tu mewn i’r hen stadiwm enwog, doedd neb o’r dorf wedi sylwi ar chwiban cyntaf y dyfarnwr, gymaint oedd dwyster yr awyrgylch.
Roedd pob tacl a brwydr yn cael i groesawu gyda sgrech fyddarol… heb sôn am yr iaith liwgar!
Hei, oni’n eistedd rhwng boi o Fecsico, a’r llall o Thailand. Roedd yr hen ‘Google translate’ yn brysur iawn drwy’r gêm yn wir i chi. Ond o leiaf roedd ein stumantiau gwyneb yn medru dweud y cyfan.
Yn sydyn, mae pawb ar eu traed, cyfle i Sam Smith – heibio’r postyn. Dwylo’r dorf goch tu ôl yw pennau ag yn syllu at y nefoedd.
Yn fuan, mae’r dwylo, y floedd, ac enaid y fyddin goch YN y nefoedd, ar ôl i Liberato Cacace sgorio gyda bwled isel i roi Wrecsam ar y blaen.
I gyd-fynd a’r llif, bu’r dorf gartref yn nofio i’r gân ‘Ar hyd y nos’ …ond daliwch y llong – mae Ollie Rathbone yn dawnsio o gwmpas amddiffynwyr yr ymwelwyr fel John Travolta a gwthio’r bel heibio’r gôl geidwad fel Pele… 2-0 i’r Dreigiau Coch.
Wel wir i chi, roeddwn i angen y siocled ‘Yorkie’ ar yr hanner amser… mam bach, roedd y lefelau egni mor isel â’r tymheredd yn Siberia yng nghanol gaeaf.
Roedd fy ffrind o Fecsico yn ceisio cychwyn ‘Mexican wave’ yn dilyn yr arbediad dewr gan Okonkwo.
Beth bynnag, mae’r iaith a’r awyr yn troi’n las yn o sydyn… Igor Jesus yn sgorio i Forest. 2-1. Ac mae ‘na elfen o densiwn yn hongian yn yr awyr, ’sa chi’n gallu hongian eich côt arno.
Ond fel bwyall finiog, mae Dom Hyam yn torri’r tensiwn gyda pheniad taclus i roi Wrecsam 3-1 ar y blaen cyn i Callum Hudson Odi fachu gôl yn ôl i Forest. 3-2.
Cafwyd moment o barch yng nghanol y cyffro, wrth i bawb sefyll ar eu traed i gymeradwyo ar ôl marwolaeth trist cyn arwr Cymru, Terry Yorath.
Mae’r sain yn codi. Does ‘na ddim byd tebyg i fod yn bresennol mewn awyrgylch gêm fyw. Da chi’n teimlo pob emosiwn o dan y lleuad ar noson fel hyn.
Yna mae Nicolõ Savola yn ei gwneud hi’n gyfartal gyda munud yn unig i fynd. 3 – 3.
Amser ychwanegol… o diar, mae nghalon i’n racs, ac o, mae’r teimlad o flinder wedi cael effaith ar y cloc hefyd… eeewww mae’n tician mor araf. Mae’r dorf yn deffro yn dilyn hanner cyfle i Wrecsam o gic gornel. Mwy o syllu at y nefoedd.
Mae’r ail hanner o’r amser ychwanegol yn nerfus iawn… lot o gnoi gwinedd. Ahhh well, ciciau o’r smotyn amdani.
Dwi’n methu cyrraedd gwinedd fy nhraed i’w cnoi…
Mae Windass a Gibbs-White yn sgorio i Wrecsam a Forest.
Ond mae McClean a Jesus yn methu i Wrecsam a Forest.
Mam bach, mae ‘na lot ohonom methu dioddef y tensiwn ac yn pipian drwy’n dwylo.
Mae Doyle a Hudson Odoi yn sgorio i Wrecsam a Forest.
Mae Rodriguez yn sgorio i Wrecsam, ac mae pawb yn gwybod y goblygiad. Mae cefnogwyr Wrecsam yn gweddïo i Hutchinson fethu i selio’r fuddugoliaeth i’r dewrion coch. Pawb yn dal ei gwynt – yna bloedd chwalu clustiau, ar ôl arbediad gwych gan Okonkwo.
Mae’r anthem ‘Tequila’ yn llenwi’r awyr fel corwynt. Hei, fysa’r hen Steven Spielberg methu ysgrifennu sgript mor ddramatig â hyn… am ddrama! Sy’n profi drosodd a throsodd – lle bynnag mae enaid, mae gobaith. Sbïwch dan graidd yr hen Gae Ras – nid pridd na chreigiau byddwch yn ei ddarganfod ond cymuned yn tyfu gobaith.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.